Cymorth 'anghyson' i ddisgyblion anghenion arbennig
- Cyhoeddwyd
Mae anghysondeb yn narpariaeth cymorth arbennig i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) er mwyn helpu nhw gyrraedd eu llawn potensial.
Yn ôl Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant Cymru mae rhai teuluoedd wedi derbyn cyngor anghywir ynglŷn â pherthnasedd y system newydd i'w plant.
Dywedodd adolygiad Estyn bod "pwysau sylweddol" ynghylch yr amser mae'n ei gymryd i ddatblygu cynllun personol sy'n helpu datblygiad plentyn sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.
Roedd yr adolygiad yn cydnabod bod y fframwaith ADY newydd wedi'i roi ar waith yn ystod cyfnod heriol iawn i'r sector.
Yn wreiddiol roedd disgwyl i'r cyflwyniad gael ei gwblhau eleni, ond mae'r dyddiad cau wedi'i ymestyn ddwywaith oherwydd effaith y pandemig. Mae'n golygu y bydd y broses weithredu wedi'i chwblhau erbyn mis Awst 2025.
Canfu Estyn fod y gweithredu parhaus yn creu "llwyth gwaith ychwanegol sylweddol" i staff gan fod awdurdodau lleol ac ysgolion yn gweithio rhwng dau fframwaith ar hyn o bryd - gan gynnwys yr hen system Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) a fframwaith Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Dywedodd Prif Arolygydd Estyn, Owen Evans: "Mae ein canfyddiadau interim yn cydnabod bod symud o un system i'r llall yn gymhleth ac yn cymryd amser.
"Mae swyddogion awdurdodau lleol a staff ysgolion wedi dangos gwytnwch, gonestrwydd ac uchelgais wrth addasu i'r ddeddfwriaeth flaenllaw hon.
"Gydag eglurder diffiniadau cyfreithiol ac enghreifftiau ymarferol i'w helpu i ddeall, byddant mewn sefyllfa well i gyflawni uchelgais Llywodraeth Cymru yn gyson i wella profiadau a chanlyniadau i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol."
Canfuwyd bod ansawdd a hygyrchedd gwybodaeth i rieni trwy wefannau cynghorau ac ysgolion yn "rhy amrywiol".
Dangosodd llawer o'r ysgolion a gymerodd ran yn yr adolygiad ddealltwriaeth gadarn o ddiffiniadau cyfreithiol y fframwaith newydd, ond yn ôl yr arolygiaeth, dywedodd rhai awdurdodau lleol ac ysgolion nad oeddent yn glir ynghylch y diffiniadau cyfreithiol newydd a'r hyn yr oeddent yn ei olygu'n ymarferol.
Fel rhan o'r adolygiad, argymhellir bod ysgolion ac awdurdodau lleol yn gwella ansawdd a chywirdeb y wybodaeth a ddarperir i rieni a rhanddeiliaid.
Mae hefyd yn argymell bod awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswydd drwy adolygu darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol ac arfer o fewn ysgolion.
Mae'r arolygiaeth yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod arweiniad a chyllid yn y dyfodol yn cael eu darparu mewn modd amserol er mwyn galluogi awdurdodau lleol ac ysgolion i gynllunio'n ddigonol.
Ddydd Gwener fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru £20m i ysgolion fuddsoddi mewn gwella profiadau plant ag anabledd a phlant ag anghenion dysgu ychwanegol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mai 2023
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2022