Tynnu meddyg o'r gofrestr feddygol am stelcio cyn-gariad
- Cyhoeddwyd
Mae meddyg o Abertawe a stelciodd ei gyn-gariad wedi cael ei dynnu oddi ar y gofrestr feddygol.
Cafodd Dr Gary Lucitt ddedfryd o 16 wythnos o garchar ar ôl pledio'n euog yn Llys y Goron Abertawe yn 2019 i stelcio heb achosi braw neu ofid.
Roedd yr obstetrydd a gynaecolegydd 44 oed wedi mynd i gartref y fenyw sawl tro yn 2018 gan achosi iddi deimlo "wedi fferu gan ofn".
Fe ddyfarnodd panel tribiwnlys meddygol ddydd Iau bod yr euogfarn wedi amharu ar ba mor addas oedd i weithio fel meddyg.
Mae ei enw'n cael ei dynnu o'r gofrestr feddygol yn syth.
Cafodd Lucitt ei ddiarddel o'i waith ym Mehefin 2018, ond roedd yn cael hyfforddiant arbenigol mewn obstetreg a gynaecoleg adeg yr euogfarn am stelcio ei gyn-gariad - a gyfeiriwyd ati yn y llys fel 'Miss E' - rhwng Mai a Mehefin 2018.
Fe wadodd gyhuddiad mwy difrifol o stelcio gan beri ofn o drais, braw neu ofid difrifol.
Mae gorchymyn yn ei atal rhag mynd yn agos at Miss E am bum mlynedd.
'Dim edifeirwch'
Dywedodd cadeirydd y tribiwnlys, Lindsey Irvine, mai ei dynnu o'r gofrestr feddygol "oedd yr unig gosb a fyddai'n nodi difrifoldeb euogfarn Dr Lucitt a'i ddiffyg dirnadaeth cyson".
Fe fyddai'r gosb, meddai, yn "cynnal hyder y cyhoedd yn y proffesiwn, y rheoleiddiwr a'r broses reoleiddio".
Ychwanegodd fod y panel o'r farn bod methiant Lucitt i arddangos unrhyw edifeirwch yn ffactor "gwaethygol".
"Mae wedi methu â chydnabod effaith ei ymddygiad troseddol ar eraill, ac wedi canolbwyntio'n gyfan gwbl ar yr effaith arno'i hun".
Cyfeiriodd hefyd at euogfarn flaenorol am drosedd debyg a ddigwyddodd flwyddyn yn unig cyn yr ymddygiad at Miss E, gan ddweud bod "risg uchel" i rywbeth tebyg ddigwydd eto.
Yn y gwrandawiad, dywedodd Alan Taylor, cwnsler ar ran y Cyngor Meddygol Cyffredinol bod Lucitt "yn cymryd dim cyfrifoldeb am ei weithredoedd ac yn parhau i roi'r bai ar eraill".
"Mae'n honni bod yna ymgyrch i roi diwedd ar ei yrfa. Does dim tystiolaeth o edifeirwch. Nid yw'n cydnabod ei fod wedi gwneud unrhyw beth o'i le."
Penderfynodd Dr Lucitt i beidio â bod yn rhan o'r tribiwnlys nag i gael cynrychiolydd yno ar ei ran.
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Bae Abertawe nad yw Dr Lucitt wedi gweithio i'r bwrdd "ers peth amser" ac felly na allan nhw wneud sylw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2022