Llyfrgell Genedlaethol: Tua 1,200 o eitemau ar goll

  • Cyhoeddwyd
Llyfrgell Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan y llyfrgell yr hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon

Mae tua 1,200 o eitemau ar goll yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Ymhlith yr awduron sydd â gwaith ar goll mae O M Edwards, Cranogwen (Sarah Jane Rees), Kate Roberts, Glanmor Williams, Dylan Thomas, Seamus Heaney, Ernest Hemingway, Sylvia Plath, Ruth Rendell, T S Eliot, Gerard Manley Hopkins, a W B Yeats.

Ar goll y mae paentiad 'John Parker of Sweeney Hall 1859' gan Charles Edward Hallé, sawl eitem o gofnodion Llys y Sesiwn Fawr am weinyddiaeth gyfreithiol yng Nghymru cyn 1830, a chopi o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Mae rhifynnau o Seren Gomer, y papur newydd cyntaf i'w gyhoeddi yn y Gymraeg, ar goll a nifer o fapiau degwm a gynhyrchwyd rhwng 1838 a 1850.

Mae pedwar map ar goll ers 1939, llythyrau ar goll ers 1978, a rhai llyfrau a chylchgronau ar goll ers 1999.

'Lleihau risg'

"Ni allwn ddweud yn bendant fod pob un o'r eitemau hyn ar ystad y llyfrgell" meddai llefarydd ond "camleoli yw'r rheswm gan amlaf".

Ychwanegodd bod gweithdrefnau yn eu lle sy'n "lleihau unrhyw risg o eitemau yn mynd ar goll a hefyd y risg bod eitemau yn cael eu dwyn".

O'r 1,196 eitem ar goll yn y rhestr gyfredol, dangosodd gais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth gan BBC Cymru fod:

  • 665 yng nghategori "llyfrau a chylchgronau", wedi eu nodi ar goll "rhwng 1999 a 2023";

  • 393 mapiau, wedi eu nodi ar goll "rhwng 1939 (pedwar eitem) a 2023";

  • 117 yng nghategori "archifau a llawysgrifau" wedi eu nodi ar goll "rhwng 1978 (un eitem) a 2023";

  • 21 yng nghategori "lluniau a ffotograffau", wedi eu nodi ar goll "rhwng 2009 a 2023".

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r paentiad hwn, sef olew ar gynfas, ar goll - John Parker of Sweeney Hall, gan Charles Edward Hallé

Ymhlith yr eitemau ar goll o'r adran archifau a llawysgrifau y mae:

  • Penpont Supplement - ar goll ers 1978 o'r casgliad o gofnodion ystâd teulu Williams o Benpont, Sir Frycheiniog, 1314-1871. Mae'r ddogfen sydd ar goll yn rhan o fwndel o lythyrau a ddisgrifir fel "llythyrau oddi wrth Robert Williams at Penry Williams yn ymwneud yn bennaf â'r busnes o amddiffyn y gŵyn yn Siawnsri John Lloyd yn erbyn Penry Williams mewn perthynas â thiroedd Cwm Sevin";

  • Sawl eitem o gofnodion Llys y Sesiwn Fawr, o'r hyn a ddisgrifir gan y llyfrgell fel y "casgliad pwysig ac unigryw yn ymwneud â gweinyddiaeth gyfreithiol yng Nghymru cyn 1830";

  • Rhai o bapurau Tŷ Cenedl, a sefydlwyd yn 1983 gan y mudiad Cofiwn i "astudio, ymchwilio a hyrwyddo hanes Cymru". Casglwyd ystod eang o ddeunydd yn dyddio'n bennaf o'r 1950au ymlaen yn ymwneud yn bennaf â mudiadau cenedlaetholgar a radicalaidd yng Nghymru;

  • Sgriptiau BBC, gan y llenor a'r ysgolhaig Pennar Davies a'r hanesydd Glanmor Williams - ar goll ers 2009;

  • Gweithredoedd sy'n cofnodi perchnogaeth Castell Powis, yn Y Trallwng - ar goll ers 2010;

  • Rhôl achau Castell Pictwn, y castell canoloesol ger Hwlffordd;

  • Eitem o gasgliad Mrs Kitty Idwal Jones (1898-1984), oedd yn ferch i'r AS Rhyddfrydol Syr John Herbert Lewis (1858-1933);

  • Eitem o bapurau yr artist ac awdur David Jones;

  • Rholiau Castell Gwrych;

  • Eitemau o bapurau'r Parchedig John Roberts, Llanfwrog (1910-1984), oedd yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a bardd.

