Wynne Evans: O wersi coginio Ena i ffeinal Masterchef

  • Cyhoeddwyd
Wynne Evans

"Dyma'n gyfle i i wneud rhywbeth i fi."

Fel nifer o rieni pan fo'r plant yn ffoi'r nyth, mae'r canwr a'r darlledwr Wynne Evans wedi cymryd y cyfle i drio rhywbeth newydd.

Ond yn ei achos e, cystadlu o flaen y genedl ar Celebrity Masterchef oedd yr her newydd, fel mae'n esbonio wrth Cymru Fyw: "Mae'r plant wedi bod adre gyda fi ers amser maith ond maen nhw wedi mynd i'r brifysgol neu wedi cael swydd erbyn hyn felly dyma'n gyfle i i wneud rhywbeth i fi.

"Pan o'n i'n blentyn anfonodd Mam fi am wersi coginio gyda Ena Thomas (oedd yn coginio ar Heno), hi oedd fy ysbrydoliaeth coginio cyntaf.

"Dwi wastad wedi bod wrth fy modd yn coginio."

Cyfle

Ac mae'r angerdd yna wedi helpu Wynne i gyrraedd ffeinal y gyfres deledu, sy'n cael ei ddarlledu ar BBC1 ar nos Wener, 8 Medi.

Er i'r cyflwynydd gael cynigion i ymddangos mewn nifer o sioeau realiti eraill dros y blynyddoedd, y gyfres hon gyda'i ffocws ar fwyd a choginio sy' wedi apelio fwyaf ato: "Dw i wastad wedi bod yn un sy'n coginio gormod ac yn bwyta gormod.

"Pan ddaeth y cyfle, roeddwn i'n meddwl y byddai hyn yn siwtio fi i'r dim."

Mae Wynne fwyaf adnabyddus am ei rôl fel canwr opera yn hysbysebion Go Compare ond mae'n amlwg fod ei brofiad ar Celebrity Masterchef wedi bod yn uchafbwynt iddo: "Mae wedi bod yn anodd ond hefyd yn brofiad gwych.

"Mae 'na lwyth o uchafbwyntiau ond cyfarfod y bobl eraill ar y sioe oedd y peth gorau.

"Yn fy heats i oedd Jamelia (y gantores), dwi'n caru hi. Ac yn y rowndiau terfynol roedd Luca, Amy a Max (seren sioeau realiti Luca Bish, yr actores Amy Walsh a'r canwr Max George).

Disgrifiad o’r llun,

Cwmni Wynne ar Masterchef: Jamelia, Wynne, Cheryl Hole, Locksmith, Sam Fox

"Oedden ni'n chwerthin o fore tan nos. Gwyliais i'r rhaglen pan aethon ni i chwilota a choginio ar dân agored, 'oedden ni'n oer ac 'oedd cymaint o fwg ond buon ni'n chwerthin drwy'r dydd.

Cystadleuaeth

"Doedden ni ddim yn gystadleuol o gwbl - yn y rownd derfynol oedden i eisiau defnyddio madarch porcini ac yn methu ffeindio rhai felly rhannodd Luca ei fadarch gyda fi. Mae pawb wedi bod yn grêt."

Tro cyntaf yng nghegin Masterchef

Mae Wynne bron â chyrraedd pinacl y gystadleuaeth erbyn hyn ond mae'n disgrifio'r diwrnod cyntaf fel profiad cofiadwy: "Roedd y tro cyntaf i fi fynd mewn i gegin Masterchef yn rhyfedd.

"Pan chi'n gweld ni ar y teledu yn mynd mewn am y tro cyntaf, dyna'r tro cyntaf i ni fod yno a'r tro cyntaf i ni gyfarfod Greg a John (y beirniaid).

"Mae pobl yn dweud bod y gegin Masterchef fel coginio yn y trydydd dimensiwn - mae e wirioneddol fel hynny.

"Chi'n coginio a does dim clociau, chi'n methu cymryd ffôn na oriawr i mewn, chi'n ceisio dyfalu amseriadau achos chi ddim yn gwybod faint o amser sydd ar ôl.

