Côr yn dathlu cysylltiad Cymru efo eglwys yn Alabama
- Cyhoeddwyd
Mae côr gospel o Alabama wedi ymweld â Chymru er mwyn dathlu eu cysylltiad efo'r wlad.
Ym 1963 cafodd y 16th Street Baptist Church yn Birmingham, Alabama ei bomio gan y Ku Klux Klan.
Ochr arall i fôr yr Iwerydd mi wnaeth John Petts, artist Cymreig, ddarllen am y digwyddiad a phenderfynodd dylunio a chreu ffenest liw newydd ar gyfer yr eglwys
Yn siarad efo'r BBC ym 1987 dywedodd Mr Petts: Doedden nhw erioed wedi clywed am Gymru, doedd ganddyn nhw ddim syniad lle y roedd [y wlad], ond yn gyflym iawn mi ddaethon nhw i glywed am Gymru a sut ein bod yn rhoi gwerth mawr i annibyniaeth a rhyddid."
Mae'r Wales Window of Alabama yn parhau yn yr eglwys hyd heddiw, a dywedodd cyfarwyddwr Côr Gospel Prifysgol Alabama, Dr James Reginald Jackson, ei fod yn gysylltiad "bendigedig" gyda Chymru.
Mi wnaeth Dr Jackson ac aelodau o'r côr ymweld â Chymru ym mis Mehefin gan berfformio yn Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri.
"Roedd yn fraint i fod yna," dywedodd Dr Jackson.
"Mi wnaethon ni ddysgu caneuon gospel yn y Gymraeg... Roedd hi'n anodd gan fod yr iaith mor wahanol, ond mi lwyddon ni ac roedd yn rhywbeth arbennig i ni."
Roedd y côr hefyd yn rhan o ddadorchuddiad murlun a gomisiynwyd fel rhan o Neges Heddwch gwrth-hiliaeth yr Urdd.
Cafodd y murlun o'r chwaraewr rygbi Nia Fajeyisan ei ysbrydoli gan eiriau'r neges ac mae wedi'i osod yn ardal Adamsdown yng Nghaerdydd.
Dywedodd Dr Jackson: Roedd yn arbennig oherwydd gallwn uniaethu â'r neges. Y thema oedd gwrth-hiliaeth, sy'n rhywbeth rydym wedi delio â chryn dipyn yn ein gwlad ni."
Ym mis Medi fe fydd yr unigolion a ddyluniodd neges yr Urdd yn mynd ar daith i Alabama er mwyn parhau gyda'r ymgyrch a hybu'r cysylltiad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2023