Llwyddiannau CPD Wrecsam yn hwb i dwristiaeth y ddinas

  • Cyhoeddwyd
Welcome to Wrecsam
Disgrifiad o’r llun,

Mae poblogrwydd rhaglen Welcome to Wrecsam wedi rhoi hwb enfawr i broffil y clwb yn yr Unol Daleithiau

Mae dinas Wrecsam yn paratoi ar gyfer un o'r diwrnodau pwysicaf yn ei hanes diweddar, gyda'r tîm pêl-droed dri phwynt o sicrhau dyrchafiad i Adran Dau.

Mae'r tîm wedi cael hwb aruthrol i'w proffil yn ddiweddar wedi i'r sêr Hollywood Rob McElhenney a Ryan Reynolds brynu'r clwb.

Mae poblogrwydd y rhaglen ddogfen Welcome to Wrecsam, sy'n olrhain uchafbwyntiau ac isafbwyntiau diweddar y clwb, hefyd wedi arwain at gynnydd mewn diddordeb gan deithwyr o'r Unol Daleithiau.

Mae busnesau Wrecsam wedi sylweddoli fod mwy o ymwelwyr Americanaidd yn dod i'r ddinas, gyda rhai yn dweud mai eu unig reswm dros ymweld â'r DU oedd er mwyn gwylio gêm ar y Cae Ras.

Dydd Sadwrn bydd y tîm yn herio Boreham Wood, ac mae gan gefnogwyr obeithion uchel y bydd Wrecsam yn sicrhau buddugoliaeth er mwyn selio eu dyrchafiad o'r Gynghrair Genedlaethol.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Sarahjane Gardner yn ddigon lwcus i gael ei thywys o amgylch y stadiwm gan Humphrey Ker, un o gynghorwyr Ryan Reynolds a Rob McElhenney

Mae SarahJane Gardner yn dechnegydd ystafell argyfwng o Portland, Oregon.

Daeth i Brydain yr wythnos ddiwethaf gyda'r gobaith o sicrhau tocynnau ar gyfer tair gêm olaf Wrecsam yn y Gynghrair Genedlaethol.

Cafodd ei chroesawu i'r gymuned gefnogwyr ar-lein byd-eang AskWxm ar ôl iddi ddechrau gwylio Welcome to Wrexham ar ei hegwyliau cinio.

Dywedodd: "Fe wnes i ddarganfod ei fod yn rhoi rhyw fath o lawenydd i mi, i dorri'r tensiwn a'r straen o weithio yn ystod y pandemig.

"Fe'm denodd i mewn ac roedd yn rhoi cyfle hudol i mi allu camu i fyd arall.

"Ac felly mae hynny wedi bod yn neis iawn. Hynny yw, mae wedi fy helpu drwy sifftiau anodd."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Teithiodd SarahJane Gardner o'r Unol Daleithiau er mwyn profi awyrgylch gemau olaf Wrecsam

Tra bod ei phartner yn gefnogol o'i thaith fyr rybudd, dywedodd nad oedd gan y rhan fwyaf o'i theulu a'i ffrindiau unrhyw syniad ei bod yng ngogledd Cymru.

"Roeddwn i eisiau bod yn rhan o'r gymuned a phrofi'r teimlad pan ddaeth diwedd y tymor i ben," dywedodd.

Llwyddodd Ms Gardner i gael tocynnau i'r gêm yn erbyn Yeovil lle enillodd Wrecsam 3-0, ac mae hi hefyd yn mynd i'r gêm yn erbyn Boreham Wood ddydd Sadwrn.

Mae hi hefyd wedi cael ei thywys ar daith o amgylch y stadiwm gan Humphrey Ker, un o gynghorwyr allweddol Ryan Reynolds a Rob McElhenney.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai ymwelwyr yn dweud mai eu unig reswm dros ddod i'r DU ydy er mwyn gwylio gêm ar y Cae Ras

Yn y cyfamser, mae ymwelwyr eraill o'r Unol Daleithiau wedi bod yn mwynhau danteithion lleol yng nghaffi Marubbi's yng nghanol y ddinas.

Mae teulu Hari Gould wedi rhedeg y caffi ers cenedlaethau, ac mae wedi sylwi ar gynnydd yn nifer y cwsmeriaid Americanaidd sy'n chwilio am fyrbryd cyn pob gêm.

Ym mis Ionawr roedd rhamant yn yr awyr, gyda Nic Harrington a Lainey Simonson o Wisconsin yn dyweddïo tra'u bod draw i wylio gêm.

Dywedodd Hari: "Fe ddyweddïodd un cwpl tu allan ac roedd hynny'n dda, oherwydd doeddwn i ddim yn disgwyl hynny o gwbl.