"Mae'n le caled i goginio. Mae gennych chi timers yn mynd i ffwrdd ym mhobman a chi'n trio cadw ar ben pethau."

Iselbwynt

Y peth anoddaf am y profiad i Wynne oedd pan oedd pethau'n mynd o'i le: "Pan chi'n gweini'r bwyd a chi'n gwybod bod e ddim yn iawn.

"'Wnes i'r boudoin blanc hwn, sef selsig gwyn, ac roedd yn drychineb o'r dechrau i'r diwedd.

"Dywedais i ar y sioe, dwi wedi gwneud hyn o'r blaen a dyw e byth wedi mynd yn iawn. Mae pobl yn dweud, pam chi'n gwneud e felly?

"Wel, yn syml oherwydd bod chi'n coginio bron bob dydd. Chi'n meddwl, os ydw i'n cael i'r stage yna na'i wneud y boudoin blanc ond dydych chi ddim yn ei ymarfer.

"Ac yna chi'n mynd drwodd ac yn sylweddoli bod yn rhaid i chi wneud y pryd yfory!

"Roedd yn anodd ond yn brofiad gwych."

Mae Wynne wedi dysgu llawer o'r profiad: "Dwi wedi dysgu i symlhau pethau. Adref dwi o hyd wedi gwneud prydau mawr trwm ond dwi wedi dysgu fod llai yn well - mae'n haws ac yn gyflymach i'w goginio.

"Dwi wedi dysgu lot am amseru bwyd. Ac mae cynllunio'r fwydlen yn bwysig iawn. Mae'n rhaid i chi beidio â bod ofn bod yn arbrofol a gwneud pethau tu allan i'r bocs.

Bwyd o Gymru

"Roedd defnyddio cynnyrch Cymreig yn bwysig iawn i fi - benderfynais i ar ddechrau'r gyfres 'mod i'n mynd i ddefnyddio bwyd o Gymru.

"Roedd hi'n anodd i gael y bwyd weithiau - chi'n trio defnyddio wystrys Sir Benfro a chi yn Llundain. Ond fe wnes i e ac hefyd defnyddio cig oen, wisgi a rwm Cymreig a chocos Penclawdd.

"Mae'n ddoniol oherwydd pan wnes i ffagots ar y gyfres oedden i angen calon moch ac afu a dywedon nhw (tîm y rhaglen) bod hi'n anodd cael calon moch. Felly bues i i farchnad canol Caerdydd a chael calon moch heb broblem a mynd nôl ag e i Lundain i goginio."

Felly sut brydau mae Wynne yn paratoi adref erbyn hyn?

Meddai: "Unwaith i Masterchef orffen fydda' i ddim eisiau coginio am weddill fy oes!

"Byddai'n dod yn ôl iddo yn araf bach. Dwi ishe mynd i'r lefel nesaf o goginio tu allan i'r bocs gartref.

"Dwi'n coginio llawer o gig oen Cymreig, pysgod, cregyn bylchog, cocos, gan drio bod yn ffyddlon i ddefnyddio cynhwysion lleol."

Mae Wynne wedi gwneud argraff dda ar y beirniaid a'r gynulleidfa gyda'i goginio ar Masterchef - beth fyddai ennill yn golygu iddo?

Meddai: "Byddai bod yn enillydd Cymreig cyntaf Celebrity Masterchef yn wych ond os nad yw'n digwydd, dyna ni.

"Dwi wedi cael profiad arbennig yma a dwi wedi neud hi reit i'r diwedd."

Newid byd

Os mae'r canwr yn ennill, a fydd yn newid byd iddo?

Yn ôl Wynne: "Byddai gwahanol gyfleoedd yn codi mae'n siŵr ond fyddai ffrindiau a theulu byth eisiau coginio i fi eto!

"A hefyd bydda'i bob amser yn gallu dweud wrth fy ffrindiau, 'ydw i wedi dweud wrtho chi am y tro oeddwn i yn ffeinal Celebrity Masterchef...?'"

Pynciau cysylltiedig