Ofnau'n parhau dros ddyfodol Tata er cymorth ariannol

  • Cyhoeddwyd
Gweithfeydd dur Port TalbotFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Tata, mae safle gwaith dur Port Talbot - y mwyaf yn y DU - yn gwneud colled o hyd at £1.5m y diwrnod

Mae disgwyl i drafodaethau barhau wythnos nesaf rhwng gweinidogion Cymru a rheolwyr Tata ynghylch dyfodol gweithfeydd dur y cwmni ym Mhort Talbot.

Mae'r cwmni wedi dod i gytundeb gwerth £1.2bn gyda Llywodraeth y DU i ddiogelu ei ddyfodol ynghyd â 5,000 o swyddi yn y DU.

O'r 8,000 sy'n cael eu cyflogi gan Tata yn y DU ar hyn o bryd, mae 4,000 ohonyn nhw ym Mhort Talbot.

Mae rheolwr Tata Steel, TV Narendran, wedi dweud bod y safle'n gwneud colled o hyd at £1.5m y diwrnod.

Mae Llywodraeth y DU yn rhoi £500m i ddiogelu'r safle a chynhyrchu dur yn wyrddach, a bydd Tata yn ychwanegu £700m ei hun wrth fuddsoddi mewn torri allyriadau.

Y bwriad yw i gynhyrchu dur wedi ei ailgylchu gan ddefnyddio ffwrneisi arc drydan ac ynni adnewyddadwy, yn lle metel crai mewn ffwrneisi chwyth wedi eu pweru gan danwydd ffosil.

Mae cyn gyfarwyddwr gyda chwmni dur TATA wedi dweud wrth BBC Cymru fod y cynlluniau yn debygol o arwain at nifer fawr o ddiswyddiadau.

Yn ôl Dr Nirmalya Kumar, fe allai olygu na fydd gwaith i ryw ddwy ran o dair o'r staff presennol ymhen amser.

'Diswyddo gorfodol yn anochel'

Mae'r aelod yn Senedd Cymru sy'n cynrychioli ardal Port Talbot, David Rees, wedi rhybuddio na fydd yr ymdrechion i sicrhau dyfodol y gwaith dur yno yn ddi-boen.

"Dydyn ni dal ddim yn gwybod sut fydd y newid yn edrych, pa mor hir fydd yn ei gymryd a'r goblygiadau eraill ar weithwyr," dywedodd wrth Radio Wales Breakfast.

"Does dim ffordd o ganfod 3,000 o weithwyr dur o oedran ymddeol. Mae hynny'n golygu y bydd yna ddiswyddo gorfodol maes o law."

Disgrifiad o’r llun,

Olivia Martin, Andrew O'Connor a Barbara Evans - tri sy'n poeni am effaith unrhyw ddiswyddiadau

Bydd unrhyw ddiswyddiadau'n "cael effaith anferthol" ar fywydau pobl, medd Olivia Martin o Gwmafan.

Mae ei thad a'i chymar yn gweithio yn ffatri Tata, ac mae'r safle, meddai, yn "cadw llawer o doeau dros bennau pobol".

Yn ôl Andrew O'Connor, sydd wedi ymddeol o'i swydd yn y ffatri, mae unrhyw ansicrwydd dros swyddi dur wedi "creu awyrgylch wirioneddol afiach ac annymunol i fod yn gweithio ynddo, mewn amodau peryglus".

Effaith ar ardal ehangach

Mae busnesau lleol hefyd yn dibynnu ar y safle ac yn poeni am eu dyfodol, medd y swyddog gyda'r undeb Community Barbara Evans.

"Yr hyn rydym wir eisiau yw penderfyniad clir o ran beth mae'r buddsoddiad yn mynd i'w cynnwys ar ein cyfer ni," meddai.

Dywedodd bod un o bob pedwar swydd yn y gymuned leol yn swydd sy'n gysylltiedig â'r diwydiant dur.

"Nid dim ond Port Talbot yw e ond ardal ehangach de Cymru. 'Sa i'n byw yn lleol ond rwyf wedi gweithio yma am bron 30 o flynyddoedd."

'Ergyd i filoedd o deuluoedd'

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Port Talbot yw lleoliad gweithfeydd dur mwyaf Tata ym Mhrydain

Mae angen "eglurder a chefnogaeth ar frys i'r gweithwyr ar yr adeg hynod bryderus yma", medd arweinydd Cyngor Torfaen, Anthony Hunt, sydd hefyd yn arwain ar faterion cyllid o fewn Cymdeithas Llywodraeth leol Cymru.

"Byddai unrhyw ddiswyddiadau ar y raddfa yma'n ergyd i filoedd o deuluoedd, ac fe fyddai'r ysgytiad i'w deimlo'n fawr o fewn yr economi a chymunedau."

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething y bydd yn cwrdd â rheolwyr Tata eto wythnos nesaf i barhau â'r trafodaethau, yn dilyn cyfarfod gyda swyddogion undeb ddydd Gwener.

"Bydd Llywodraeth Cymru'n parhau i weithio'r agos gyda'r undebau llafur a'r cwmni i wneud popeth posib i leihau nifer y diswyddiadau,"ychwanegodd.