"Do'n i ddim yn gallu credu'r peth ar y pryd, felly cymrais lun efo nhw ac maen nhw wrth eu bodd yma, felly mae'n rhaid ei fod wedi teimlo'n iawn iddo ddyweddïo ar ôl un o'u prydau yma!"

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Hari Gould fod caffi ei deulu wedi gweld cynnydd yn nifer y cwsmeriaid Americanaidd

Mae cariad Rob McElhenney a Ryan Reynolds at Wrecsam wedi sicrhau lle i'r clwb ar blatfform byd eang fel erioed o'r blaen.

Mae enwogion fel Will Ferrell, Blake Lively - sy'n wraig i Reynolds - David Beckham a Hugh Jackman oll wedi dangos eu cefnogaeth.

Dywedodd Jim Jones, prif swyddog gweithredol Twristiaeth Gogledd Cymru: "Allwn ni ddim prynu'r hyrwyddo maen nhw'n ei roi i'r ardal.

"Mae'n ffordd wych o gael pobl sy'n ymweld â Wrecsam i ymweld â gweddill prydferthwch gogledd Cymru.

"Rwy'n meddwl, does dim rhaid i ni wneud llawer mewn gwirionedd, achos mae Rob a Ryan yn gwneud y cyfan i ni!

"Gobeithio y bydd Wrecsam yn mynd o nerth i nerth, nid yn unig ar y cae ond hefyd o ran eu hadfywiad economaidd, sy'n cynnwys twristiaeth."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r clwb wedi cael hwb aruthrol i'w proffil yn ddiweddar wedi i Rob McElhenney a Ryan Reynolds ei brynu

Ar y cae, mae cefnogwyr yn edrych ymlaen at y gêm yn erbyn Boreham Wood ddydd Sadwrn, gyda buddugoliaeth i Wrecsam yn cadarnhau eu dyrchafiad.

Dywedodd un cefnogwr, Morgan Thomas: "Dwi'n nerfus, ond dwi'n rili cyffrous hefyd.

"Mae'r Cae Ras wedi bod yn real fortress yma'n Wrecsam trwy'r tymor. 'Dan ni wedi bod yn invincible. 'Dan ni wedi drawio un gêm a heb golli un trwy gydol y tymor."

Disgrifiad o’r llun,

Morgan Thomas (dde) gydag Ollie Palmer, ymosodwr Wrecsam

Ychwanegodd: "Dwi'n meddwl 'nawn ni wneud o, yn bersonol. Dwi'n meddwl 'nawn ni weld parti enfawr.

"Mae'r ffordd mae'r dorf yn cael tu ôl y chwaraewyr, fedri weld body language y chwaraewyr yn newid a dwi'n meddwl mai dyna wneith ddigwydd.

"Fysa fo'n golygu cymaint i gefnogwyr Wrecsam, ond nid yn unig pobl pêl-droed - y dref, y ddinas yn gyfan gwbl. Mi fydd hi'n foment anhygoel. Mae 15 mlynedd o frifo wedi bod yn dref yma.

"Mae Wrecsam yn glwb efo hanes cyfoethog iawn ac mae'n bwysig i gofio bod yr hanes yna, 'dan ni heb newid.

"Mae hunaniaeth y clwb yr un peth, just bod gennym ni fwy o bres, mwy o dalent a 'dan ni rili'n teimlo bod ni ar i fyny rŵan."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Wayne Phillips yn credu y bydd Wrecsam yn rhy gryf i Boreham Wood ddydd Sadwrn

Mae Wayne Phillips, cyn-chwaraewr Wrecsam a sylwebydd BBC Radio Cymru, yn rhannu'r cyffro am ddydd Sadwrn.

Dywedodd: "Dwi'n edrych ymlaen. Mae o wedi bod yn dymor arbennig o dda. Ond 'dan ni isio mynd y cam olaf yna.

"Dwi'n meddwl, i wneud o yma o flaen y cefnogwyr nos Sadwrn, fysa'n andros o beth i ni gyd weld.

"Dwi'n meddwl mai dyna sydd am ddigwydd. Dwi'n meddwl bod Wrecsam yn ddigon da i gael y fuddugoliaeth yn erbyn Boreham Wood.

"Dwi'n gwybod fydd Boreham Wood yn dîm da iawn, ond efo'r tîm sydd gan Wrecsam, mae o'r gorau dwi wedi ei weld ers amser hir.

"A dwi'n meddwl efo be' sydd ar gael iddyn nhw, y wobr yna iddyn nhw nos Sadwrn, o flaen eu cefnogwyr eu hunain, dwi'n meddwl bydd gan Wrecsam ddigon i ennill y gêm."