Ben Tozer: 'Roedd gan Dad ofn, ofn clywed beth oedd yn bod'

  • Cyhoeddwyd
Ben TozerFfynhonnell y llun, Rex Features

Mae amddiffynnwr Wrecsam, Ben Tozer, wedi siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf am y boen o golli ei dad a'r angen i ddynion fod yn agored am bryderon iechyd.

Roedd Keith Tozer yn teithio'n gyson o'i gartref yn Plymouth i ogledd Cymru i wylio ei fab yn chwarae i'r Dreigiau.

Roedd o ar y Cae Ras ym mis Ebrill pan enillodd y Dreigiau deitl Cynghrair Cenedlaethol Lloegr a sicrhau dyrchafiad.

I Ben Tozer roedd cael ei dad yno i rannu'r foment yn "arbennig" ond yng nghanol y dathlu roedd ganddo bryderon am ei dad.

"Mi fydde fo'n dod i'r gemau ond byddai wastad yn gadael cyn i mi ddod allan, ac i mi roedd hynny'n peri peth pryder," meddai Ben.

"Doedd o ddim yn dda ond doeddwn byth yn ei weld ac roedd hi bron fel tase fo'n cuddio oddi wrtha' i a nawr dwi'n gwybod pam.

"Fe wnes i fynychu angladd ffrind ddiwedd tymor diwethaf ac mi ddywedodd un o'r bois oedd yn gweithio gyda fy nhad nad oedd yn ymddangos fel fo ei hun.

"D'wedodd fy mrawd yr un peth ac fe gododd fy ngwraig bryderon ond mi dd'udodd Dad 'Mae'n iawn, fe ga'i fy siecio'.

"Yn amlwg roedd hi'n rhy hwyr oherwydd ddyddiau wedi iddo gael ei weld fe fu farw."

Yn ei ddagrau cyn chwarae

Ym mis Gorffennaf fe gafodd Keith Tozer ei ddanfon i'r ysbyty, lle cafodd ddiagnosis o lewcemia cyn marw ychydig ddyddiau yn ddiweddarach.

Rhannodd Ben Tozer y newyddion am farwolaeth ei dad ar Twitter, ac roedd cyd-berchennog Wrecsam, yr actor Ryan Reynolds, ymysg y rhai i gydymdeimlo.

Yn yr haf fe deithiodd yr amddiffynnwr 33 oed gyda charfan Wrecsam ar daith hanesyddol i'r Unol Daleithiau a hynny wrth i broffil y clwb dyfu yn sgil y gyfres ddogfen 'Welcome to Wrexham'.

"Pe buaswn wedi bod adra be fyddwn wedi ei wneud? Crio? Felly wnes i fwrw 'mlaen hefo pethau," ychwanegodd Ben

Wrth baratoi ar gyfer y gêm yn erbyn Chelsea yng Ngogledd Carolina fe sylweddolodd Tozer maint y golled ac mae'n cyfaddef ei fod yn ei ddagrau.

"Roeddwn yn gwybod y byddai Dad wedi bod gartref yn gwylio'r gêm, hyd yn oed os oedd hi'n 02:00 o'r gloch y bore neu beidio," meddai Tozer.

Ar ôl dychwelyd o'r Unol Daleithiau cafodd angladd Keith ei gynnal yn Plymouth - ychydig ddyddiau cyn i Wrecsam wynebu MK Dons yn ngêm agoriadol y tymor yn Adran Dau y Gynghrair Bêl-Droed.

"Tadau 'di'r rhai sydd yn mynd â chi i gemau a dyna pryd mae hi wedi bod anodda'," ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ben Tozer (chwith) yn chwarae i Wrecsam yn erbyn Chelsea yn ystod eu taith i'r Unol Daleithiau

Mae Tozer yn cydnabod nad yw eto wedi dod i dermau gyda marwolaeth ei dad.

Ond drwy siarad yn gyhoeddus am ei golled mae'n gobeithio y bydd dynion yn mynd i weld meddyg os oes rhywbeth yn eu poeni.

"Mae'n anodd i mi ddweud ond roedd gan Dad ofn. Roedd ganddo ofn clywed beth oedd yn bod," meddai Tozer.

"Mae'n dipyn o tabŵ ond mae hi mor bwysig i chi gael eich siecio - peidiwch â gadael hi'n rhy hwyr.

"Os oes gan rhywun symptomau sydd yn abnormal yna plîs ewch i gael eich siecio."