'Diolch byth' - Rhyddhad i Gymru wedi 'clasur' Fiji
- Cyhoeddwyd
Roedd hi'n "glasur o gêm" yn ôl y sylwebydd rygbi Cennydd Davies, a Chymru'n trechu Fiji o drwch blewyn yn dilyn amddiffyn arwrol ar ddiwedd yr 80 munud.
Dyma gêm orau Cwpan y Byd hyd yma medd rhai, yn llawn "ceisiau, cardiau, digwyddiadau dramatig, tensiwn, tyndra, ysbryd cymeriad - pob dim".
Roedd 'na nerfau ar y cae ac yn yr eisteddle tua diwedd y gêm, wrth i'r ynyswyr bwyso am y cais fyddai wedi gallu hawlio'r pwyntiau i gyd, ond diolch i amddiffyn cadarn a chamgymeriad tyngedfennol gan Semi Radradra - Cymru aeth â hi.
Dyma oedd y farn ger y stadiwm wedi'r gêm.
"Diolch byth bo' ni 'di ennill", oedd ymateb Owain Davies o Lanelli ger y Nouveau Stade de Bordeaux nos Sul.
"O'n i'n meddwl o'n nhw 'di wharae'n dda iawn. Y pac yn yr hanner cyntaf wedi chwarae'n andros o dda.
"O'n i'n poeni bach ar ôl i'r fainc ddod arno, o'n ni 'di gwanhau bach, ond o'dd e'n wych i ddod dros y llinell yn y diwedd, andros o gêm dda, o'dd Fiji 'di chwarae'n wych hefyd. "
Tebyg oedd ymateb Hanna Merrigan o Bontyberem: "O'n ni yng nghanol ffans Fiji a gweud y gwir - eitha nerfus - ond fi'n falch o'dd Cymru wedi ennill yn y pendraw."
Hefyd ymhlith y miloedd yn y stadiwm roedd teuluoedd Liam Williams, Tomos Williams a Taulupe Faletau.
"Roedd hi mor agos - gêm wych. Roedd fy nghalon i'n mynd fel rhywbeth gwyllt!" meddai mam Liam Williams, Jane.
"Ond rwy'n credu fod Liam a'r bechgyn i gyd wedi chwarae'n dda.
Dywedodd bod ei nerfau'n "ofnadwy" ar y diwedd. "Do'n i methu edrych!"
"Ond fe gafon ni'r fuddugoliaeth, ac ry'n ni am fynd yr holl ffordd ac ennill y cwpan - mae'n rhaid i chi gredu!"
Roedd Nerys a'i theulu o Landeilo yn Ffrainc yn gwylio'r gêm: "O'dd hi'n waith caled! O'dd hi'n gyffrous... ond 'naethon ni waith caled ohoni."
Dywedodd ei mab, Ifan: 'Na'r gêm anoddaf yn y grŵp fi'n meddwl, gallen ni fynd i'r chwarteri, falle'r haneri."
'Bydd pawb arall yn poeni'
Ychwanegodd Pamela o Lanharan, Rhondda Cynon Taf: "Gwych - am gêm!
"Gallai fod wedi mynd unrhyw ffordd - roedd hi mor gyffrous!"
"Ond llwyddon ni i ddal ein gafael ynddi, ac ymlaen â ni at y nesaf.
"Roedd hi mor nerfus [yn y diwedd]. Ond roedd hi'n gêm wych. Nes i fwynhau'n fawr ac roedd hi bendant werth dod.
"Rwy'n credu, nawr ein bod ni wedi trechu Fiji, y bydd pawb arall yn poeni."
Ond nid pawb yn y stadiwm oedd wedi mwynhau'r profiad!
Dywedodd Rhodri Sion o Gastell-nedd bod Cymru wedi bod yn "arbennig, naethon nhw roi eu cyrff ar y lein".
Ond: "Alla i ddim dweud bo fi 'di mwynhau'r gêm o gwbl, tan yr eiliad ola' pan naethon nhw ryddhau'r bêl!
"Ymlaen i'r ffeinal efallai?"
Un arall yn yr un gwch oedd Tudur Jones o Drebanws: "Wel, odd e'n rhyddhad ar y diwedd!
"Cymaint o fygythiad 'da Fiji ond yn y pendraw, 'oedd ein amddiffyn ni'n wych, ymlaen nawr i Nice yn erbyn Portiwgal."
Dywedodd John Jackson o Rhisga, Sir Caerffili, fod Cymru'n lwcus yn y diwedd i ddal eu gafael yn y fuddugoliaeth.
"Fe wnaethon nhw bethau'n anodd i'w hunain - gadael hi tan y munud olaf a bron ei thaflu hi i ffwrdd, ond roedden ni'n lwcus.
"Dydyn ni ddim am fynd o flaen gofid, ond pam lai mynd amdani?"
Gweddill gemau Cymru yng Nghwpan y Byd
Cymru v Portiwgal, Nice - 16:45 (amser Cymru) dydd Sadwrn, 16 Medi
Cymru v Awstralia, Lyon - 20:00 dydd Sul, 24 Medi
Cymru v Georgia, Nantes - 14:00 dydd Sadwrn, 7 Hydref
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Medi 2023
- Cyhoeddwyd10 Medi 2023