Atgyfnerthu perthynas yr Urdd gydag eglwys yn Alabama
- Cyhoeddwyd
Mae darn o gelf wedi'i greu er mwyn cydnabod partneriaeth newydd rhwng yr Urdd a'r gymuned Affricanaidd-Americanaidd yn yr Unol Daleithiau.
Dros 50 mlynedd yn ôl cafodd cysylltiad ei wneud rhwng Cymru a'r gymuned yn Birmingham, Alabama pan gafodd pedair merch ifanc eu lladd a 22 o bobl eu hanafu gan fomiau yn Eglwys y Bedyddwyr yn y ddinas.
Yr eithafwyr gwyn, y Ku Klux Klan oedd yn gyfrifol, ac fe benderfynodd yr arlunydd gwydr o Gymru, John Petts greu ffenest liw fel rhodd i'r Eglwys.
Cafodd arian ei godi er mwyn talu am greu a gosod y ffenest ar ôl i bapur newydd y Western Mail ddechrau ymgyrch yn gofyn i'r cyhoedd am roddion. Mae'n cael ei galw'n Ffenest Cymru.
Daeth yr Urdd i gysylltiad â'r eglwys trwy waith rhyngwladol Llywodraeth Cymru.
Bydd prif weithredwr y mudiad, Siân Lewis yn ymweld â'r eglwys gyda Maer gwasanaeth ieuenctid Alabama ddydd Iau.
Mae'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams hefyd ar ymweliad am bedwar diwrnod, gyda'r bwriad o gryfhau cysylltiadau addysg rhwng y ddwy wlad.
Dywedodd Ms Lewis: "Mewn byd lle mae casineb a thrais yn rhy gyffredin o lawer, mae'n hollbwysig ein bod ni, fel mudiad, yn gwneud safiad ac yn rhoi platfform i'n pobl ifanc estyn allan drwy gyfeillgarwch ac undod ledled y byd.
"Mae Urdd Gobaith Cymru wastad wedi ceisio rhoi llais i unigolion a chymunedau sydd wedi'u gwthio i'r cyrion gan iaith, hil, crefydd neu wleidyddiaeth, ac ry'n ni'n falch o ddilyn yn ôl traed John Petts i sicrhau bod y neges yn atseinio'n glir yn Alabama heddiw."
Cafodd neges heddwch ac ewyllys da cyntaf yr Urdd ei chreu yn 1922, ac ers hynny mae wedi parhau i gael ei chyhoeddi yn flynyddol.
Dywedodd yr Urdd bod yr ymweliad ag Alabama yn gyfle i nodi cysylltiadau newydd â neges heddwch ac ewyllys da'r mudiad, a'i bod yn awyddus i greu perthnasau newydd gyda gwledydd wrth i'r mudiad ddathlu ei ganmlwyddiant yn 2022.
Dywedodd Ms Williams, fydd yn arwain y digwyddiad yn yr eglwys, bod angen parhau gyda'r berthynas sy'n bodoli rhwng Cymru a dinas Birmingham.
"Mae'n anrhydedd i mi ymweld â'r Eglwys gan ei fod mor bwysig ag erioed ein bod yn coleddu'r cysylltiadau hyn ac yn parhau i gofleidio heddwch fel y nod a rennir rhyngom," meddai.
Mae'r artist gwydr, Ruth Shelley wedi creu'r darn o gelf newydd fydd yn cael ei gyflwyno i'r Eglwys.
"Gan fod John Petts, o Gymru, wedi gwneud y ffenest wreiddiol, braf oedd cael gwneud cyfraniad 56 mlynedd yn hwyrach a fyddai yn symbol o'r bartneriaeth gyfoes," meddai.
"Y syniad tu ôl i'r cynllun oedd cyflwyno delwedd o ddwylo du a gwyn fel cadwyn rhwng neges heddwch ac ewyllys da yr Urdd, a'r ffenest a greodd John Petts o Iesu Grist wedi ei bortreadu â chroen tywyll ac i ddileu effeithiau hiliol a dangos neges heddwch yr Urdd i bawb."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mai 2019
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2018