Rheol 20mya: Beth allwn ni ei ddisgwyl?
- Cyhoeddwyd
Ddydd Sul bydd rheol newydd yn dod i rym fydd yn golygu bod yn rhaid i fodurwyr yng Nghymru gadw at gyflymder o ddim mwy nag 20mya ar lawer o ffyrdd.
Mae'r cyfyngiad eisoes wedi ei gyflwyno mewn rhai ardaloedd, lle'r oedd yn arfer bod yn 30mya.
Y llynedd, pleidleisiodd y Senedd dros gyflwyno 20mya fel y cyfyngiad cyflymder arferol ar ffyrdd cyfyngedig, a bydd y gyfraith yn dod i rym ar 17 Medi.
Mae'r newid wedi bod yn destun dadlau, ac mae'n codi nifer o gwestiynau: Pwy fydd yn ei blismona? Beth os cewch chi eich dal yn gyrru'n rhy gyflym? Faint fydd y ddirwy?
Dyma geisio ateb rhai o'r cwestiynau sy'n codi.
Beth yw ffordd gyfyngedig?
Bydd cyfyngder o 20mya yn dod i rym ar ffyrdd cyfyngedig - restricted road. Mae hynny'n golygu unrhyw ffordd sydd â goleuadau stryd, a'r polion hynny ddim mwy nag 200 llath ar wahân.
Maen nhw fel arfer wedi eu gosod mewn ardaloedd preswyl - ardaloedd lle mae llawer o adeiladau a cherddwyr.
Ond mae rhai ffyrdd yn cael eu neilltuo o'r cynllun, fel rhai ble byddai'n "afrealistig" i ddisgwyl i bobl yrru ar gyflymder o 20mya.
Pryd fydd y newid yn dod i rym?
Bydd y gyfraith 20mya newydd yn dod i rym ar 17 Medi.
Cymru fydd un o'r gwledydd cyntaf yn y byd, a'r gyntaf o fewn y Deyrnas Unedig, i gyflwyno'r rheol 20mya fel cyfyngiad arferol. Cafodd ei chymeradwyo gan Senedd Cymru ym mis Gorffennaf 2022.
Ddwy flynedd cyn hynny, roedd 39 o aelodau'r Senedd wedi pleidleisio o blaid rhoi sêl bendith i'r cynllun, a 15 yn erbyn.
Pa gyfraith sy'n newid?
Mae Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 yn dweud nad yw hi'n gyfreithlon gyrru ar gyflymder uwch na 30mya ar ffordd gyfyngedig.
Bydd hynny'n cael ei addasu i 20mya.
Oes modd gorfodi cyfyngiad cyflymder 20mya?
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod wedi bod yn cydweithio'n agos gyda'r heddlu er mwyn datblygu strategaeth orfodaeth.
Yn dechnegol fe allech chi gael dirwy am yrru dros 20mya o ddydd Sul ymlaen, ond mae Llywodraeth Cymru'n dweud mai addysgu pobl yw'r flaenoriaeth i ddechrau, ac y bydd yr ymateb yn rhesymol.
Ar hyn o bryd, y gosb leiaf am oryrru yw dirwy o £100 a thri phwynt ar eich trwydded.
Gallwch gael eich gwahardd rhag gyrru os cewch chi 12 pwynt neu fwy o fewn tair blynedd.
Os cewch chi eich dal gan gamera, ac yn dibynnu ar eich cyflymder, fe allech gael cynnig cwrs ymwybyddiaeth cyflymder, hysbysiad cosb benodedig neu lythyr yn gorchymyn i chi fynd i'r llys.
Os cewch chi eich stopio gan yr heddlu, mae dewis ganddyn nhw rhwng rhoi rhybudd geiriol i chi, cyflwyno hysbysiad cosb benodedig, cynnig cwrs ymwybyddiaeth cyflymder neu eich gorchymyn i fynd i'r llys.
Serch hynny, dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd gyrwyr yn cael amser i ddod i arfer â'r newid.
