Wrecsam: Arestio 20 a chanfod arfau mewn cyrchoedd cyffuriau
- Cyhoeddwyd
Mae 20 o bobl wedi cael eu harestio yn dilyn un o'r ymgyrchoedd heddlu mwyaf i dargedu gwerthwyr cyffuriau anghyfreithlon yng ngogledd Ddwyrain Cymru.
Cafodd sawl cyfeiriad yn ardaloedd Cefn Mawr a Rhosllannerchrugog ger Wrecsam eu targedu yn gynharach yr wythnos hon.
Dywed yr heddlu fod nifer o gyffuriau Dosbarth A a B wedi eu canfod ynghyd ag arian ac arfau.
Yn rhan o'r ymgyrch, fe wnaeth swyddogion dargedu cwch ar gamlas ynghyd a nifer o safleoedd eraill.
Dechreuodd Ymgyrch Lardy chwe mis yn ôl gydag ymchwiliad i gyflenwad anghyfreithlon o gyffuriau mewn rhannau gwledig o Sir Wrecsam.
Yn dilyn cyfnod o gasglu cudd-wybodaeth a derbyn cyngor gan y cyhoedd, fe wnaeth Heddlu Gogledd Cymru ac asiantaethau eraill weithredu'n gynnar fore Llun, gyda mwy na 100 o swyddogion yn rhan o'r cyrchoedd.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Jon Bowcott o Heddlu Gogledd Cymru: "Mae hon yn ymgyrch fawr iawn.
"Rwy'n cael trafferth cofio un mor fawr â hyn yn y maes hwn, byddai'n rhaid i chi fynd yn ôl nifer o flynyddoedd ar gyfer hynny. Felly mae'n ymdrech arwyddocaol iawn.
"A'r hyn yr hoffwn ei ddweud yw ein bod yn wirioneddol ddiolchgar i bawb sydd wedi cymryd rhan fel ein partneriaid ar draws y rhanbarth, ond hefyd i'r cyhoedd oherwydd mae rhywfaint o'r wybodaeth a gawn yn dod o alwadau ffôn gan y cyhoedd. Ni allwn wneud hyn hebddynt."
Cyhuddo 15
Cafodd dros 20 cyfeiriad eu targedu yn y cyrch gan gynnwys cwch ar gamlas, gyda chyffuriau, arian ac arfau'n cael eu darganfod.
Cafodd cyfanswm o 20 o bobl eu harestio ar amheuaeth o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A a dosbarth B, a gwyngalchu arian, gan gynnwys tri ym Maes Awyr Manceinion.
Mae 15 o bobl nawr wedi cael eu cyhuddo ac wedi ymddangos yn y llys, tra bod y gweddill yn parhau yn y ddalfa.
Dywedodd yr Arolygydd Matt Subacchi: "Mae yna waith i'w wneud o hyd o ran casglu tystiolaeth a gweld a oes unrhyw unigolion eraill yn rhydd, ac rydym yn dal i chwilio am unrhyw beth a allai ein cynorthwyo gyda'r ymchwiliad."
Mae disgwyl i'r cyrchoedd dorri rhannau pwysig o'r gadwyn gyflenwi cyffuriau yn lleol.
O ganlyniad bydd yr heddlu'n cynnal presenoldeb yng Nghefn Mawr am bythefnos i dawelu meddyliau'r gymuned a diogelu'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio'n uniongyrchol.
Ychwanegodd yr Uwch-arolygydd Bowcott: "Yn aml pan fyddwch chi'n targedu grŵp troseddau trefnus fel hyn sy'n cyflenwi cyffuriau mewn ardal, bydd rhywun yn dod i mewn i geisio llenwi'r bwlch hwnnw a llenwi'r farchnad mewn perthynas â'r cyflenwad cyffuriau hwnnw.
"Felly bydd ymgyrch barhaus gyda'n partneriaid - er enghraifft yng Nghyngor Sir Wrecsam a'r trydydd sector - i geisio cefnogi pobl sydd wedi bod yn defnyddio cyffuriau ac efallai ceisio eu cefnogi i ffwrdd o'r ffordd honno o fyw.
"Ond bydd y gwaith hefyd yn parhau i weld a oes unrhyw un yn dod i'r ardal i geisio cymryd drosodd y gwaith o gyflenwi'r galwad am y cyffuriau."
Mae'r heddlu'n gobeithio bod y cyrchoedd wedi lleddfu ofnau am droseddu mewn cymunedau gwledig.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Bowcott: "Mae cyflenwi cyffuriau yn dod â diflastod i gymunedau. Nid y weithred droseddol yn unig o gyflenwi'r cyffuriau a'r unigolion sy'n eu meddiannu ac yn eu cymryd.
"Ond mae yna faterion sy'n dilyn o hynny, gan gynnwys denu plant ifanc i gludo'r cyffuriau hynny o gwmpas.
"Felly gall cyffuriau a'u heffeithiau fod yn bresennol mewn cymunedau ac mae hynny'n rhywbeth rydym fel heddlu yn awyddus iawn i fynd i'r afael ag ef a thrwy gymryd arian parod, cyffuriau ac arfau oddi ar y gwerthwyr cyffuriau rydym yn edrych i barhau i wneud hynny."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2023