Tafarn y Vale 'wrth eu bodd' gyda hwb £300,000
- Cyhoeddwyd
Roedd hi'n anodd i dafarn cymunedol yng Ngheredigion "gnoi tafod" ar ôl dysgu eu bod wedi derbyn hwb ariannol o £300,000.
"Ga'thon ni wybod yn hwyr wythnos ddiwetha'," medd Cadeirydd Tafarn y Vale, Iwan Thomas wedi i'r newyddion gael ei gyhoeddi fore Llun.
"Mae 'di bod yn eitha' anodd cnoi tafod dros y penwythnos!"
Mae'r dafarn yn cael ei rhedeg dan eiddo'r gymuned yn Nyffryn Aeron wedi iddyn nhw ei phrynu yn 2021.
Yn ôl Mr Thomas, mae'r fenter wedi taro "carreg filltir sylweddol" arall drwy sicrhau £300,000 o gronfa gymunedol Llywodraeth y DU.
Gwella hygyrchedd a chynaliadwyedd
Roedd yna dipyn o waith y tu ôl i'r llen wrth ymgeisio am y grant, medd Mr Thomas ar raglen Dros Frecwast.
"Mae lot o wirfoddolwyr arbennig o dda 'da ni - falle y'ch chi'n gweld nhw'n weithgar yn y dafarn yn tynnu peints - ond ma' gwaith sylweddol hefyd yn 'neud y ceisiadau."
Y bwriad ydy defnyddio'r arian er mwyn gwella'r safle i'r dyfodol.
"Ni eisiau gwella hygyrchedd, a gwneud y dafarn yn fwy cynaliadwy.
"Edrych ar welliannau o ran ynysu, ffenestri - fel bod e'n llai gostus i'w rhedeg yn y dyfodol."
Hoffai Mr Thomas hefyd ddechrau'r ddarpariaeth fwyd ac ymestyn oriau agor y dafarn yn sgil y grant.
"Rydyn ni wrth ein boddau."
Fe wnaeth yr Aelod o'r Senedd lleol Ben Lake longyfarch y fenter ar eu cais llwyddiannus.
"Mae Tafarn y Vale, fel nifer o dafarndai gwledig eraill, yn ased hollbwysig i'r gymuned. Mae'n creu swyddi ac yn hybu'r economi leol, yn ogystal â rhoi lle i bobl leol gymdeithasu a dod at ei gilydd."
Fe ddywedodd Ysgrifennydd Cymru bod Llywodraeth y DU yn "falch o helpu pobl gymryd reolaeth o'u hasedau lleol".
"Bydd cymunedau drwy Gymru yn trawsnewid wrth i'r gyllideb hon barhau," meddai David TC Davies.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd28 Medi 2018