Pum babi o Gymru'n rhan o'r achos yn erbyn Lucy Letby

  • Cyhoeddwyd
Lucy LetbyFfynhonnell y llun, Heddlu Sir Caer
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lucy Letby wedi cael dedfryd carchar am oes am lofruddio saith saith o fabanod a cheisio llofruddio chwech arall

Mae Ysgrifennydd Iechyd Lloegr wedi dweud y bydd yr ymchwiliad i achos Lucy Letby yn ystyried profiadau babanod o Gymru a ddefnyddiodd gwasanaethau yn Lloegr, gan gadarnhau bod "pump o'r babanod oedd yn rhan o'r achos llys yn [gleifion] trawsffiniol".

Roedd Steve Barclay yn ymateb i gwestiwn gan AS Dwyfor Meirionydd, Liz Saville Roberts sut y byddai'r ymchwiliad yn delio â chleifion a babanod o Gymru sydd angen triniaeth yn Lloegr.

Mewn ymateb i sylwadau Mr Barclay, dywedodd Ms Saville Roberts bod "teuluoedd y pum babi druan o Gymru, a'r rhai eraill lu dros y ffin, yn haeddu ymddiriedaeth lwyr y bydd rheolwyr ysbyty'n llawn atebol am y methiannau ofnadwy yn yr achos yma".

Fe fynegodd gobaith hefyd "y bydd mesurau'n cael eu gosod i sicrhau bod y troseddau erchyll yma byth yn bosib yn y dyfodol".

Roedd y nyrs 33 oed wedi gwadu llofruddio neu geisio llofruddio babanod bregus yn ei gofal yn Ysbyty Countess of Chester rhwng Mehefin 2015 a Mehefin 2016.

Ond fe benderfynodd rheithgor yn Llys y Goron Manceinion ei bod yn euog o lofruddio saith o'r babanod a cheisio llofruddio chwech yn rhagor.

Bydd yn treulio gweddill ei hoes yn y carchar, heb unrhyw obaith o barôl.

Mae 20,000 o bobl o ogledd-ddwyrain Cymru'n defnyddio'r ysbyty bob blwyddyn, ac roedd y BBC yn deall bod babanod a gafodd eu geni i deuluoedd o Gymru ymhlith y rheiny a effeithiwyd gan droseddau Letby.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ymchwiliad yn debygol o ystyried pam na chafodd Letby ei hamau ynghynt

Fe gadarnhaodd Mr Barclay, ddiwrnod y dedfrydu, fwriad i gynnal ymchwiliad annibynnol i amgylchiadau'r llofruddiaethau "er mwyn helpu sicrhau bod teuluoedd yn cael yr atebion maen nhw eu hangen".

Mewn datganiad yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Llun, fe gadarnhaodd mai'r barnwr Llys Apêl, Yr Arglwyddes Ustus Thirwall, fydd yn arwain yr ymchwiliad.

Roedd cwestiwn Ms Saville Roberts, meddai Mr Barclay, yn un "hynod o bwysig oherwydd roedd pump o'r babanod yn yr achos ar sail trawsffiniol".

Dywedodd ei fod yn bwysig i ddysgu gwersi o'r ymchwiliad ac edrych ar sut mae cynnwys achosion, ble mae "babi teulu o Gymru" ac ei fod yn "gwybod bod hynny'n rhywbeth y bydd yr Ustus Thirlwall yn ei ystyried" ar sail "ei thrafodaethau gyda'r teuluoedd".

Mewn ymateb, dywedodd Ms Saville Roberts ei bod yn croesawu cadarnhad Mr Barclay y bydd arweinydd yr ymchwiliad "yn ystyried yn llawn goblygiadau trawsffiniol yr achos erchyll yma".

Ychwanegodd: "Rwy'n gobeithio bydd cylch gorchwyl yr ymchwiliad yn hwyluso archwiliad trwyadl i ansawdd diogelwch cleifion a'r cyfathrebu rhwng byrddau iechyd ac ysbytai ar draws y ffin yn y gorffennol, ac yn gwneud argymhellion cadarn at y dyfodol."