Newid rheolau ail dai Gwynedd: Arf arall neu gam gwag?

  • Cyhoeddwyd
Aberdaron
Disgrifiad o’r llun,

Byddai 'Erthygl 4' yn gorfodi unrhyw un sydd am newid tŷ domestig yn ail gartref gael caniatâd pwyllgor cynllunio

Mi fyddai cyflwyno deddf i'w gwneud hi'n anoddach troi cartrefi yn dai gwyliau yng Ngwynedd ond yn cael effaith gadarnhaol fel rhan o becyn ehangach o fesurau, yn ôl aelod cyngor.

Mae ymgynghoriad ar 'Erthygl 4' - a fyddai'n gorfodi unrhyw un sydd am newid tŷ domestig yn ail gartref i dderbyn sêl bendith pwyllgor cynllunio - yn dod i ben ddydd Mercher.

Yn ôl grŵp sy'n gwrthwynebu'r cynllun, fyddai'r mesur yn achosi cwymp ym mhris tai trigolion Gwynedd ac yn cosbi pobl leol.

Yn ôl Cyngor Gwynedd maen nhw am glywed barn pobl ar y syniad, gan ddweud bod rhaid gweithredu i helpu pobl leol allu aros yn eu cymunedau.

'Angen mwy o dai addas'

Fe gafodd cynghorau sir ledled Cymru mwy o bwerau gan y llywodraeth i reoli'r nifer o ail gartrefi yn Hydref 2022.

Mae Gwynedd eisoes wedi cynyddu'r dreth sy'n cael ei godi ar ail gartrefi i 150%, ond mae'r cyngor yn dweud y byddai cyflwyno Erthygl 4 yn "arf arall" wrth fynd i'r afael â'r broblem.

Ond mae'r cynllun, sydd ond dan ystyriaeth ar hyn o bryd, eisoes yn profi'n ddadleuol gyda grwpiau ar wefannau cymdeithasol wedi eu sefydlu o'i blaid ac yn ei erbyn.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dafyn Jones nad oes digon o dai cymdeithasol mewn mannau addas yn yr ardal

Un sy'n gwrthwynebu'r syniad ydy Dafyn Jones sydd wedi ei eni a'i fagu ym Mhen Llŷn.

"Mae hyn mwy am optics a gesture politics na gwneud rhywbeth am bobl leol a chreu tai i bobl leol," meddai wrth Newyddion S4C.

"Ers ers talwm, does 'na'm tai cymdeithasol neu digon o social housing."

Mae'r grŵp hefyd yn dweud y gallai cyflwyno Erthygl 4 achosi cwymp ym mhris tai cyfartalog y sir, a chosbi pobl leol.

Er hyn, mae Mr Jones yn deall bod ail gartrefi yn ei gwneud hi'n anodd i bobl leol brynu tai, ond mae'n mynnu mai codi tai mewn mannau addas sydd ei angen.

'Cam ar y ffordd i ddatrys y broblem'

Yn ôl adroddiad Cyngor Gwynedd nid oes posib "rhagweld na chwaith mesur y goblygiadau" yn sgil cyflwyno Erthygl 4.

Mae'n dweud ei bod hi'n "anorfod" y byddai ymyrraeth debyg yn cael effaith "minimal bosib" ar werth eiddo ar y farchnad agored.

Mae'n dweud y gallai cyflwyno'r mesur hefyd arwain at y broblem yn symud i ardaloedd cyfagos.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynghorydd Craig ab Iago yn derbyn na fydd y syniad yn ateb i'r broblem, ond yn hytrach yn un cam ymlaen

Ond mae'r aelod cyngor â chyfrifoldeb am dai, Craig ab Iago, yn mynnu y byddai'r mesur yn gweithio fel rhan o becyn ehangach o fesurau.

"'Dan ni'n gorfod gwneud bob dim 'da ni'n gallu gwneud 'efo bob tool 'dan ni efo...

"Ydy o'n mynd i ddatrys y broblem? Na, dydy o ddim, ond mae o ar y ffordd i ddatrys y broblem.

"Be 'dan ni angen ydy system dai newydd ond 'dan ni methu rheoli hynny yma yng Nghyngor Gwynedd."

'Ma'n anodd i bobl leol'

Yn ôl gwaith ymchwil Cyngor Gwynedd roedd gostyngiad yn nifer y cartrefi domestig rhwng 2018-2022 o 344, tra roedd cynnydd yn nifer cyfunol ail gartrefi a llety gwyliau o 1,266.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Gwynedd

Mewn ardaloedd fel Aberdaron ym mhen draw Llŷn mae 30% o dai yn gartrefi gwyliau.

Mae cyflogau trigolion ar gyfartaledd yn £26,000, gan olygu bod 96% o bobl yno wedi eu prisio allan o'r farchnad, medd gwaith ymchwil y cyngor.

Mae'n stori debyg mewn llefydd fel Abererch, Abersoch a Llanengan a nifer o gymunedau eraill.

Disgrifiad o’r llun,

Teimla Reece Halstead y gallai'r polisi fod yn fuddiol gydag amser

Un sy'n teimlo effaith prisiau tai uchel a diffyg stoc dai ydy Reece Halstead, sy'n 26 ac o Benisarwaun yng Ngwynedd.

"Dwi'n gweithio ym Mhen Llŷn a 'dan ni eisiau tourism, ond ma'n anodd i bobl leol," meddai.

"Dwi'n 26 a dwi'n trio prynu tŷ newydd ond dwi'm yn gallu ar hyn o bryd."

Wrth drafod Erthygl 4 mae'n dweud y byddai'n bolisi da "os yn gweithio", ond yn dweud "y bydd yn cymryd amser dwi'n meddwl".

Pwysleisio mai cyfnod ymgynghori sydd wedi bod y mae Cyngor Gwynedd, gan ddweud y byddan nhw'n pori drwy'r holl gyfraniadau i gael darlun clir o farn y bobl.

Mae'r Cynghorydd Craig ab Iago yn dweud bod llawer o "gam-wybodaeth' am y pwnc ar-lein a bod angen bod yn glir efo'r ffeithiau.

Gyda'r cyfnod ymgynghori bellach ar ben mae'r gwaith o ystyried sgil-effaith cynllun o'r fath rŵan yn dechrau.

Pynciau cysylltiedig