Bydd aelodau o staff y Gwasanaeth Tân yn cynorthwyo'r heddlu i gyflwyno'r cyfyngiad newydd, fel rhan o waith diogelwch y maen nhw eisoes yn ei wneud.
Fydd pobl yn cadw at reol 20mya?
Mae cynlluniau peilot wedi eu cynnal mewn wyth ardal ers 2021: Llandudoch, Sir Benfro; Sant-y-brid, Bro Morgannwg; Gogledd Llanelli, Sir Gaerfyrddin; Bwcle, Sir y Fflint; Canol Gogledd Caerdydd; Cil-ffriw, Castell-nedd Port Talbot; Y Fenni, Sir Fynwy; Glan Hafren, Sir Fynwy.
Yn ôl data dros dro, fe gododd nifer y bobl oedd yn cadw at y rheol 20mya o 45% ar ddechrau'r cynllun, i 64%.
Mae gan sawl ardal yn Llundain derfyn cyflymder o 20mya ar ffyrdd preswyl erbyn hyn, tra bo cynlluniau yn Yr Alban i ddilyn esiampl Cymru a chyflwyno polisi cenedlaethol yn 2025.
Mae gan lawer o ddinasoedd a threfi yn y Deyrnas Unedig barthau 20mya mewn ardaloedd preswyl, hyd yn oed os nad ydy'r awdurdod lleol wedi cyflwyno polisi cyffredinol ar gyfer yr ardaloedd hynny.
Beth fydd cost y rheol 20mya?
Amcangyfrif cost cyflwyno'r rheol yw £33m.
Ond mae Llywodraeth Cymru'n mynnu y bydd £58m yn cael ei arbed dros gyfnod o 30 mlynedd, oherwydd y bydd strydoedd mwy diogel yn golygu llai o alw am gymorth gwasanaethau brys mewn damweiniau a thriniaethau ysbyty.
Pwy fydd yn talu amdano?
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud mai nhw fydd yn ysgwyddo baich uniongyrchol y polisi, ac yn darparu grantiau i awdurdodau lleol gyda'u gwaith nhw.
Ydy gyrru'n arafach yn lleihau'r risg?
Yn ôl data diweddara'r heddlu o 2022, roedd ychydig dros hanner - 51% - o'r 4,442 o bobl a gafodd eu hanafu mewn gwrthdrawiadau yng Nghymru wedi eu hanafu ar ffyrdd 30mya, ac yn 23% o'r achosion hynny fe gafodd rhywun ei ladd neu ei anafu'n ddifrifol.
Mae ymgyrchwyr yn dadlau fod gobeithion unigolyn o oroesi cael ei daro gan gar sy'n teithio ar gyflymder o 20mya saith gwaith yn uwch na 30mya, tra bo pellter stopio bron â chael ei haneru.
Allai'r rheol 20mya fod o les i'r amgylchedd?
Mae gweinidogion yn y Senedd wedi bod yn hybu teithio cynaliadwy - fel seiclo a cherdded - ers i Gymru ddatgan argyfwng hinsawdd yn 2019, gyda'r nod o gyrraedd sero net carbon erbyn 2050.
Maen nhw'n credu y gallai cyflwyno terfyn cyflymder arafach annog newid mewn ymddygiad.
Oes gwrthwynebiad i gyflwyno'r rheol 20mya?
Mae degau o filoedd o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw ar y Senedd i beidio newid y gyfraith.
Mae rhai yn dadlau y gallai'r newid fod yn niweidiol i'r economi, niweidio bywoliaeth pobl a llesteirio amseroedd ymateb y gwasanaethau brys.
Mae rhai gwrthwynebwyr yn dangos eu hanfodlonrwydd ynglŷn a'r rheol newydd drwy glymu rhuban coch ar flaen eu cerbydau.
Mae achosion o ddifrodi neu dynnu arwyddion wedi eu cofnodi mewn sawl sir hefyd, gan gynnwys Conwy, Fflint, Gwynedd, Casnewydd, Torfaen, Wrecsam ac Ynys Môn.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Medi 2023
- Cyhoeddwyd26 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2022