Cyn-ysgrifennydd Cymru David Jones i ymddeol yn yr etholiad nesaf
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-ysgrifennydd Cymru David Jones i ymddeol yn yr etholiad cyffredinol nesaf.
Mae Mr Jones wedi bod yn AS Ceidwadol dros Orllewin Clwyd ers 2005 - bu'n gwasanaethu fel ysgrifennydd Cymru rhwng 2012 a 2014 yn ystod y glymblaid rhwng y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Yn ddiweddarach gwasanaethodd fel gweinidog Brexit yn ystod cyfnod Theresa May fel prif weinidog, cyn gwrthryfela yn ei herbyn.
Mae disgwyl i'r etholiad cyffredinol nesaf gael ei gynnal y flwyddyn nesaf.
Dywedodd Mr Jones, sy'n 71 oed, wrth y BBC na fyddai'n sefyll pan fydd y bleidlais yn cael ei chynnal.
Yn ei farn ef, mae'n annhebygol y bydd yr etholiad yn cael ei gynnal yn y gwanwyn ac yn fwy tebygol y bydd ym mis Hydref.
O blaid Brexit
Roedd Mr Jones yn weinidog Brexit rhwng 2016 a 2017, a daeth yn ddirprwy gadeirydd y Grŵp Ymchwil Ewropeaidd o blaid Brexit yn 2020.
Fe wrthryfelodd yr AS, a oedd yn Aelod Cynulliad dros ogledd Cymru am gyfnod byr yn 2002-03, yn erbyn cytundeb ymadael arfaethedig Ms May dair gwaith.
O dan gynlluniau ar gyfer etholiadau San Steffan fe fydd ei sedd yn peidio â bod, gan gael ei hollti rhwng Bangor Aberconwy, Dwyrain Clwyd a Gogledd Clwyd.
Roedd wedi bwriadu sefyll i lawr yn y gorffennol ond newidiodd ei feddwl ar gyfer etholiad 2019.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2016
- Cyhoeddwyd11 Mai 2016