Cefnogwyr nerfus Cymru’n barod am ‘gêm anoddaf y grŵp’

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Cefnogwyr Cymru yn canu Calon Lan

Maen nhw'n wrthwynebwyr cyfarwydd iawn i Gymru - a dydd Sul fe fydd Fiji yn llygadu cyfle arall i greu sioc yng Nghwpan Rygbi'r Byd.

Mae'r ddau dîm wedi wynebu ei gilydd yn y pum twrnament diwethaf, ac yn hanesyddol mae Cymru wedi ennill 10 o'r 12 gornest rhyngddyn nhw.

Ond mae atgofion dal yn ffres o'r golled yn Nantes wnaeth anfon tîm Gareth Jenkins allan o Gwpan y Byd 2007 - ac arwain at y prif hyfforddwr yn cael ei ddiswyddo ym maes parcio'r gwesty.

A gyda Fiji'n cyrraedd y gystadleuaeth fel y tîm uchaf yn y grŵp yn rhestr detholion y byd, mae cefnogwyr Cymru yn Bordeaux yn ymwybodol iawn o fygythiad y gwrthwynebwyr o Ynysoedd y Môr Tawel.

'Rhaid i ni chwarae ein gorau'

"Fi'n poeni tipyn bach, fi'n meddwl bydd e'n gêm anodd iawn," meddai Andrew o Ferthyr Tudful, sydd wedi dod i Ffrainc gyda chwmni teithio.

"Fi'n meddwl gallai hwn fod y gêm fawr yn y grŵp - mae fel gêm gwpan, mae'n rhaid i ni feddwl fel 'na.

"Yn anffodus o'n i 'na yn Nantes ar gyfer y gêm 'na pan wnaeth Fiji guro ni, felly fi'n gobeithio bydd e ddim yr un peth tro yma!"

Disgrifiad o’r llun,

Mae Lisa [ail o'r dde] yn credu y bydd angen i Gymru perfformio ar eu gorau er mwyn ennill

Ychwanegodd Lisa o Abertawe, sydd wedi teithio gyda'r un grŵp, ei bod hi'n "nerfus iawn".

"Fi'n meddwl bod rhaid i ni chwarae ein gorau i ennill," meddai.

"Mae Fiji yn edrych yn dda iawn, iawn a fi'n gobeithio gallwn ni wneud ein gorau ac ennill."

'Bydd rhaid brwydro'

Fe gyrhaeddodd cyn-chwaraewr Cymru, Dyddgu Hywel ganol Bordeaux ddydd Sadwrn, ar ôl seiclo'r holl ffordd o Baris fel rhan o grŵp mawr sydd wedi bod yn codi arian i ganolfan ganser Felindre.

Gyda'r her wedi ei chwblhau - a hynny gyda thymereddau dros 35C drwy'r wythnos yn Ffrainc - mae'r sylw nawr yn troi at "gêm enfawr i Gymru".

Disgrifiad o’r llun,

Teimla Dyddgu Hywel y bydd y tywydd twym yn ei wneud yn anodd, ond mae'n ffyddiog y bydd Cymru'n cael canlyniad da

"Mae Fiji yn gorfforol iawn - gawn ni weld sut fydd y sefyllfaoedd gosod, y leiniau, ond mi allith o ddod lawr i ffitrwydd," meddai.

"Mae'r tymheredd mor boeth yma hefyd, roeddech chi'n gallu gweld hynna o'r gêm [rhwng Ffrainc a Seland Newydd]. Ond dwi'n meddwl gwnawn ni'n dda."

Mae eraill yr un mor bositif.

Disgrifiad o’r llun,

Teimla Aysha Lee [chwith] fod cyfle da gan Gymru. "Bydd e'n agos iawn fi'n credu," dywedodd

"Dwi'n meddwl bod siawns dda gyda nhw, ond bydd rhaid iddyn nhw frwydro," meddai Aysha Lee o'r Fenni.

"Allwch chi ddim diystyru Fiji, maen nhw'n chwarae'n wych ar hyn o bryd, felly dwi jyst yn gobeithio bydd Cymru'n rhoi popeth mas yna. Bydd e'n agos iawn fi'n credu."

'Byddwn ni'n iawn gyda Gatland'

Mae'r ddau dîm wedi wynebu problemau ffitrwydd cyn y gêm, gyda chyd-gapten Cymru Dewi Lake heb wella o anaf mewn pryd i gael ei ddewis, a maswr Fiji Caleb Muntz allan o'r twrnament cyfan ar ôl brifo ei ben-glin wrth ymarfer.

Ond i rai, gallai dychweliad Warren Gatland fel prif hyfforddwr fod yr un mor ddylanwadol â'r chwaraewyr sydd ar y cae.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ben Edwards ar wyliau gyda'i ffrindiau ac mae'n teimlo'n hyderus am y gêm nos Sul

"Fi'n eitha' hyderus," meddai Ben Edwards o Lanelli.

"Mae Gatland 'di dod mewn a thyfu tîm ifanc, a ma' siawns dda gyda ni i 'neud rhywbeth da yn y gwpan 'ma.

"Ma' fe'n gêm galed i ddechre, ond os ni'n ennill fory falle bydd campaign da gyda ni.

"Fi'n credu mai'r gêm anoddaf yw hwn, achos os ni'n ennill hwn wedyn mae'r pwysau off i ni fynd drwyddo'r grŵp. All y bois fynd mewn i gêm Awstralia yn llawn hyder."

Dim ond dwy o'u 10 gêm ddiwethaf mae Cymru wedi eu hennill - tra bod Fiji wedi trechu Lloegr am y tro cyntaf erioed yn ddiweddar.

Ond dyw'r canlyniadau diweddar ddim yn poeni cefnogwyr fel David Holmes o Gaerdydd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae David Holmes [dde] yn hyderus y bydd Cymru'n fuddugol o dan arweiniad Warren Gatland

"Fel cefnogwr Cymru chi wedi arfer gyda'r da a'r drwg, ond byddwn ni'n iawn gyda Gatland," meddai.

"Mae e wedi hyfforddi nhw i lefel gwahanol - dwi'n meddwl byddwn ni'n ennill.

"Yn y Chwe Gwlad doedd e dim ond wedi eu cael nhw am bum munud - rhowch gyfle iddo fe.

"Mae e wedi gwneud e o'r blaen, a bydd e'n 'neud e 'to."