Annog brechu plant rhag y ffliw cyn y gaeaf

  • Cyhoeddwyd
Brechu plentynFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae arbenigwyr iechyd cyhoeddus yn annog rhieni i sicrhau fod eu plant wedi eu brechu rhag y ffliw cyn y gaeaf.

Bu'n rhaid i bron i 800 o blant rhwng 2 ac 16 oed fynd i'r ysbyty oherwydd yr haint y gaeaf diwethaf.

Mae pryder y gallai'r plant na ddaeth i gysylltiad â'r feirws yn y blynyddoedd diwethaf fod yn fwy agored i niwed oherwydd llai o gymysgu cymdeithasol.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) y gall plant ifanc ddal a lledaenu ffliw yn hawdd.

Mae pob plentyn oed cynradd ac uwchradd yn gymwys i gael brechlyn ffliw.

Dywedodd ICC fod brechu plant nid yn unig yn eu hamddiffyn nhw, ond mae hefyd yn amddiffyn pobl hŷn, y gymuned ehangach a'r GIG.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i bron i 800 o blant rhwng 2 ac 16 oed fynd i'r ysbyty oherwydd yr haint y gaeaf diwethaf

Dywedodd Hawys Youlden, yr uwch nyrs sy'n arwain rhaglen imiwneiddio ICC, fod y "ffliw yn feirws clyfar" ac mae'n anodd gwybod sut y bydd yn effeithio ar bobl.

"Mae'r brechlynnau ffliw wedi cael eu rhoi yn yr ysgol nawr am sawl blwyddyn, mae'n gyfleus iawn, ni'n gwbod eu bod nhw'n ddiogel ac yn effeithiol iawn," dywedodd ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru.

Dywedodd y gall plant gael chwistrelliad yn y trwyn a bod hynny'n "gyflym ac yn ddi-boen".

"Ni eisiau dweud i bawb i ddod ymlaen i gael y brechlyn eleni yn enwedig nawr yn yr hydref cyn i'r ffliw ddod i gylchredeg yn y gymuned," ychwanegodd.

"Y peth yw gyda ffliw, ni ddim yn gw'bod sut mae e'n mynd i fihafio."

'Pryder y bydd mwy o ffliw yn lledaenu'

Dywedodd Dr Eilir Hughes, sy'n feddyg teulu yn Nefyn yng Ngwynedd fod plant a phobl ifanc yn "gronfa i'r ffliw".

"[Mae] pryder o bosib y bydd 'na llawer iawn fwy o ffliw yn lledaenu y gaeaf yma - oherwydd o bosib bod y niferoedd wedi bod yn llai dros y blynyddoedd diwethaf yn sgil y cloadau sydd wedi bod," dywedodd ar Dros Frecwast.

"Felly os gallwn ni gael lefel uchel o'r plant a'r bobl ifanc wedi eu brechu byddai hynna yn torri ar y consyrn mewn ffordd y gallai y ffliw roi straen ar y gwasanaeth iechyd y gaeaf yma."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd pobl yn cael pigiadau atgyfnerthu'r hydref cyn hir

Yn ogystal â phlant, mae pawb dros 65 oed, menywod beichiog a phobl â chyflyrau iechyd hir dymor ymhlith y grwpiau sy'n gymwys am bigiad ffliw.

Bydd rhaglen pigiad atgyfnerthu'r hydref Covid-19 yn dechrau cyn hir hefyd a bydd pawb dros 65 oed yn cael cynnig hwnnw.

Ychwanegodd Dr Eilir Hughes ein bod "yn sicr yng nghanol ton" o Covid ar hyn o bryd.

"Dwi dal yn gorfod gyrru ambell glaf i'r ysbyty i gael triniaeth ar ôl cael Covid-19, felly mae o yn broblem," dywedodd.

"Hynny yn ystod mis Awst... mae'n syndod sut mae'r haint yma yn dal i beri trafferthion i ni, a 'dan ni'n gw'bod bod y lledaeniaid llawer iawn uwch yn ystod tymor y gaeaf pan fod pobl yn treulio amser dan do yng nghwmni ei gilydd.

"Wrth gwrs, 'dan ni ddim yn yr un lle ac oedden ni ar ddechrau'r pandemig ac mae lot o hynny oherwydd sut mae'r brechlynnau wedi bod mor effeithiol."

Fe wnaeth gynghori pobl i edrych ar wefan neu gysylltu â'u byrddau iechyd lleol i gael gwybodaeth am drefniadau brechu lleol.

'Un o'r camau pwysicaf'

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan: "Brechu yw un o'r camau pwysicaf y gallwn eu cymryd ar gyfer ein hiechyd ein hunain, a dyma'r cam ataliol pwysicaf y gall GIG Cymru ei gynnig i bobl yng Nghymru. 

"Mae'r hen a'r ifanc iawn yn wynebu risg benodol o salwch anadlol, a bydd ein dull ar gyfer rhaglen frechu anadlol y gaeaf yn sicrhau bod y rhai sy'n gymwys yn cael eu hamddiffyn rhag Covid-19 a ffliw tymhorol.

"Rwy'n annog pobl i ddod ymlaen ar gyfer y ddau frechlyn hyn pan fyddant yn cael eu cynnig, yn enwedig yn sgil yr amrywiolyn newydd o Omicron (BA.2.86), fel y gallwn barhau i amddiffyn ein hanwyliaid a chadw Cymru'n ddiogel y gaeaf hwn."