Y Sŵn yn arwain enwebiadau BAFTA Cymru 2023

  • Cyhoeddwyd
BAFTA CymruFfynhonnell y llun, BAFTA
Disgrifiad o’r llun,

Bydd enillwyr yr holl wobrau yn cael eu cyhoeddi ar 15 Hydref

Mae BAFTA Cymru wedi cyhoeddi ei henwebiadau ar gyfer gwobrau 2023, gyda ffilm Y Sŵn yn arwain y ffordd.

Mae'r ddrama - sy'n dilyn hanes Gwynfor Evans wrth ymgyrchu am sianel deledu Cymraeg - wedi derbyn saith enwebiad, tra bod rhaglen ddogfen Stori'r Iaith wedi'i henwebu mewn pum categori.

Hefyd wedi'i enwebu mae Graham Land, a ddioddefodd strôc ym mis Ebrill, am ei rôl yn Dal y Mellt, a Chris Roberts - gyda'i raglen Chris a'r Afal Mawr wedi'i henwebu am bum wobr.

Bydd enillwyr yr holl wobrau, sy'n cwmpasu meysydd crefft, perfformio a chynhyrchu, yn cael eu cyhoeddi ar 15 Hydref mewn seremoni yng Nghanolfan Gynadledda Rhyngwladol Cymru yng Nghasnewydd.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Rhodri Evan yn chwarae Gwynfor Evans yn Y Sŵn. Mae'r ddrama wedi'i henwebu am saith wobr

Mae eisoes wedi'i chyhoeddi mai Rakie Ayola sy'n derbyn Tlws Siân Phillips eleni, am gyfraniad sylweddol mewn ffilm neu raglen deledu.

Dywedodd cadeirydd BAFTA Cymru, Angharad Mair: "Gyda gwaith cynhyrchu ffilm a theledu o Gymru yn cyrraedd pob cwr o'r byd, mae nodi, dathlu a hyrwyddo ein talent a chreadigrwydd yn bwysicach nag erioed."

Yr enwebiadau'n llawn

Actor

  • Graham Land - Dal Y Mellt - Vox Pictures / S4C

  • Owain Arthur - The Lord Of The Rings: The Rings of Power - Amazon Studios / Amazon Prime Video

  • Rhys Ifans - House of The Dragon - HBO / 1:26 Pictures / Bastard Sword / GRRM Productions / Sky Atlantic

  • Taron Egerton - Black Bird - Apple Studios / Apple TV+

Actores

  • Eiry Thomas - Y Sŵn - Swnllyd

  • Katy Wix - Big Boys - Roughcut TV / Channel 4

  • Rakie Ayola - The Pact - Little Door Productions / BBC One Wales

  • Ruth Wilson - His Dark Materials - Bad Wolf / BBC iPlayer

Cymru Torri Drwodd

  • Emily Morus-Jones - Diomysus: More than Monogamy - BBC Wales & Emily Morus-Jones Production / BBC Three

  • Issa Farfour - Wales this Week and Wales at Six - ITV Cymru Wales

  • Mared Jarman - How This Blind Girl.. - Boom Cymru / BBC Two

Rhaglen Blant

  • Gwrach y Rhibyn - Boom Cymru / S4C

  • Mabinogiogi - Boom Cymru / S4C

  • Y Goleudy - Boom Cymru / S4C

Dylunio Gwisgoedd

  • Jo Thompson - Save The Cinema - Future Artists Entertainment Ltd / Sky Cinema

  • Sarah Young - Willow - Lucasfilm Ltd. / Disney+

  • Siân Jenkins - Dream Horse - Film 4 Productions / Topic Studios / Ffilm Cymru Wales / Ingenious Media / Raw TV / Popara Films / Warner Bros.

Cyfarwyddwr: Ffeithiol

  • Chloe Fairweather - Scouting for Girls: Fashion's Darkest Secret - The Guardian / Wonderhood Studios / Sky Studios / Sky Documentaries

  • Clare Sturges - Charlie Mackesy: The boy, the Mole, the Fox, the Horse and Me - Salon Charlie Ltd / BBC Two

  • Dylan Wyn Richards - Greenham - Teledu Tinopolis Cymru Cyf / S4C

  • Gruffydd Sion Rees - Stori'r Iaith - Rondo Media / S4C

Cyfarwyddwr: Ffuglen

  • Isabella Eklöf - Industry - Bad Wolf / BBC iPlayer

  • Lee Haven Jones - Y Sŵn - Swnllyd

  • Richard Stoddard - Brassic - Calamity Films / Sky Max

  • Sally El Hosaini - The Swimmers - Working Title / Netflix

Golygu: Ffeithiol

  • Gwyn Jones - Italia 90 - Four Weeks that Changed the World - Blast! Films / Sky Documentaries