Mae gan y llyfrgell gyfres o fapiau degwm - roedd y degwm yn daliad a godwyd ar ddefnyddwyr tir ac yn wreiddiol byddai'r taliad yma yn cael ei wneud mewn nwyddau fel cnydau, gwlân, llaeth a stoc. Cynhyrchwyd y mapiau degwm rhwng 1838 a 1850 yn dilyn Deddf Cymudo'r Degwm yn 1836 fel rhan o'r broses i sicrhau fod pawb yn gwneud taliad degwm ariannol yn hytrach na chynnyrch.

Ond mae nifer o fapiau degwm y llyfrgell ar goll ers 2009, gan gynnwys:

  • Ynys Môn: Llandysilio;

  • Aberhonddu, Sant Ioan yr Efengylwr;

  • Sir Aberteifi: Llanfihangel Ystrad;

  • Sir Aberteifi: Tre-Main;

  • Sir Ddinbych: Gresffordd (Erddig);

  • Sir Ddinbych: Llanbedr Dyffryn Clwyd;

  • Morgannwg: Bedwas;

  • Sir Faesyfed: Bugeildy.

Ffynhonnell y llun, Y LLYFRGELL GENEDLAETHOL
Disgrifiad o’r llun,

Mae mapiau degwm yn eich galluogi i wybod mwy am eich ardal leol.

Mae pedwar map "Bettisfield", sef Llys Bedydd ger Wrecsam - a roddwyd fel "eitemau i'w cadw'n ddiogel" gan y Capten Syr Edward Hanmer (7fed Barwnig Hanmer), ym 1937-38 - wedi eu nodi ar goll ers 1939, pan gawsant eu benthyg i gwmni cyfreithwyr yn Llundain.

Esboniodd y llyfrgell, "mae'n ddigon posib i'r perchennog benderfynu y dylai aros gyda'r cyfreithwyr neu hyd yn oed benderfynu eu cadw".

Ymhlith y cylchgronau, mae rhifynnau ar goll o:

  • Seren Gomer - y papur newydd cyntaf i'w gyhoeddi yn y Gymraeg, a sefydlwyd gan Joseph Harris (Gomer, 1773-1825) yn 1814. Mae cyfrolau 1904, 1907 a 1908 ar goll.

  • Cymru Fydd: cylchgrawn y blaid genedlaethol Gymreig (a ddatblygodd yn ddiweddarach i fod yn Blaid Cymru);

  • Yr Enfys: cylchgrawn y Cymry ar wasgar;

  • Llais y Lli: papur myfyrwyr Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth;

  • Hanes Cerddoriaeth Cymru;

  • Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Mae Pedr ap Llwyd wedi bod yn brif weithredwr a llyfrgellydd y sefydliad ers 2019, ar ôl bod yn ddirprwy brif weithredwr a chyfarwyddwr casgliadau a rhaglenni cyhoeddus

Mae'r llyfrau Cymraeg sydd ar goll yn cynnwys:

  • Trem ar Hanes Cymru (1893) gan O. M. Edwards;

  • Ar orwel pell: atgofion am y Rhyfel-Byd cyntaf 1914-1918 (cyhoeddwyd yn 1965);

  • Cyfansoddiadau'r Eisteddfod Genedlaethol, 1932-35;

  • Atgofion, Kate Roberts;

  • Caniadau Cranogwen - cyfrol o 40 o'i cherddi, 1870;

  • Y gerdd 'Dinistr Jerusalem' gan Eben Fardd (Ebenezer Thomas), 1895;

  • Y Beibl cyssegr-lan sef Yr Hen Destament, a'r Newydd, 1888;

  • Awstralia a'r cloddfeydd aur gan John Glanmor Williams, 1852;

  • Tai uchelwyr y beirdd 1350-1650 (1986), gan Enid Roberts;

  • Y Mabinogion: hud yr hen chwedlau Celtaidd (1998), a olygwyd gan Tegwyn Jones;

