Mam o Gymru'n credu fod Lucy Letby wedi targedu ei mab
- Cyhoeddwyd

Roedd Lucy Letby yn yr ystafell ar y diwrnod y bu farw Alvin meddai Emily Morris
Mae mam i faban ifanc, fu dan oruchwyliaeth y nyrs Lucy Letby cyn iddo farw, yn galw ar yr heddlu i edrych eto ar achos ei mab.
Mae Emily Morris, 35 o Lannau Dyfrdwy yn Sir y Fflint, yn amau bod ei mab wedi cael ei dargedu gan Letby yn 2013, er nad oedd y farwolaeth yn rhan o'r achos llys yn erbyn y nyrs.
Yn gynharach yn y mis, cafwyd Letby yn euog o lofruddio saith babi ac o geisio llofruddio chwech arall yn Ysbyty Iarlles Caer rhwng Mehefin 2015 a Mehefin 2016.
Cafodd ei dedfrydu i garchar am weddill ei hoes, sy'n golygu na chaiff hi ei rhyddhau.
Dywedodd Heddlu Sir Caer eu bod wedi "ymrwymo i ymchwiliad llawn a thrwyadl i holl gyfnod Lucy Letby yn gweithio fel nyrs".
Mae Llywodraeth y DU wedi gorchymyn archwiliad annibynnol i'r hyn ddigwyddodd, yn cynnwys y ffordd y cafodd pryderon clinigwyr yn yr ysbyty eu trin.

Bu farw Alvin yn adran newydd-anedig Ysbyty Iarlles Caer yn 2013
Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru dywedodd Ms Morris fod ei mab Alvin wedi marw yn adran newydd-anedig yr ysbyty yn 2013, pan oedd Letby yn gweithio yno.
Daeth Letby i fedydd Alvin ac ysgrifennodd neges yn ei lyfr bedydd yn dweud: "To Alvin, with love on your special day x".
"Roedd o'n dorcalonnus gweld ei henw yn y llyfr oherwydd yr holl bethau rydan ni wedi'i ddarllen yn y newyddion oedd yn dweud mai'r plant gafodd eu targedu oedd y rhai y gwnaeth hi ysgrifennu atynt [eu teuluoedd], felly dwi'n credu yn fy nghalon y gallai Alvin fod wedi cael ei dargedu," meddai Ms Morris.
'Teuluoedd angen atebion'
Dywedodd fod swyddogion oedd yn ymchwilio i achos Letby wedi dweud wrthi yn 2018 nad oedden nhw wedi canfod unrhyw amgylchiadau amheus yn achos Alvin, ond mae hi nawr yn galw arnynt i ailedrych ar y dystiolaeth.
"Fe fyddai'n ofnadwy cael gwybod ei bod hi wedi brifo fy hogyn bach - fo oedd y babi hapusaf yn y byd," meddai Ms Morris.
Ychwanegodd llystad Alvin a phartner Ms Morris, Mark Lewis, 39: "Dylen nhw ailedrych ar bob un achos oedd yn ymwneud â Lucy Letby.
"Mae teuluoedd angen atebion."

Mae mam a llys-tad Alvin eisiau i'r heddlu edrych eto ar achos y bachgen bach
Dywedodd Heddlu Sir Caer eu bod wedi "ymrwymo i ymchwiliad llawn a thrwyadl i holl gyfnod Lucy Letby yn gweithio fel nyrs, un ai yn Ysbyty Iarlles Caer neu yn Ysbyty Menywod Lerpwl".
"Mae'r ymchwiliad yma yn parhau, gyda phroses meddwl-agored a thryloyw," meddai llefarydd.
"Mae teuluoedd yr holl fabanod sy'n rhan o'r ymchwiliad yma wedi cael gwybod, a'u cefnogi."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Awst 2023
- Cyhoeddwyd21 Awst 2023
- Cyhoeddwyd18 Awst 2023
- Cyhoeddwyd18 Awst 2023