24 allan o'r ysbyty wedi gwrthdrawiad ger Pont Cleddau

  • Cyhoeddwyd
Yr olygfa wedi'r gwrthdrawiadFfynhonnell y llun, Martin Cavaey
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ffordd yr A477 yn ardal Pont Cleddau yn Noc Penfro tua 14:20 ddydd Mawrth

Mae teithwyr oedd ar fws fu mewn gwrthdrawiad gyda char lle bu farw person yn Sir Benfro ddydd Mawrth wedi eu rhyddhau o'r ysbyty.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ffordd yr A477 yn ardal Pont Cleddau yn Noc Penfro tua 14:20.

Fore Mercher, fe wnaeth yr heddlu gadarnhau mai'r dyn oedd yn gyrru'r car fu farw, a dywedon fod y teulu'n cael cymorth arbenigol.

Mae gyrrwr y bws yn dal yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol, ond mewn cyflwr sefydlog.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys mai ymwelwyr ar wyliau o ardal Cumbria oedd ar y bws - oedd yn berchen i gwmni Titterington Holidays.

Fe gafodd 24 ohonynt eu cludo i'r ysbyty ac mae pob un wedi gadael erbyn hyn, yn ôl y llu.

Ychwanegon nhw fod y ffordd wedi ailagor tua 04:30 fore Mercher ar ôl llawer o oedi yn yr ardal ddydd Mawrth.

Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth gan unrhyw un ynghylch y digwyddiad.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Tudur Lewis yn gweithio i gwmni lleol Bysiau Cwm Taf a bu'n helpu'r teithwyr oedd yn rhan o'r gwrthdrawiad

Bu Tudur Lewis o gwmni lleol Bysiau Cwm Taf yn helpu'r teithwyr fu'n rhan o'r gwrthdrawiad.

"'Wen i 'di clywed y seirens a'r brigâd dân a'r ambiwlansys yn mynd ers tua hanner awr i awr," dywedodd.

"Pan ges i'r alwad ffôn o'r perchennog bws o Cumbria i ofyn a allen ni helpu mas achos bod un o'u bysus nhw wedi bod mewn damwain, wedd rhaid helpu mas.

"Wedd 'na rhyw bedwar neu bump ohonyn nhw a'u breichie lan - wedi torri eu breichie' de - nifer o lygaid du 'na, trwynau 'di torri, gwaed dros y lle."

Dywedodd ei fod dan deimlad wrth gasglu'r teithwyr, cyn ychwanegu fod y rheiny fu yn yr ysbyty mewn hwyliau "syndod o dda".

"Ma' cwmnïau bysus, pan ma' pethe fel hyn yn digwydd, ni'n helpu'n gilydd mas."

Dywedodd Mr Lewis ei fod wedi mynd â'r teithwyr i Amgueddfa Wlân Cymru yn Drefach Felindre ddydd Mercher ac y byddai'n eu hebrwng i Ddinbych-y-pysgod ddydd Iau.

'Angen edrych eto ar ddiogelwch'

Fe alwodd Sam Kurtz, Aelod y Ceidwadwyr Cymreig dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yn y Senedd, am wella diogelwch ffyrdd yn dilyn y gwrthdrawiad.

Dywedodd Mr Kurtz ei fod wedi codi pryderon am ddiogelwch ar yr A477 - ffordd sy'n cysylltu de a gogledd y sir - gyda Llywodraeth Cymru nifer o weithiau.

"Gobeithio y bydd y drasiedi ddoe yn sbarduno Cyngor Sir Penfro a Llywodraeth Cymru i edrych eto ar ddiogelwch y ffordd honno," meddai.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n "anaddas" i wneud sylw tra bod ymchwiliad yr heddlu'n parhau.

Mae Cyngor Sir Penfro wedi cael cais am sylw.

Pynciau cysylltiedig