20mya: 'Y Ceidwadwyr yn lledaenu honiadau ffug'

  • Cyhoeddwyd
Arwydd 20mya
Disgrifiad o’r llun,

Bydd terfyniadau cyflymder yn newid o 30mya i 20mya o 17 Medi, er y bydd cynghorau'n gallu gosod eithriadau

Mae'r Ceidwadwyr wedi cael eu cyhuddo o ledaenu "gwybodaeth anghywir yn sinigaidd" am gyflwyno terfyn 20mya yn y mwyafrif o ardaloedd preswyl.

Mae aelodau Ceidwadol o'r Senedd, gan gynnwys arweinydd y grŵp Andrew RT Davies, wedi galw'r newid o 30mya i 20mya ar y rhan fwyaf o ffyrdd yn "bolisi cyffredinol".

Ddydd Sul, fe fydd y rhan fwyaf o ffyrdd Cymru sydd ar hyn o bryd yn ffyrdd 30mya yn troi'n rhai 20mya, er bod cynghorau wedi gallu gosod eithriadau ac wedi gwneud hynny.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters: "Mae'n ddrwg gen i ddweud bod aelodau Ceidwadol yn gwneud honiadau ffug am y polisi hwn, polisi y pleidleisiodd llawer ohonyn nhw drosto yn y siambr hon."

Ond dywedodd llefarydd trafnidiaeth y Torïaid, Natasha Asghar, y byddai'r newid yn niweidio'r economi, swyddi a gwasanaethau brys.

Dywedodd Mr Waters wrth y Senedd ddydd Mawrth: "Gyda mwy o ymwybyddiaeth o'r terfyn cyflymder sy'n dod i rym, mae pryderon yn dod i'r wyneb ac nid yw pryderon naturiol pobl am newid wedi cael eu helpu gan y wybodaeth anghywir amlwg sy'n cael ei lledaenu'n sinigaidd gan y Ceidwadwyr yng Nghymru."

Lle mae achos dros ffyrdd â therfyn cyflymder o 30mya, yn hytrach na 20mya, dywedodd y gweinidog y byddai'n cael ei osod ar 30, "felly does dim terfyn cyffredinol 20 milltir yr awr, fel y mae'r Ceidwadwyr yn honni ar gam".

Ychwanegodd: "Gall amrywio yn ôl amgylchiadau lleol, fel y penderfynwyd gan yr awdurdod priffyrdd lleol ac mae hynny'n digwydd yn barod."

'Niweidio'

Ymatebodd Natasha Asghar trwy ailadrodd yr honiadau. "Ni allaf, ac nid wyf erioed, wedi cefnogi cyfyngiad cyflymder cyffredinol o 20 milltir yr awr ar draws Cymru," meddai.

"Rydych chi mewn gwirionedd yn mynd i niweidio'r economi, niweidio bywoliaeth pobl a llesteirio amseroedd ymateb y gwasanaethau brys."

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar newid hinsawdd, Delyth Jewell, ei bod yn cefnogi newid a fyddai "o fudd i'n hiechyd, iechyd ein plant, ac iechyd ein planed".

Ond pwysleisiodd yr angen i "wrando ar gymunedau" a sicrhau bod gan gynghorau'r gefnogaeth angenrheidiol "i wneud yn siŵr nad yw terfynau cyflymder anaddas yn cael eu cyflwyno".

Ychwanegodd: "Allwn ni ddim mynd ymlaen i feddwl bod damweiniau ffordd a phlant yn marw yn bris sydd angen ei dalu."