'Angen i'r heddlu newid ffyrdd o ymchwilio i achosion stelcio'
- Cyhoeddwyd
Mae angen ffyrdd newydd o ymchwilio i achosion o stelcio yn ôl y rhai sy'n dioddef, wrth i'r nifer o gwynion sy'n cael eu derbyn gan yr heddlu gynyddu.
Mae 10 mlynedd ers i ddeddf gael ei greu i wneud stelcio yn drosedd am y tro cyntaf.
Ond wrth i nifer yr achosion gynyddu, mae ymchwil gan y BBC yn dangos mai dim ond ychydig dros 6% o stelcwyr honedig sy'n cael eu cyhuddo a'u herlyn.
Mae'r Swyddfa Gartref yn dweud eu bod nhw'n cymryd stelcio yn "hynod o ddifrif", tra bo Cyngor Cenedlaethol Penaethiad yr Heddlu yn cydnabod bod angen gwneud mwy i wella profiadau dioddefwyr.
Cafodd Chloe Hopkins o Brestatyn ei stelcio am saith mlynedd. Fe wnaeth arwain at iselder, dywedodd.
Mae'n credu bod yn rhaid i'r heddlu ymateb yn well i brofiadau fel ei rhai hi.
"Mae'n wych fod 'na ddeddf yn gwahardd stelcio," meddai Chloe, "mae hynny yn gam ymlaen, ond mae 'na ffordd bell iawn i fynd."
Dechreuodd Chloe gael ei stelcio pan oedd hi'n 18 oed ar ôl iddi ennill wobr Miss Prestatyn 2010.
Roedd hi'n 25 pan ddaeth y stelcio i ben, ond erbyn hynny roedd hi'n wynebu problemau iechyd meddwl ac yn ansicr o'i hun.
Mae Chloe'n gefnogol i'r drefn newydd sy'n cael ei fabwysiadu gan heddluoedd yng Nghymru.
"Allwch chi ddim neud digon o ymchwil i'r ffyrdd o ddelio gyda stelcwyr," meddai, "achos iddyn nhw mae o'n swydd llawn amser."
Ffyrdd newydd o ymchwilio
Mae'r Athro Jane Monckton Smith o adran Troseddeg Prifysgol Caerloyw yn cynghori heddluoedd yng Nghymru a Lloegr ar greu ffyrdd newydd o asesu difrifoldeb achosion o stelcio, ac i asesu gyda mwy o hyder os oes peryg i'r stelcio arwain at lofruddiaeth.
"Rhaid edrych ar ba mor obsessed yw'r bobl hyn, achos mae pob stelciwr yn obsessed i raddau," dywedodd.
"Felly mae angen edrych ar faint o amser maen nhw'n roi bob dydd i'w hymgyrchoedd."
Mae ymchwil yr Athro Smith yn medru asesu faint o risg sydd yna i'r bobl sy'n cael eu stelcio, wrth edrych ar faint o amser mae'r stelciwr yn ei dreulio yn meddwl am eu targed bob dydd.
Er nad yw ei hymchwil wedi ei gyhoeddi'n llawn, mae heddluoedd eisoes yn peilota'r theori.
'Stelcio'n gallu bod yn swydd llawn amser'
Un o'r esiamplau sy'n cael ei ddefnyddio gan yr Athro Smith yw achos Alice Ruggles, a gafodd ei llofruddio gan ei stelciwr, Trimaan Dhillon.
Roedd Dhillon wedi teithio o Gaeredin i Gateshead i osod blodau ar stepen drws Ms Ruggles.
"Be' mae rhywun yn weld ar y cychwyn yw tusw o flodau," meddai'r Athro Smith.
"Ond be' sy' ddim yn cael ei gysidro yw iddo gymryd diwrnod cyfan o'r gwaith er mwyn gosod y blodau.
"Felly mae hynny yn wyth awr o stelcio mewn diwrnod, ac mae'r stelcio wedi mynd yn swydd llawn amser iddo."
Mae ymchwil Uned Data y BBC yn dangos fod graddfa cyhuddo stelcwyr honedig wedi haneru dros y pedair blynedd diwethaf, o 16% i 7% yn 2021-22.
Yn ystod yr un cyfnod roedd cyfradd euogfarnau yn 74%.
Mae data sydd wedi ei ryddhau gan y pedwar llu Cymreig yn dangos fod cwynion am stelcio wedi treblu dros y pedair blynedd diwethaf, gyda mwy na 6,000 o achosion yn cael eu cofnodi yn 2021-22.
Mae'r Swyddfa Gartref yn dweud bod y ffyrdd y mae heddluoedd yn cofnodi stelcio wedi newid yn 2020.
Yn ôl yr Athro Smith gall gwybodaeth o'r fath helpu'r gwasanaethau prawf a'r llysoedd i benderfynu fod angen ymyrryd a chymeradwyo cais am orchymyn atal stelcio.
"Mae ystyried ymddygiad yn ffordd llawer gwell o awgrymu y gallai rhywun lofruddio na mesur trais yn unig," meddai.
Mae heddluoedd Gwent a Dyfed-Powys yn hyfforddi eu swyddogion sy'n arbenigo ar stelcio i ddefnyddio'r ymchwil yma sy'n edrych ar faint o amser mae stelciwr yn ei fuddsoddi yn eu hymgyrch.
Yn ôl y Ditectif Prif Arolygydd Richard Yelland o Heddlu Dyfed-Powys mae effaith ymchwil yr Athro Smith wedi bod yn "chwyldroadol".
"Mae'n bwysig ein bod ni yn parhau i newid ac addasu y ffyrdd 'dan ni'n ymchwilio'r mathau yma o droseddau," meddai.
"Mae'r ymchwil yn dangos fod rheolaeth drwy orfodaeth (coercive control) ac ymddygiad yn arwydd gwell o lofruddiaeth nag yw trais.
"Felly mae'r ymchwil nid yn unig yn arwain at gynllun i reoli risg ond mae hefyd yn cynnig cyngor ymarferol a thactegol o ran trywydd yr ymchwil, fel ein bod yn medru casglu gymaint o dystiolaeth â phosib ar yr un adeg, a sicrhau fod y dioddefwr yn ddiogel ac yn medru parhau i fyw eu bywyd."
Mae'r DPA Yelland yn credu fod y tactegau newydd wedi arwain at gynnydd yn nifer yr achosion syn cael eu cofnodi ac yn nifer y gorchmynion sy'n cael eu cymeradwyo.
'Cam ymlaen, ond ffordd bell i fynd'
Katy Bourne, Comisiynydd Heddlu Sussex sy'n arwain ar faterion stelcio yng Nghymru a Lloegr.
Mae'n dweud iddi deimlo'n hynod o rwystredig gan fethiannau'r drefn gyfreithiol ar ôl iddi gael ei stelcio am dros bum mlynedd.
"Mae'n dda i gydnabod bod yna ddeddf bwrpasol," meddai. "Mae hynny yn gam enfawr ymlaen, ond mae 'na ffordd hir iawn i fynd i bawb."
Mae Ms Bourne hefyd yn credu fod ymchwil yr Athro Smith yn "bwysig dros ben."
Mae cymorth a gwybodaeth ar gael ar Action Line y BBC.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2021