Plaid Cymru: 'Dim help' i gyn-weithiwr wedi aflonyddu 'erchyll'
- Cyhoeddwyd
Mae dyn roddodd dystiolaeth mewn ymchwiliad i Aelod o'r Senedd dros Blaid Cymru wedi wynebu misoedd o aflonyddu, sydd wedi gwneud iddo deimlo yn "anniogel".
Roedd Math Wiliam, sydd yn gyn-aelod o staff i Aelod Plaid Cymru o'r Senedd, wedi rhoi gwybodaeth i Gomisiynydd Safonau'r Senedd yn cefnogi honiad difrifol am ymddygiad Rhys ab Owen.
Mae Rhys ab Owen wedi ei wahardd o grŵp ei blaid ym Mae Caerdydd.
Fe ddechreuodd gyda chyfrif ddienw ar y cyfryngau cymdeithasol yn ymosod arno'n bersonol, a dywedodd bod yr aflonyddu wedi "escalatio dros gyfnod o fisoedd".
"O'n i'n derbyn ebyst yn gyson, fe gafodd dwy wefan eu sefydlu yn fy enllibio, 'nes i dderbyn galwadau ffôn yn y gwaith, 'nes i dderbyn ebyst i'r gwaith," meddai.
Ymddiswyddodd Adam Price fel arweinydd Plaid Cymru ar ôl i adroddiad damniol ddod i'r casgliad bod yna ddiwylliant o "aflonyddu, bwlio a misogynistiaeth" o fewn y blaid.
Adroddiad gafodd ei gomisiynu ar ôl i Math Wiliam ac eraill fynegi pryder ynglŷn â sut oedd Plaid Cymru yn delio gyda chwynion a'r diwylliant o fewn y blaid.
Roedd Mr Wiliam wedi siarad gyda'r BBC ynglŷn â'i bryderon o'r blaen, ond fe benderfynodd siarad yn gyhoeddus am hyn ar ôl i'r aflonyddu ddwysáu.
'Ddim yn teimlo'n ddiogel yn fy nhŷ fy hun'
"Mae o 'di bod yn gyfnod erchyll," meddai Mr Wiliam.
"Doeddwn i ddim yn teimlo'n ddiogel yn fy nhŷ fy hun. Doeddwn i methu cysgu, ro'n i'n cael hunllefau.
"Mae hwnna 'di cael effaith hir-dymor arna'i."
Mae'n dweud mai dim ond ar ôl i'r heddlu gamu mewn y daeth yr aflonyddu i ben.
Fe benderfynodd yr heddlu weithredu ar ôl i Math Wiliam ganfod mai Dafydd Evans, ewythr Rhys ab Owen, oedd y tu ôl i'r ebyst a gwefannau dienw.
Does dim i awgrymu bod Rhys ab Owen yn ymwybodol o hyn.
"Unwaith yr oedd gen i'r dystiolaeth yna, ac roedd o'n dystiolaeth gadarn, es i â fo at yr heddlu a wedyn dyma'r heddlu yn rhybuddio y person yma bod angen iddo stopio neu bydd o'n wynebu canlyniadau cyfreithiol.
"A rŵan mae o wedi stopio."
Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau iddyn nhw gael eu galw ar 21 Awst 2023 gydag adroddiad o aflonyddu ar ddyn 37 oed o Gaerdydd.
Mewn neges destun i'r achwynwr, cadarnhaodd plismon ei fod wedi "siarad â Dafydd ac mae'n deall na ddylai geisio cysylltu â chi'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, ac mae eisoes wedi tynnu'r gwefannau i lawr ac yn deall os bydd y camau hyn yn parhau y gellir ystyried cyhuddiadau troseddol yn ei erbyn".
Mae Mr Evans yn gwadu ei fod wedi aflonyddu ar Math Wiliam.
Dywedodd Mr ab Owen ei fod yn condemnio aflonyddu a nad oedd o mewn cysylltiad â Mr Evans.
