Sut oedd bywyd mewn seilam ddiwedd yr 19eg ganrif?
- Cyhoeddwyd
Pwy oedd yn cael eu hanfon i'r seilam ddiwedd yr 1800au? A beth oedd yn eu disgwyl yno?
Mae Louvain Rees yn hanesydd marwolaeth a galar, sydd yn ymchwilio i fywyd yn Ysbytai Meddwl Sir Forgannwg rhwng y cyfnod 1864 ac 1910.
Yma mae hi'n egluro sut beth oedd bywyd yn yr ysbytai meddwl yn y cyfnod hwnnw, ac efallai yn chwalu rhai o'r camsyniadau sydd gennym am fywydau'r cleifion dan glo:
Ysbyty Meddwl Sir Forgannwg (Glamorgan County Lunatic Asylum) oedd yr enw ar ddau ysbyty meddwl ym Mhenybont - Angelton a Pharc Gwyllt. Ar un adeg, roedd yna dros 2,000 o gleifion yno.
Cafodd Ysbyty Angelton ei sefydlu yn 1864, fel yr ysbyty meddwl cyhoeddus cyntaf yn ne Cymru, gyda lle i 350 o gleifion; dynion, merched, a tan ddechrau'r 1900au, plant.
Cyn ei agor, byddai nifer o gleifion tlawd yn cael eu hanfon i ysbyty preifat Vernon House yn Llansawel. Cafodd y cleifion cyntaf eu cludo oddi yno ar 4 Tachwedd 1864; roedd rhan helaeth o'r rhain yn hen ac wedi bod yn Vernon House ers ei sefydlu yn 1843.
Cafodd Ysbyty Parc Gwyllt ei agor yn 1887, ar gyfer cleifion hir-dymor, nad oedd modd eu gwella.
Garddio, cymdeithasu a baco ychwanegol
Roedd Ysbyty Angelton, ar y cyfan, yn hunangynhaliol gyda'i gyflenwad dŵr a nwy ei hun, ac roedd ganddo amryw o weithdai, popty, fferm weithiol a golchdy.
Byddai cleifion yn cael eu hannog i weithio yn y gweithdai, garddio, helpu ar y fferm a gwnïo ers mwyn llenwi eu hamser. Fel anogaeth pellach, roedd pob claf a wnâi hyn yn cael siâr ychwanegol o de, baco neu snisin (snuff).
Yn y wardiau roedd gwelyau o flew ceffyl, planhigion, papur wal a ffotograffau. Ar bob ward roedd dau dŷ bach, dau fath ac ystafell newid.
Ar y cyfan, roedd cleifion yn byw ar ddiet o fara, cawl Gwyddelig, te a llysiau, a deuddydd o'r wythnos, bydden nhw'n cael pwdin neu siocled.
Roedd y cleifion hefyd yn cael eu hannog i gymdeithasu gyda'i gilydd a'r staff, ac roedd ganddyn nhw elfen o ryddid nad oedd gan gleifion nifer o ysbytai tebyg.
Roedd gan yr ysbyty yma dîm criced, tîm rygbi a band pres - â'r holl aelodau yn staff neu gleifion. Roedd yna hefyd ddawnsfeydd bob Sadwrn a chyngherddau yn ystod yr wythnos.
Difyrru nid cosbi
Dr Yellowlees o Gaeredin oedd uwcharolygydd meddygol cyntaf Ysbyty Angelton. Roedd yn credu y dylid anfon cleifion i'r ysbyty cyn gynted ag oedden nhw'n mynd yn sâl - y cynharaf yr ymyrraeth y gorau oedd y siawns am wellhad. Ond roedd hefyd yn cydnabod nad oedd hyn yn digwydd oherwydd fod pobl ofn y stigma o fod mewn ysbyty meddwl.
Ei ethos oedd: "To distract from morbid thoughts, by occupation or amusement, and present new and healthy thoughts. To soothe by kindness, control by tact and firmness, invite confidence and make the patients' lives as comfortable and happy as possible."
Roedd gan gleifion yn yr ysbyty fynediad i lolfeydd mawr, a oedd yn llawn llyfrau, cerddoriaeth, cardiau ac yn y blaen. Prynodd Dr Yellowlees danciau a physgod aur ar gyfer y stafelloedd, ac yn ddiweddarach, adar mewn cewyll, zoetrope ac offerynnau cerddorol.
Fodd bynnag ar ôl i Dr Yellowlees adael, ac o ganlyniad i orlenwi, cafodd y rheol 'dim atal' ei stopio (peidio atal neu gyfyngu gormod ar glaf sy'n ymddwyn yn fygythiol neu dreisgar).
Mae cofrestr atal yr ysbyty yn cofnodi hyn; byddai cyffuriau fel Digitalis a Clorofform yn cael eu defnyddio i dawelu cleifion a oedd yn cael eu hystyried yn niwsans. Siacedi â byclau, celloedd cwiltiog a chynfasau gwlyb a oedd yn cael eu defnyddio gyda chleifion treisgar.
Pwy oedd yn cael eu hanfon yno?
