Concrit RAAC: 'Angen i Lywodraeth Cymru fod yn dryloyw'

  • Cyhoeddwyd
Heledd Fychan
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n aneglur, medd Heledd Fychan, pa waith asesu sydd wedi ei wneud ac sydd eto i'w wneud

Mae Aelod o'r Senedd Plaid Cymru wedi galw am "dryloywder" gan Lywodraeth Cymru ynghylch concrit RAAC mewn ysgolion, gan ddweud bod y mater "yn rhy bwysig i chwarae gwleidyddiaeth" yn ei gylch.

Roedd Heledd Fychan yn ymateb i ymchwil rhaglen Newyddion S4C sy'n awgrymu mai dim ond yn ddiweddar iawn y dechreuodd y gwaith o archwilio ysgolion allai fod wedi eu hadeiladu â'r concrit sy'n gallu dymchwel yn ddirybudd.

Ddydd Gwener, fe gyhoeddodd y llywodraeth eu bod wedi comisiynu gwaith i edrych am y concrit yma mewn ysgolion ym mis Mai.

Ond mae'r rhaglen wedi darganfod mai cyfeirio at adroddiad am ddadgarboneiddio oedden nhw, ac nad oedd y gwaith go iawn o archwilio ysgolion i fod i ddechrau tan fis Hydref.

Dyw Llywodraeth Cymru heb ateb cwestiynau pellach o ran faint o ysgolion sydd wedi cael eu harchwilio, ond maen nhw'n dweud y dylai pob safle fod wedi eu hasesu erbyn wythnos i ddydd Gwener.

Daw'r datblygiad wrth i Gomisiynydd Plant Cymru, Roco Cifuentes, feirniadu Llywodraeth Cymru, gan ddweud bod yna ddiffyg eglurder i rieni a disgyblion yn eu datganiadau hyd yn hyn.

Wythnos ddiwethaf fe ddaeth i'r amlwg bod concrit RAAC wedi ei ganfod mewn dros 150 o ysgolion yn Lloegr.

Mae yna ofnau y gallai'r concrit, y mae 70% ohono'n swigod aer, ddirywio wedi oddeutu 30 o flynyddoedd a chwympo'n ddirybudd.

Disgrifiad,

Beth yw concrit RAAC a pham ei fod yn beryglus?

Dywedodd Llywodraeth Cymru mewn ymateb eu bod wedi gweithredu'n "wahanol" yng Nghymru.

Mewn datganiad dywedodd y llywodraeth ei bod wedi comisiynu "arolwg o gyflwr pob ysgol a choleg sydd wedi eu hariannu gan y wladwriaeth a fydd yn nodi unrhyw adeiladau all fod yn cynnwys RAAC... yn gynharach eleni".

Mewn datganiad dilynol, fe ddywedodd y llywodraeth wrth BBC Cymru bod y gwaith wedi ei gomisiynu ym mis Mai.

Ond wedi cyfres o ebyst, fe gadarnhaodd y llywodraeth bod yr arolwg cyflwr, mewn gwirionedd, yn gysylltiedig â chomisiwn i gwmni o'r enw Aecom asesu dadgarboneiddio ysgolion.

Yn ôl yr adroddiad, roedd gwaith prawf i ddechrau dros yr haf, a'r gwaith go iawn i ddechrau ym mis Hydref, gan bara am flwyddyn.

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd yr holl waith o asesu safleoedd ysgolion yng Nghymru wedi ei gwblhau erbyn 15 Medi.

Beth yw'r diweddaraf ym Môn?

Mae Cyngor Sir Ynys Môn eisoes wedi cadarnhau bod concrit RAAC wedi ei ddefnyddio mewn dwy ysgol uwchradd yn y sir.

Mae Ysgol David Hughes ac Ysgauol Uwchradd Caergybi wedi bod ar gau ar ddechrau'r tymor o ganlyniad.

Bydd Ysgol David Hughes yn rhannol ailagor i ddisgyblion blwyddyn 7, 11 a 12 ddydd Iau, gyda staff a disgyblion yn cael eu hadleoli i rannau o'r ysgol sydd heb eu heffeithio gan RAAC.

Mae Ysgol Uwchradd Caergybi yn parhau ar gau i bawb, gyda gwersi ar-lein yn cael eu cyflwyno o ddydd Iau. Y gobaith yw y gall rhai disgyblion ddychwelyd i'r ysgol yr wythnos nesaf.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysgol David Hughes ac Ysgol Uwchradd Caergybi wedi bod ar gau ar ddechrau'r tymor ar ôl canfod RAAC yn yr adeiladau

Dywedodd Heledd Fychan, llefarydd addysg Plaid Cymru yn Senedd Cymru: "Diogelwch plant a phobl ifanc, a'r rheiny sy'n gweithio mewn ysgolion ac adeiladau cyhoeddus, ddylai fod yn flaenoriaeth i bawb ohonon ni - nid chwarae gwleidyddiaeth.

"Mae hyn yn llawer rhy ddifrifol o ran hynny, felly 'dan ni angen tryloywder llwyr gan y llywodraeth o ran y gwaith sydd wedi'i gwblhau, a'r amserlen wedyn o ran cwblhau y gwaith sy'n weddill."

'Aneglur iawn pa waith sydd wedi'i wneud'

Ychwanegodd "Mae'n aneglur iawn pa waith sydd wedi'i wneud, neu pa waith sydd ar fin cael ei wneud.

"'Dan ni'n gweld bod yr adroddiad oedden nhw [Llywodraeth Cymru] yn cyfeirio ato fo o ran comisiynu gwaith ac ati, bod y gwaith hwnnw fis i ddechrau ym mis Hydref eleni, a'i gwblhau o fewn blwyddyn.

"Ond o weld bod pethau wedi newid yn sgil y wybodaeth sy'n dod o Loegr, yr hyn fydd pawb isio w'bod ydy: 'ydy ysgolion ac adeiladau cyhoeddus yn ddiogel?'"

Doedd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, ddim ar gael i roi sylw i Newyddion S4C.

Mae'r rhaglen wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am fanylion pryd y gwnaeth cwmni Aecom ddechrau cysylltu ag ysgolion, a faint o ysgolion y maen nhw wedi cysylltu â nhw hyd yn hyn.