Cannoedd mewn protest yn erbyn gwahardd cŵn o draethau Conwy
- Cyhoeddwyd

Cynhaliwyd cyfarfod awyr agored, cyn mynd am dro ar y traeth
Daeth dros 1,000 o bobl i brotest ddydd Sul i wrthwynebu cynigion gan Gyngor Conwy i wahardd cŵn o draethau'r sir - a rhai llefydd eraill hefyd - trwy'r flwyddyn.
Daeth y protestwyr i Landrillo-yn-rhos - nifer ohonynt gyda'u cŵn - ar gyfer cyfarfod awyr agored ar y traeth.
Ar hyn o bryd mae cŵn wedi'u gwahardd o rai mannau ar rai traethau, a dim ond yn ystod yr haf maen nhw mewn grym.
Ond mae Cyngor Conwy yn ymgynghori ar gynlluniau i ehangu'r gwaharddiadau.
Mae'r cyngor yn annog trigolion i gymryd rhan mewn ymgynghoriad ar y cynlluniau, sydd ar agor tan 4 Hydref.
Bydd yr ymatebion hynny yn cael eu hystyried cyn y bydd penderfyniad terfynol.

Dywedodd Aaron Haggas nad yw'n deall pam fod y cyngor yn ystyried ehangu'r gwaharddiadau
Dywedodd trefnydd y brotest, Aaron Haggas, fod perchnogion cŵn yn gyfrifol, ac y dylai'r cyngor wrando ar synnwyr cyffredin.
"Mae 'na rai gwaharddiadau wedi bod yn y gorffennol ac mae hynny wedi gweithio'n dda iawn," meddai.
"'Dan ni ddim yn deall pam eu bod nawr wedi gwneud y penderfyniad nad ydyn nhw eisiau cŵn ar y traeth o gwbl.
"Mae'r gwaharddiadau presennol mewn grym ar gyfer rhai rhannau o'r traeth, a hynny rhwng Mai a Medi - y cyfnod prysur o ran ymwelwyr - felly 'dan ni'n deall hynny.
"Ond y cynllun rŵan ydi gwahardd cŵn o'r traeth 365 diwrnod y flwyddyn, 24 awr y dydd.
"Dydi o ddim yn iawn."

Daeth dros 1,000 o brotestwyr i Landrillo-yn-rhos ddydd Sul - nifer ohonynt gyda'u cŵn
Dywedodd y Cynghorydd Emily Owen, sy'n aelod cabinet ar Gyngor Conwy, fod y mater yn rhywbeth sy'n cael ei grybwyll i gynghorwyr yn gyson.
"Nod y Gorchmynion Rheoli Cŵn ydy creu cydbwysedd, i berchnogion cŵn a'r rheiny sydd ddim â chŵn allu mwynhau mannau cyhoeddus," meddai.
"Ein nod ydy atal y nifer fechan o berchnogion anghyfrifol rhag gadael i'w cŵn wneud baw a bod allan o reolaeth mewn man cyhoeddus, ac felly cadw pawb - gan gynnwys anifeiliaid - yn ddiogel."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2017