Ar y cyfan, roedd hi'n anodd (yn enwedig yn y blynyddoedd cynnar) i rywun gael eu derbyn i'r ysbyty. Byddai claf fel arfer yn cael ei anfon yno o'r wyrcws, ac roedd angen llofnod dau swyddog meddygol i dystio eu bod yn 'wallgof'.
Yn aml, os oedd claf yn mynd i'r ysbyty mwy na dwy neu dair gwaith, roedd hi'n cael ei hystyried nad oedd modd eu gwella.
Yn ôl cofnodion, roedd y rhesymau dros gael eu hanfon i'r ysbyty yn cynnwys 'disappointment in love', 'money worries', 'epilepsy', 'postpartum psychosis', 'religious mania', 'grief', 'syphilis' a 'puberty'.
Cafodd dyn ifanc, yn dioddef o 'mania difrifol' ei anfon i'r ysbyty yn 1900. Roedd yn credu 'fod Lucifer wedi cael ei gipio gan y Cadfridog Baden Powell'. Roedd claf arall o'r un cyfnod yn credu mai hi oedd 'Madame Radium' ac un arall yn dweud ei bod wedi 'gweld dynes gyda'i phen ar dân'.
Roedd un ferch ifanc yn dioddef o 'mania difrifol' o ganlyniad i alar, ac wedi ei anfon i'r ysbyty am 'nad oedd modd ymdopi gyda hi' yn dilyn marwolaeth ei thad.
Yn ddiweddar, 'nes i ddarganfod fod ewythr i mi wedi mynd i'r ysbyty yn 1889, yn dioddef o 'rithdybiadau manig' oherwydd iddo golli arian. Roedd yn credu fod yna ddynion yn ei ddilyn, a'u bod nhw yn ei wenwyno.
Parch i'r brenin
Un o'r cleifion a arhosodd yno hiraf oedd dyn oedd yn cael ei alw yn 'Demented King'. Mae ei stori'n un twymgalon, er yn anarferol.
I Vernon House aeth yn wreiddiol, yn 21 oed ac credu mai ef oedd 'Brenin Abertawe'. Cafodd ei symud i Ysbyty Angelton yn 1864.
Cafodd swydd yno fel gyrrwr yr uwcharolygydd meddygol, ac roedd hefyd yn gyfrifol am y ceffylau a'r stablau. Daeth wedyn yn borthor yn y neuadd fwyta ac roedd yn croesawu pobl wrth fynedfa'r ysbyty.
Ar ôl treulio 46 mlynedd yn yr ysbyty, bu farw yn 1892. Roedd y staff yn meddwl gymaint ohono, fel iddyn nhw dalu am ei garreg fedd, ac fe gafodd ei gladdu yn ardal y staff ym mynwent yr ysbyty.
Chwalu'r chwedlau
Rwyf wedi bod drwy gannoedd o ffeiliau achosion, ac mae'n anghywir meddwl fod merched beichiog di-briod yn cael eu hel i'r ysbytai meddwl. Roedd unrhyw famau di-briod yno o ganlyniad i seicosis cynenedigol, seicosis ôl-enedigol neu salwch arall yn gysylltiedig â beichiogrwydd.
Yn ystod yr adeg yma, roedd mamau di-briod yn fwy tebygol o gael eu hanfon i'r wyrcws neu un o'r nifer o olchdai Catholig neu Gartrefi i Ferched Anwadal a oedd yn yr ardal.
Roedd y rhan helaeth yn briod, ac yn gadael yr ysbyty ar ôl iddyn nhw roi genedigaeth a gwella.
Mae nifer hefyd yn credu fod cleifion yn cael eu anghofio gan eu teuluoedd pan roedden nhw'n yr ysbyty, ond dyw hynny dim yn wir ar y cyfan, er fod ambell i achos.
Dydd Sadwrn oedd y diwrnod ymweld yn Ysbytai Meddwl Sir Forgannwg, ac mae'r llyfr ymwelwyr yn dangos fod teulu a ffrindiau yn ymweld â chleifion yn aml. Ynghyd â hyn, roedden nhw'n cyfathrebu drwy gardiau post a llythyrau.
Mae nifer hefyd o'r grêd fod teuluoedd yn cefnu ar gleifion ar ôl iddyn nhw farw, ond yn gyffredinol, mae hyn hefyd yn anghywir. Pan fyddai claf yn marw, roedd yr ysbyty yn cysylltu â'r teulu cyn gynted â phosib. Roedd gan y teulu'r opsiwn i gladdu'r claf yn breifat, ond yn aml, doedd y teulu ddim yn gallu fforddio'r gladdedigaeth.
Roedd beddi yn cael eu nodi â chroesau o haearn (neu weithiau bren) ac yn aml, roedd nifer o gyrff ymhob bedd, a oedd yn gyffredin mewn mynwentydd oedd wedi eu cysylltu â ysbytai meddwl.
Roedd gan Ysbytai Meddwl Sir Forgannwg dri mynwent. Roedd gan fynwent Ysbyty Angelton (bellach Glanrhyd) adran i aelodau o staff. Gallwch weld y cerrig beddi yno hyd heddiw.