'Ddim yn saff gwneud cwyn'
Mae ei brofiad hefyd yn codi cwestiynau ynglŷn â system gwynion y Senedd, yn ôl Math Wiliam.
"Mae'r system yn hollol wallus, mae'n anniogel. 'Nath Plaid Cymru ddim byd i helpu, 'nath y Senedd ddim byd i helpu.
"Fe es i at y Comisiynydd Safonau am hyn ac fe wnaeth o ddweud wrtha'i yn hollol glir, does 'na ddim allai wneud am hyn, does gen i ddim y pŵer.
"'Di o ddim yn saff gwneud cwyn i'r Comisiynydd Safonau," meddai.
"Petawn i heb allu darganfod pwy oedd yn gyfrifol am hyn, mi fysa fo'n dal i fynd ymlaen. Mae'r system yn hollol anniogel."
Dywedodd llefarydd ar ran y comisiynydd bod systemau mewn lle i gefnogi tystion a phobl sy'n cwyno.
Mae'r BBC wedi gweld tystiolaeth o'r aflonyddu, gan gynnwys dogfen gafodd ei hanfon at newyddiadurwyr yn honni bod gan Math Wiliam fendeta yn erbyn Rhys ab Owen, a'i fod wrthi'n ceisio "dinistrio" gyrfaoedd Adam Price a'i gefnogwyr.
Dywed Mr Wiliam iddo wneud cwyn am yr aflonyddu i'r Comisiynydd Safonau Douglas Bain, y Senedd, yr heddlu a Phlaid Cymru, a dywed iddo gael yr un ateb gan bawb: "Does dim byd y gallwn i ei wneud."
Meddai llefarydd ar ran Comisiwn y Senedd:
"Er mwyn gofalu bod y Senedd yn le cynhwysol i bobl weithio, heb brofi aflonyddu na braw, rydym am i bawb deimlo y gallan nhw herio ymddygiad amhriodol heb ofid na rhagfarn.
"Mae prosesau cwynion ar gael ar gyfer adrodd am bryderon. Rydym yn adolygu ein polisïau'n gyson i ofalu eu bod yn gyfredol, ac yn addas i'r diben, ac rydym yn croesawu adborth."
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru eu bod yn "condemnio pob math o aflonyddu ar-lein" a bod "mesurau cefnogaeth mewn lle i ddiogelu lles staff".
Ychwanegodd bod y blaid wrthi'n cryfhau eu prosesau diogelwch yn sgil Prosiect Pawb.
Dywedodd llefarydd ar ran y Comisiynydd Safonau, Douglas Bain: "Lle'n briodol, mae gwasanaeth cefnogol annibynnol yn cael ei gynnig gan y comisiynydd i'r rheiny sy'n cwyno a thystion yn ystod ymchwiliad unrhyw gwyn."
Meddai Vikki Howells AS, Cadeirydd Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd:
"Mae gwaith diweddar y Pwyllgor wedi amlygu'r angen am adolygiad o'r dulliau sydd ar gael i staff cymorth yr Aelodau gyflwyno cwynion. Mae'r Pwyllgor yn croesawu sylwadau ar y mater ac mae paratoadau eisoes ar waith ar gyfer ymchwilio ymhellach."
Mae'r BBC ar ddeall nad yw'r wybodaeth gafodd ei rhoi i'r comisiynydd gan Mr Wiliam yn cael ei ystyried fel rhan o'r ymchwiliad sy'n parhau i Mr ab Owen, felly dydy Mr Wiliam ddim yn cael ei ystyried yn dyst.
'Ddim yn ffit i lywodraethu'
Dyw Math Wiliam ddim yn gweithio i Blaid Cymru bellach, ac mae'n feirniadol o'r diffyg cefnogaeth gan y blaid dros y 10 mis diwethaf, yn ogystal â'r cyfnod cyn hynny, pan fu'n mynegi pryder am y diwylliant o fewn y blaid.