  • John Hillanders a Dafydd Hunt - Stori'r Iaith - Rondo Media / S4C

  • Rhys ap Rhobert - Greenham - Teledu Tinopolis Cymru Cyf / S4C

  • Sion Aaron - Chris a'r Afal Mawr - Cwmni Da / S4C

Golygu: Ffuglen

  • Dafydd Hunt - Yr Amgueddfa - Boom Cymru / S4C

  • Johannes Hubrich - The Lazarus Project - Urban Myth Films / Sky Max

  • Kevin Jones - Y Sŵn - Swnllyd

  • Mali Evans - Y Golau / The Light in the Hall - Triongl / Duchess Street / S4C

Rhaglen Adloniant

  • Chris a'r Afal Mawr - Cwmni Da / S4C

  • Gogglebocs Cymru - Cwmni Da / Chwarel / S4C

  • Luke Evans: Showtime! - Afanti / BBC Two

  • Stereophonics Live in Cardiff: We'll Keep a Welcome - BBC Studios / BBC One

Cyfres Ffeithiol

  • A Special School - Slam Media / BBC One Wales

  • Greenham - Teledu Tinopolis Cymru Cyf / S4C

  • Stori'r Iaith - Rondo Media / S4C

  • The Disappearance of April Jones - Blast! Films / Channel 4

Ffilm Nodwedd/Deledu

  • Donna - Truth Department / Films de Force Majeure

  • Five Dates - Wales Interactive / Good Gate Media

  • Y Sŵn - Swnllyd

Newyddion a Materion Cyfoes

  • BBC Wales Investigates; Welsh Rugby Under the Spotlight - BBC Cymru Wales / BBC One Wales

  • County Lines - ITV Cymru Wales / S4C

  • Llofruddiaeth Logan Mwangi - Multistory Media Cymru / ITV Studios / S4C

  • Y Byd ar Bedwar: Cost Cwpan y Byd Qatar - ITV Cymru Wales / S4C

Ffotograffiaeth Ffeithiol

  • Christian Cargill - Heart Valley - The New Yorker / Dalmatian Films / BBC Two Wales

  • Paul Joseph Davies - Greenham - Teledu Tinopolis Cymru Cyf / S4C

  • Sam Jordan-Richardson - Our Lives - Born Deaf Raised Hearing - On Par Productions / BBC One

Ffotograffiaeth a Goleuo: Ffuglen

  • Bjorn Bratberg - The Feast / Gwledd - Sgrech

  • Bryan Gavigan - Y Sŵn - Swnllyd

  • David Johnson - His Dark Materials - Bad Wold /BBC iPlayer

  • Sergio Delgado - The Pact - Little Door Productions / BBC One Wales

Cyflwynydd

  • Chris Roberts - Chris a'r Afal Mawr - Cwmni Da / S4C

  • Emma Walford a Trystan Ellis-Morris - Prosiect Pum Mil - Boom Cymru / S4C

  • Lisa Jên - Stori'r laith - Rondo Media / S4C

  • Sean Fletcher - Stori'r Iaith - Rondo Media / S4C

Dylunio Cynhyrchiad

  • Dafydd Shurmer - Y Sŵn - Swnllyd

  • Daniel Taylor - Dream Horse - Film 4 Productions / Topic Studios / Ffilm Cymru Wales / Ingenious Media / Raw TV / Popara Films / Warner Bros.

  • Joel Collins - His Dark Materials - Bad Wolf / BBC iPlayer

  • Jonathan Houlding - Save The Cinema - Future Artists Entertainment Ltd / Sky Cinema

Ffilm Fer

  • Cardiff - The Festivals Company

  • Heart Valley - The New Yorker / Dalmatian Films / BBC Two Wales

  • Inner Polar Bear - Gritty Realism Productions

  • Nant - Strike Pictures - 4oD

Rhaglen Ddogfen Sengl

  • Blood, Sweat and Cheer - Little Bird Films / BBC Three

  • Brothers in Dance: Anthony and Kel Matsena - BBC Studios / BBC Two Wales

  • Jason and Clara - In Memory of Maudie - ITV Cymru Wales / ITV1

  • Spike Milligan: The Unseen Archive - Yeti / Sky Arts

Sain

  • Sound Team Industry - Bad Wolf / BBC iPlayer

  • Sound Team The Feast / Gwledd - Sgrech

  • Sound Team The Rising - Sky Studios / De Mensen / Sky Max

Drama Deledu

  • Casualty - BBC Studios / BBC One

  • The Lazarus Project - Urban Myth Films / Sky Max

  • Persona - Cwmni Da / S4C

Awdur

  • Joe Barton - The Lazarus Project - Urban Myth Films / Sky Max

  • Pete McTighe - The Pact - Little Door Productions / BBC One

  • Roger Williams - Y Sŵn - Swnllyd

  • Russell T Davies - Nolly - Quay Street Productions / ITVX

Pynciau cysylltiedig