'Sicrwydd' bydd mwy o blant mewn tlodi gyda thoriadau - elusen
- Cyhoeddwyd
Bydd mwy o blant yng Nghymru yn disgyn i dlodi os fydd Llywodraeth Cymru yn bwrw 'mlaen â thoriadau i gyllidebau awdurdodau lleol, yn ôl elusen.
Dangosodd ymchwil diweddar gan BBC Cymru y gallai cynghorau sir wynebu diffyg cyllid cyfunol o dros £394.8m dros y ddwy flynedd nesaf.
Daw wrth i fanc bwyd yn Ninbych glywed am bobl sy'n coginio dros dân yn yr ardd i osgoi defnyddio ynni.
Yn ôl clwb ieuenctid sydd wedi ei sefydlu dros yr haf yng Nghaernarfon mae 'na boeni dybryd am gyllid hirdymor, ac effaith unrhyw doriadau ar blant a phobl ifanc.
Gyda 34% o blant Cymru bellach yn byw mewn tlodi, dywedodd Llywodraeth Cymru fod gwaredu tlodi pant yn flaenoriaeth.
Dros gyfnod yr haf mae 'na groeso cynnes i bobl ifanc yng nghanolfan Porthi Dre yng Nghaernarfon bob nos Fercher.
Unwaith yr wythnos mae 'na fwyd a gweithgareddau am ddim yn cynnwys sesiynau DJ'io, creu smoothies a sglefrfyrddio.
Y nod ydy cynnig cyfleoedd am ddim i unrhyw un sydd awydd, a hynny eisoes yn profi'n boblogaidd yn ôl y Cynghorydd Dawn Lynne Jones.
"'Da ni 'di cael ymateb gwych, mae'n niferoedd ni wedi bod rhwng 20 i 40 bob wythnos", meddai.
"Tywydd... haul, gwynt a glaw- maen nhw 'di bod yn dŵad yma."
Mae'r clwb yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc fyddai fel arall heb ddim i'w wneud.
Yn ôl Millie mae'n le i "aros, a charjio ffôns, cael wifi a bwyd am ddim".
Fel arfer oedda ni'n "ista yn bus stops neu fatha mynd i McDonalds neu wbath", meddai.
2,500 mewn tlodi yn Arfon
Ar yr olwg gyntaf dydy'r cynllun yma, sy'n cael ei ariannu gan noddwyr fel Cyngor Gwynedd, Cyngor Tref Caernarfon, Hwb a'r heddlu, ddim yn torri tir newydd, ond eto mae'n rhannol mynd i'r afael â thlodi yn yr ardal wrth gynnig profiadau a bwyd am ddim.
Yn ôl adroddiad diweddar gan Sefydliad Bevan mae 'na dros 2,500 o bobl ifanc yn Arfon yn byw mewn tlodi.
Er bod y ffigwr yna (21%) yn is na'r cyfartaledd cenedlaethol, mae'r gwaith ymchwil yn nodi nad yw'r ystadegau yn cynnig darlun clir o ddifrifoldeb tlodi'r ardal.
Gyda bygythiad i gyllidebau llywodraethau lleol ledled Cymru, mae un cynghorydd yng Ngwynedd am weld gwasanaethau i blant yn cael eu diogelu.
"Mae gyno ni grant ar hyn o bryd sydd i barhau chwech wythnos a da ni'n mynd o wythnos i wythnos", meddai'r Cynghorydd Dewi Jones.
"I ni, fel prosiect cymharol newydd, mae'n rhaid i ni edrych ar hyn, os yda ni'n penderfynu fod hwn am fod yma am flynyddoedd i ddod, mae rhaid edrych ar gyllido ac mae hynny am fod yn her."
Gyda chyllidebau llywodraeth leol yn debygol o gael eu torri fwy fyth dros y blynyddoedd sydd i ddod mae'n poeni y bydd y sgil effeithiau yn bellgyrhaeddol.