"Fe roddais i naw mlynedd o fy mywyd i'r blaid, gan wneud 70 awr yr wythnos weithiau. Rwy'n dal i gredu yn yr achos, ond nid wyf yn aelod bellach.
"Mi wnaeth Plaid Cymru fradychu popeth maen nhw'n honni i sefyll amdano.
"Roedd mwyafrif y grŵp yn gwybod bod hyn yn mynd ymlaen am flynyddoedd ond wnaeth neb wneud unrhyw beth, er fy mod i wedi erfyn arnyn nhw dro ar ôl tro, plîs sortiwch hyn allan, 'naethon nhw ddim.
"Ar ddiwedd y dydd, mae 'na reswm maen nhw'n colli etholiadau. Dydyn nhw ddim yn ffit i lywodraethu."
'Condemnio pob math o aflonyddu ar-lein'
Fe ddywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru bod y blaid yn "condemnio pob math o aflonyddu ar-lein yn gryf".
"Pan gafodd materion eu codi ynghylch aflonyddu ar-lein, fe gafodd mesurau cefnogaeth priodol eu cyflwyno er mwyn diogelu lles staff, boed rheiny wedi'u cyflogi'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gan y blaid.
"Fe wnaeth Plaid Cymru gynnal ymarfer gwrando helaeth yr hydref diwethaf a gynigodd lle diogel i bob aelod o staff rannu eu profiadau a'u pryderon mewn modd cyfrinachol.
"Fe fyddwn ni'n cynnal ymarfer gwrando tebyg bob blwyddyn. Fe gafodd staff eu cefnogi wrth fynd a'u pryderon i'r sianelu priodol.
"Fe wnaeth cyhoeddi adroddiad Prosiect Pawb dynnu sylw at agweddau lle mae'n rhaid i Blaid Cymru gryfhau ei phrosesau, ac mae'r blaid eisoes wedi cymryd camau sylweddol tuag at gyflwyno sawl un o argymhellion yr adroddiad, gan osod trywydd clir ar gyfer safonau llywodraethu yn y dyfodol."
Fe ddywedodd llefarydd ar ran Comisiynydd Safonau'r Senedd: "Mae Cymal 16 o Fesur Comisiynydd Safonau'r Senedd 2009 yn atal y Comisiynydd rhag rannu unrhyw fanylion am unrhyw gwyn neu ymchwiliad, ond mae modd cadarnhau nad ydy Mr Wiliam wedi bod yn achwynwr na'n dyst mewn unrhyw ymchwiliad gan y Comisiynydd.
"Lle'n briodol, mae'r Comisiynydd yn cynnig gwasanaeth cymorth proffesiynol annibynnol i achwynwyr a thystion yn ystod ei ymchwiliad i unrhyw gwyn.
"Maen nhw hefyd yn cael eu hatgoffa o'r gwasanaethau cefnogaeth eraill mae Comisiwn y Senedd a phleidiau eraill yn eu cynnig."
Dywedodd Rhys ab Owen: "Rwy'n condemnio unrhyw aflonyddu ar-lein ond nid wyf yn ymwybodol nac wedi gweld unrhyw dystiolaeth o aflonyddu yn erbyn Math Wiliam.
"Dydw i ddim yn agos i Dafydd Evans a dydi o ddim mewn cysylltiad â neb o'r teulu."
Cywiriad 1 Hydref: Roedd fersiwn blaenorol o'r erthygl yn awgrymu nad oedd Rhys ab Owen mewn cysylltiad ag aelodau o'i deulu ei hun, mae wedi ei diweddaru i'w gwneud yn glir bod Rhys ab Owen yn siarad am ei ewythr ac nad ydy ef na'i deulu mewn cysylltiad â Dafydd Evans.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd10 Mai 2023
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2022