'Mae'n mynd i gymryd amser i arfer â'r drefn 20mya'

  • Cyhoeddwyd
Arwydd 20mya

Mae'n mynd i gymryd amser i yrwyr ddod i arfer â gorfod gyrru'n arafach ar ffyrdd cyfyngedig oedd yn arfer bod â therfyn cyflymder o 30mya, medd y gweinidog sy'n gyfrifol am faterion trafnidiaeth Cymru.

Daeth sylw'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Lee Waters wedi i ddeddf newydd ddod i rym ddydd Sul sy'n golygu bod terfyn cyflymder nifer fawr o ffyrdd trefol Cymru bellach wedi gostwng i 20mya.

Mae yna gryn wrthwynebiad i'r polisi ymhlith rhai, er bod gan gynghorau sir hawl i osod eithriadau ble mae terfyn o 30mya yn fwy priodol.

Fe allai gyrwyr gael dirwy os ydyn nhw'n gyrru ar gyflymder uwch nag 20mya yn yr ardaloedd penodedig, ond fe fydd pwyslais am y flwyddyn gyntaf ar addysgu ac ymgysylltu, ac fe fydd gan yr heddlu rywfaint o ddisgresiwn.

"Mae hwn yn newid mawr ac mae'n mynd i gymryd amser i ddod i arfer ag ef," dywedodd Mr Waters.

"Fel gyrrwr mae'n teimlo'n rhyfedd iawn ar y dechrau.

"Fe fydd yn cymryd tua mis i bobl newid eu harferion ond unwaith iddyn nhw ddod i arfer ag e fe fyddan nhw'n gweld y manteision sef mwy o amser meddwl, mwy o bellter stopio... mae'n achub bywydau."

Mae Mr Waters yn cydnabod y bydd rhai gyrwyr yn rhwystredig gyda'r newidiadau, ond fe bwysleisiodd bod yna 80 o farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn ar ffyrdd sydd ar hyn o bryd yn 30mya.

Disgrifiad o’r llun,

Lee Waters AS: "Fel gyrrwr mae'n teimlo'n rhyfedd iawn ar y dechrau"

Gan groesawu'r terfyn cyflymder newydd fe ddywedodd Sarah J Jones, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Dangoswyd bod teithio ar 20mya yn lleihau'r risg o ddamwain a difrifoldeb y damweiniau sy'n dal i ddigwydd.

"Mae hefyd yn cynhyrchu llai o lygredd sŵn ac yn lleihau'r defnydd o danwydd. Mae'n annog pobl i gerdded a beicio, gan helpu i frwydro gordewdra a gwella llesiant meddyliol.

"Mae'r rhain i gyd yn debygol o gyfrannu at welliannau mewn iechyd a lleihau'r galw am wasanaethau iechyd."

Ond nid pawb sy'n fodlon â'r newidiadau.

Fe ddywedodd llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig, Natasha Asghar AS: "Bydd terfyn cyflymder 20mya cyffredinol y Llywodraeth Lafur yn costio hyd at £8.9bn i economi Cymru, yn arafu ein gwasanaethau brys, ac yn effeithio'n negyddol ar fywoliaeth pobl.

"Yn anffodus, gyda'r Dirprwy Weinidog Llafur yn gwrthod diystyru newidiadau pellach i derfynau cyflymder, ynghyd â gwaharddiad adeiladu ffyrdd a chyflwyno taliadau ffyrdd, mae Llafur yn parhau i arddangos eu hagenda gwrth-weithwyr, gwrth-ffyrdd a gwrth-fodurwyr."

Disgrifiad,

'Dwi'n teimlo bod yna newid yn barod' medd y Cynghorydd Dilwyn Morgan o weld pobl yn gyrru yn Y Bala fore Sul

Roedd y farn yn dal yn gymysg ynghylch y ddeddf newydd ar ddiwrnod llawn cyntaf ei gweithredu.

"Dwi'n falch o weld fod lleihau cyflymder wedi dod i'r stryd fawr achos mae'r stryd fawr yn brysur ofnadwy," dywedodd Manon Rowlands, gan asesu'r sefyllfa yn Y Bala.

"[Mae] lot o geir yn tynnu allan i'r stryd, lot o blant yn cerdded ar y pafin... mae 'na lot o geir yn mynd ar sbîd uchel iawn.

"Mae gen i ddau blentyn ysgol uwchradd sy'n cerdded a beicio i'r ysgol felly mae'r 20mya wrth yr ysgol yn bwysig iawn.

"Pan mae'n dod i strydoedd mawr ac o flaen ysgolion mae angen dod â'r cyflymder i lawr o ran diogelwch."

Disgrifiad o’r llun,

Manon Rowlands, Caroline Edwards a Janet Spence wnaeth rhoi blas o'r farn yn Y Bala

Dywedodd Caroline Edwards: "Mae'n beryg braidd pan mae plant yn croesi yn y bore a fin nos, a phobl mewn oed.

"Ond wedyn, yn enwedig hefo ambiwlansys a petha' felly, ydyn nhw'n cael mynd?

"Mae'n saffach dydi, ond mae'n cymryd amser i fynd i lefydd wedyn."

Hefyd ar stryd fawr Y Bala fe ddywedodd Janet Spence: "Mae'n siŵr fod o'n saffach ond mae'n mynd i wneud gwahaniaeth mawr i bobl sy'n trafeilio i'r gwaith... Mae o am gostio mwy am fod o'n defnyddio mwy o fuel.

"Mae o'n beth reit dda ond sut mae o am weithio 'dw i ddim yn gwybod. Mae am gymryd amser i bobl ddod i'r arfer â'r peth."

Disgrifiad o’r llun,

Matt Davies a Louise Griffiths ym Maesteg

Ym Maesteg fe ddywedodd Matt Davies: "Dim ond taith fer rydw i wedi'i gwneud y bore yma felly dydw i ddim wir wedi sylwi ei bod yn effeithio ar draffig.

"Ond os bydd yn arbed bywydau ac arian i'r GIG yna mae hynny'n beth da."

Dywedodd Louise Griffiths: "Mewn rhai ardaloedd dwi'n meddwl ei fod yn angenrheidiol, fel ysgolion, ond mewn llefydd eraill dwi'n meddwl y bydd yn achosi hafoc.

"Gallai hyd yn oed achosi ychydig o ddamweiniau gyda phobl yn mynd yn ddiamynedd."

Pynciau cysylltiedig