Tom Lockyer yn ôl yng ngharfan Cymru wedi triniaeth calon

  • Cyhoeddwyd
Tom LockyerFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Tom Lockyer yn rhan o garfan Cymru ar gyfer Euro 2020 a Chwpan y Byd 2022

Mae Tom Lockyer yn dychwelyd i garfan Cymru ar gyfer y gemau yn erbyn De Corea a Latfia wedi i gapten Luton wella o lawdriniaeth ar ei galon.

Roedd disgwyl i'r amddiffynnwr fod yng ngharfan Cymru dros yr haf, cyn iddo lewygu ar y cae yn ffeinal gemau ail gyfle'r Bencampwriaeth yn Wembley fis Mai.

Ond dyw Dan James ddim wedi'i gynnwys yng ngharfan Rob Page oherwydd anaf.

Mae tri chwaraewr sydd eto i ennill cap yn y garfan - golwr Wolves Tom King, amddiffynnwr QPR Morgan Fox, ac ymosodwr Abertawe Liam Cullen.

Mae chwaraewr canol cae Bolton Wanderers, Josh Sheehan, hefyd yn dychwelyd i'r garfan ar ôl peidio â chael ei gynnwys ers 2021.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r chwaraewr canol cae Josh Sheehan wedi'i gynnwys yn y garfan am y tro cyntaf mewn dwy flynedd

Bydd Cymru'n herio De Corea mewn gêm gyfeillgar yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar nos Iau, 7 Medi, cyn teithio i Latfia ar gyfer gêm yn rowndiau rhagbrofol Euro 2024 ar y nos Lun ganlynol.

Dim ond un o'r 12 gêm ddiwethaf mae Cymru wedi'i hennill, gyda dwy golled yn erbyn Twrci ac Armenia yn yr haf yn rhoi ergyd fawr i'w gobeithion o gyrraedd Euro 2024 yn Yr Almaen.

Ond hyd yn oed os nad ydyn nhw'n cymhwyso trwy orffen yn y ddau uchaf yng Ngrŵp D, mae disgwyl i dîm Rob Page fod yn y gemau ail gyfle am eu bod yn haen uchaf Cynghrair y Cenhedloedd yn 2022.

Y garfan yn llawn

Wayne Hennessey, Danny Ward, Adam Davies, Tom King; Ben Davies, Morgan Fox, Joe Rodon, Ben Cabango, Chris Mepham, Tom Lockyer, Neco Williams, Connor Roberts, Wes Burns, Ethan Ampadu, Josh Sheehan, Jordan James, Joe Morrell, Harry Wilson, Aaron Ramsey, Kieffer Moore, Nathan Broadhead, Brennan Johnson, David Brooks, Tom Bradshaw, Liam Cullen.