Undeb yn poeni am brinder llety i fyfyrwyr Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae myfyrwyr prifysgolion yn ei chael hi'n "gynyddol anodd" ffeindio lle i fyw oherwydd prinder llety, yn ôl Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru.
Dywedodd eu llywydd Orla Tarn ei bod hi'n "broblem go iawn" yng Nghaerdydd, ond hefyd yn genedlaethol.
Mae Unipol - yr undeb tai myfyrwyr - wedi rhybuddio bod y brifddinas yn un o'r llefydd sydd â phrinder llety.
Dywedodd Prifysgol Caerdydd - y fwyaf yn y ddinas - y bydd pob myfyriwr a gafodd sicrwydd o lety yn cael lle.
'Mae'n andros o scary'
Roedd Sera Louise White, 18, o Lannefydd yn Sir Conwy yn wreiddiol, yn dymuno mynd i Brifysgol Birmingham, ond chafodd hi ddim y graddau oedd eu hangen.
Fe gafodd hi le yn ddiweddarach ym Mhrifysgol Caerdydd pan agorodd y broses glirio, ond doedd ffeindio lle i fyw ddim yn hawdd.
"Fe ddaru ni gael email dydd Gwener diwethaf yn dweud 'we can no longer assure that we can offer you accommodation'.
"Tair wythnos cyn i fi symud mewn mae'n andros o scary clywed hynny. Mae mor bell i fwrdd - pump awr i ddreifio - felly does 'na ddim opsiwn i fi ddreifio mewn bob diwrnod."
Dywedodd bod y brifysgol wedi awgrymu chwilio am lety gyda chwmnïau preifat, ond roedd rheiny hefyd yn llawn.
Fe aeth ei mam ar wefan gymdeithasol i holi am ystafell sbâr.
"Fe ddaru merch messagio yn ôl i ddweud bod 'na le mewn tŷ o genod third year - sydd bach yn scary," meddai Sera.
"Ond maen nhw wedi bod yn lovely ac yn andros o helpful i fi drwy'r holl broses."
Dywedodd Llywydd UCMC Orla Tarn ei bod hi'n mynd yn "gynyddol anodd" i fyfyrwyr ffeindio lle i fyw.
"Mae sefydliadau yn recriwtio mwy o fyfyrwyr er mwyn sicrhau eu bod nhw'n cydbwyso'r llyfrau, ond ddim o reidrwydd yn meddwl am nifer y gwlâu sydd ganddyn nhw ar gyfer myfyrwyr na lle maen nhw'n mynd i fyw."
Ychwanegodd bod yna broblem fawr yng Nghaerdydd - sydd â thair prifysgol - ond hefyd yn genedlaethol.
"Ry'n ni hefyd yn gweld yng ngogledd Cymru nawr - llefydd fel Bangor a Wrecsam - sydd â myfyrwyr yn teithio o ogledd Lloegr gan nad ydyn nhw'n gallu fforddio llety addas sy'n agos i'w sefydliad."
'Bydd pob myfyriwr yn cael lle'
Dywedodd Prifysgol Caerdydd y "bydd pob myfyriwr gafodd sicrwydd o lety yn cael lle".
Ychwanegodd y llefarydd: "Mae'r myfyrwyr sydd heb gael sicrwydd o lety yn cael eu cyfeirio at y sector breifat".
Dywedodd Prifysgol Metropolitan Caerdydd eu bod wedi cynnig llety i bawb sy'n pasio'r meini prawf.
Yn ôl Prifysgol De Cymru, mae pob myfyriwr israddedig o'r Deyrnas Unedig wedi cael cynnig llety cyn dechrau eu cyrsiau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2021