Terfyn 20mya: 'Pris bach i'w dalu am arbed bywydau'

  • Cyhoeddwyd
Arwydd 20myaFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cyflwyno terfyn 20mya yn y mwyafrif o ardaloedd preswyl "yn bris bach i'w dalu" i sicrhau diogelwch ar y ffyrdd, yn ôl Prif Weinidog Cymru.

Wrth siarad ar raglen Radio Wales Breakfast fe amddiffynnodd Mark Drakeford gost y cynllun, sef £32.5m, gan ddweud y bydd yn arwain at lai o farwolaethau a damweiniau.

Dywedodd hefyd y bydd yna ddiweddariad ynghylch concrit RAAC mewn ysgolion ddydd Gwener, gan alw ar Lywodraeth y DU i dalu costau gwaith atgyweirio angenrheidiol.

Ac fy ddywedodd bod trafodaethau'n parhau ynghylch toriadau posib i gyllideb Cymru.

Disgrifiad,

20mya 'o fudd' medd rhai ond 'yn gosb', medd eraill

Er bydd y terfyn cyflymder i yrwyr yn gostwng o 30mya i 20mya ar fwy o ffyrdd preswyl yng Nghymru o 17 Medi ymlaen, fe fydd rhai ffyrdd yn cael eu neilltuo o'r cynllun.

Er enghraifft, ni fydd rhan o'r A5025 ym mhentref Cemaes yn Ynys Môn yn rhan o'r cynllun wedi i'r Awdurdod Priffyrdd ddweud y byddai'n "afrealistig" i ddisgwyl i bobl yrru ar gyflymder o 20mya ar ei hyd.

Serch hynny, mae rhai yn gwrthwynebu'r newid yn chwyrn. Mae achosion o ddifrodi neu dynnu arwyddion wedi eu cofnodi mewn sawl sir, gan gynnwys siroedd Conwy, Fflint, Gwynedd, Casnewydd, Torfaen, Wrecsam ac Ynys Môn.

Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sy'n cynrychioli'r awdurdodau lleol bod swyddogion yn "gweithio'n galed i batrolio, arolygu ac ailosod sticeri ble bynnag mae'n bosib" ond gan mai dyddiau yn unig sydd tan y newid mae rhai cynghorau wedi penderfynu nawr i beidio â gosod sticeri newydd.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Môn
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Cyngor Môn bod arwydd newydd 20mya wedi ei dynnu o'r postyn yma yn Rhosmeirch

Yn ôl Mr Drakeford mae "newid yn anodd" a bydd "yn cymryd amser" i bobl ddod i arfer ag amodau gyrru gwahanol.

Cyfeiriodd at fesurau eraill, fel gorfod gwisgo gwregys a phrofion anadlu ymyl ffordd, oedd "yn ddadleuol iawn" ar y dechrau ond yn rhan o fywyd bob dydd erbyn hyn.

'Rhaid gwario arian i arbed arian'

"Bydd terfyn 20mya mewn ardaloedd preswyl yn golygu llai o farwolaethau, llai o ddamweiniau. Mae'n bris bach i'w dalu i sicrhau bod pobl yn ddiogel ar y ffyrdd.

"Bydd [cost cyflwyno'r cynllun] £32m yn gost untro. Bydd yn arbed £92m i'r gwasanaeth iechyd bob blwyddyn. Rhaid gwario arian i arbed arian.

"Bydd yn lleihau costau gyda miloedd yn llai o gleifion dros 10 mlynedd."

Cyfeiriodd ar gynllun tebyg yn Sbaen ble mae 34% yn llai o bobl wedi marw wrth seiclo, gan ddweud mai "cost bach iawn yw gofyn i bobl yrru ychydig yn arafach".

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Ysgol David Hughes, Porthaethwy ac Ysgol Uwchradd Caergybi - yr unig ddwy ysgol hyd yn hyn i gael eu heffeithio wedi i goncrid diffygiol gael ei ganfod mewn adeiladau

Dywedodd Mr Drakeford ei fod wedi cadeirio cyfarfod gyda gweinidogion "bob diwrnod wythnos yma" i drafod y wybodaeth ddiweddaraf o ran problemau posib gyda choncrit mewn ysgolion.