"Nid just llai o dorri gwair neu godi sbwriel - yr hyn 'da ni am weld llai ohono fo ydy gwasanaethau sydd yn mynd ati i daclo tlodi yn cael eu torri... ac ia, pethau fel hyn ella yn sicr."
Coginio dros dân i arbed arian
Yn Ninbych, mae staff banc bwyd wedi clywed am bobl yn coginio i'w plant dros dân agored er mwyn osgoi defnyddio stof, wrth i'r esgid wasgu.
Dywedodd Gwyn Parry o Fanc Bwyd Dinbych bod yr unigolyn yn "eitha' rheolaidd yn y banc bwyd" ac yn "disgrifio sut mae 'di bod yn edrych ar ôl ei blant ar ben ei hun, bod o'n coginio dros tân yn yr ardd".
"Yn amlwg mae costau coginio ar stof draddodiadol yn achosi i bobl feddwl ddwywaith cyn coginio i'w plant", meddai ar Dros Frecwast.
Ychwanegodd bod y banc bwyd yn mynd i newid oriau agor yn y dyfodol, wrth i fwy o bobl sydd mewn gwaith fod angen y banc, ac ond yn gallu cyrraedd y tu allan i oriau gweithio.
"Mae lot yn dod i'r banc bwyd 'efo plant, ac mae straeon y plant pan maen nhw'n gweld be sydd ar y silffoedd yn mynd at rywun.
"Maen nhw'n gweld pethau da, bosib bod nhw'm yn cael oherwydd bod rhieni'n torri nôl ar wariant."
Er y galw cynyddol, dywedodd bod cyfraniadau i'r banc bwyd wedi gostwng, gan fod y cynnydd mewn costau byw yn effeithio pawb.
Yn ôl elusen Plant yng Nghymru, mae 'na boeni mawr am effaith rhagor o doriadau.
"Fe allwn ni ddweud gyda sicrwydd fod unrhyw doriadau yn mynd i gael effaith negyddol", meddai'r prif weithredwr Hugh Russell.
"Mae pobl ifanc yn son wrthym am fethu a chael mynediad at wasanaethau hanfodol fel bod trafnidiaeth yn rhy ddrud - pobl ifanc felly yn methu allan at addysg a gwasanaethau iechyd fel engraifft.
"Maen nhw'n dweud wrthym bod nhw'n teimlo nad oes ganddyn nhw lle i fynd a ma' hyn yn bryderus tu hwnt."
Yn ôl yr arbenigwr Dr Hefin Gwilym, Darlithydd Polisi Cymdeithasol Prifysgol Bangor, mae'n anochel y bydd toriadau yn arwain at ragor o dlodi.
"Mae rhain yn doriadau ar ben toriadau sydd wedi digwydd yn barod, a fydd o'n cael effaith fawr ar blant a phobl ifanc.
"Mae mynd i ganolfannau pobl ifanc yn helpu nhw i ddatblygu sgiliau, i fod mewn lle saff a dod i 'nabod pobl ac i ddod oddi wrth unigrwydd a phroblemau iechyd meddwl. Yn y tymor hir mae'n bwydo i cycle o dlodi lle fydd y genhedlaeth nesaf yn dlawd.
"O ran canolfannau pobl ifanc mae tua 50% wedi diflannu ers 2010 a ma' hynny'n swm aruthrol a felly does dim lle i 'neud toriadau."
Taclo tlodi'n 'flaenoriaeth'
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae mynd i'r afael â thlodi plant yn "flaenoriaeth".
Dywedodd llefarydd: "Rydym yn darparu £13m eleni i helpu gwasanaethau ieuenctid ac mae hynny yn fwy na deirgwaith yn fwy nag yn 2018.
"Rydym hefyd wedi cyhoeddi £1m yn rhagor i 18 o sefydliadau gwirfoddoli.
"Er hyn mae nifer o'r grymoedd sydd eu hangen fel budd-daliadau lles a phwerau ariannol yn gorwedd yn San Steffan."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Awst 2023
- Cyhoeddwyd10 Awst 2023