  • Cyfreithiau Hywel Dda yn ôl Llyfr Blegywryd (dull Dyfed): argraffiad beirniadol ac eglurhaol (1942);

  • Peniarth 28: Darluniau o Lyfr Cyfraith Hywel Dda, gan Daniel Huws, 1988;

  • Y Goeden Eirin gan John Gwilym Jones, 1946;

  • Yn dy gwmni di, Robat Arwyn, 2010.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Sarah Jane Rees yn cael ei hadnabod fel Cranogwen - mae Caniadau Cranogwen ar goll

Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006, a gyhoeddwyd yn Saesneg gan lywodraeth y Deyrnas Unedig, ar goll - dyna'r ddeddf a newidiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ddeddfwrfa gyflawn.

Trwy'r ddeddf y sefydlwyd Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd (sef Llywodraeth Cymru erbyn hyn).

Ymhlith yr eitemau ar goll yn adran y lluniau a ffotograffau y mae:

  • Paentiad - John Parker of Sweeney Hall, gan Charles Edward Hallé;

  • Y gwleidydd a'r bargyfreithiwr, yr Arglwydd John Morris, a fu farw yn gynharach eleni;

  • Meirionnydd gan Chris Clunn.

Dywedodd Manon Foster Evans, pennaeth casgliadau cyhoeddedig y llyfrgell, "mae'r mwyafrif o'r eitemau wedi eu cofnodi ar goll o'u lleoliad cywir ar y silff yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd diwethaf.

"Mae'r gwaith o wirio'r stoc a dychwelyd eitemau i'w lleoliad cywir yn digwydd yn barhaus ac felly mae'r wybodaeth hon yn newid yn gyson."

'Canran fechan iawn'

Yn ôl pennaeth marchnata a chynulleidfaoedd y llyfrgell, Rhodri ap Dyfrig: "Ni allwn ddweud yn bendant fod pob un o'r eitemau hyn ar ystad y llyfrgell, ond mae ein profiad o'r gorffennol yn dangos mai camleoli yw'r rheswm gan amlaf.

"Mae polisïau a gweithdrefnau mewn lle gan y llyfrgell sy'n rhoi sicrwydd ein bod yn lleihau unrhyw risg o eitemau yn mynd ar goll a hefyd y risg bod eitemau yn cael eu dwyn."

Ychwanegodd bod y "nifer o eitemau sydd wedi eu hadnabod ar goll o'r silff ar unrhyw adeg yn ganran fechan iawn o gasgliadau'r llyfrgell".

Mae'r llyfrgell yn cynnal archwiliad blynyddol o ddeunydd gwerth mwy na £10,000 ac ni chanfuwyd unrhyw eitemau ar goll sy'n croesi'r trothwy hwnnw eleni.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod "diogelwch casgliadau yn fater gweithredol i'r Llyfrgell Genedlaethol".

Ychwanegodd: "Mae'r staff yn y llyfrgell yn gweithio i safonau proffesiynol gan gynnwys Achrediad Gwasanaeth Archifau i sicrhau bod eu casgliadau yn cael eu diogelu wrth sicrhau eu bod yn hygyrch a bod ymwelwyr ac ymchwilwyr yn teimlo bod croeso iddynt."

Saith miliwn

Mae casgliadau'r llyfrgell yn cynnwys saith miliwn o lyfrau a phapurau newydd, 1.5 miliwn mapiau a 950,000 ffotograffau.

Mae'n llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu fod ganddi hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon.

Sefydlwyd y llyfrgell yn 1907 a dechreuwyd defnyddio yr adeilad ar riw Pen-glais uwchben tref Aberystwyth yn 1916.

Mae sawl estyniad wedi cael eu hychwanegu ers hynny, ac yn 1996 cafodd storfa fawr newydd ei hagor.

Y llynedd cafodd siambr gudd o dan y llyfrgell - a ddefnyddiwyd fel cuddfan yn ystod yr Ail Ryfel Byd i rai o'r casgliadau pwysicaf gan gynnwys Llyfr Du Caerfyrddin, Llyfr Gwyn Rhydderch a chasgliad Peniarth - ei hailagor i'r cyhoedd am y tro cyntaf ers tua ugain mlynedd.