Yn dilyn cyfarfod pellach brynhawn Iau, mae'n gobeithio bod mewn sefyllfa i gyhoeddi mwy o fanylion ddydd Gwener.

"Bob diwrnod rydyn ni'n clywed gan fwy o awdurdodau lleol eu bod wedi cwblhau eu harchwiliadau," dywedodd.

'Rheolau atebolrwydd wedi datganoli yn glir'

Oni bai am ddau o ysgolion uwchradd Ynys Môn a fu'n rhaid cau dros dro wedi i'r concrit diffygiol gael ei ganfod yno, dywedodd Mr Drakeford "does dim ysgol pellach wedi ei nodi yng Nghymru fel un sydd â'r broblem yma hyd yn hyn".

Dyw rhai cynghorau sir, meddai, heb gwblhau pob archwiliad eto ac mae'n bosib y bydd y broses yn parhau wythnos nesaf, ond wrth i'r "darlun ddod yn fwy clir" fe fydd Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi mwy o fanylion "yn bendant erbyn diwedd y dydd yfory".

Ond yng Nghymru, dywedodd "does dim nifer enfawr o ysgolion sy'n dod i'r fei bob diwrnod - yn wir, drwy'r wythnos gyfan does dim un ysgol wedi ei nodi" fel un â choncrit RAAC yn bresennol.

Fe alwodd Mr Drakeford, AS Gorllewin Caerdydd, ar y Trysorlys i dalu am unrhyw waith angenrheidiol i ddatrys y sefyllfa.

"Mae'r rheolau'n gwbl glir. Os oes atebolrwydd yn codi dros rywbeth a ddigwyddodd cyn datganoli yn y DU, Llywodraeth y DU sy'n dal yn gyfrifol am hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Mark Drakeford yn cael ei holi gan Radio Wales ddydd Iau

Mae Llywodraeth Cymru wedi darogan bod yna fwlch o £900m yn ei chyllideb, a dywedodd Mr Drakeford ei fod wedi penderfynu yn gynnar yn y flwyddyn ariannol gyfredol y byddai angen gofyn am arbedion yng nghyllidebau pob un o'i weinidogion.

Dywedodd eu bod "ddim eto ble mae angen i ni fod, ond rydym yn bendant yn gwneud cynnydd" a bydd y cabinet yn cwrdd yn fuan i geisio cael y maen i'r wal.

Mae'r sefyllfa, meddai, yn ganlyniad "nid dim ond un flwyddyn o chwyddiant ond 13 mlynedd o lymder wedi eu dwysáu gan chwyddiant".

Ychwanegodd: "Mae e fel y problemau sy'n wynebu aelwydydd. Mae [cost] ynni'n codi - felly hefyd mewn ysbytai, ysgolion."

'Prosiectau porthi balchder'

Mewn ymateb i'r cyfweliad, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd bod Mr Drakeford "wedi methu sôn" y bydd y cynllun 20mya "yn costio £4.5bn i economi Cymru, gan leihau ein gallu i dalu am wasanaethau cyhoeddus craidd fel GIG Cymru".

Ychwanegodd Andrew RT Davies bod angen "eglurder ar frys gan y Prif Weinidog y bydd yn gwarchod GIG Cymru [a] na fydd iechyd yn dioddef oherwydd ei fod yn gorestyn ei gyllideb unwaith eto trwy flaenoriaethu prosiectau porthi balchder".

Mae llefarydd Plaid Cymru ar drafnidiaeth wedi dweud bod y blaid yn "llwyr gefnogi egwyddor terfynau cyflymder mwy diogel".

Ond ychwanegodd Delyth Jewell AS y dylai "cymunedau gael rhoi barn ar newidiadau ble nad yw 20mya yn teimlo'n gywir ar gyfer ble maen nhw'n byw".