Biliau i godi £120 wrth i Dŵr Cymru fuddsoddi £3.5bn

  • Cyhoeddwyd
Dŵr a sincFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dŵr Cymru sy'n cyflenwi'r mwyafrif helaeth o ddŵr yfed a gwasanaethau dŵr gwastraff yng Nghymru

Mae Dŵr Cymru wedi cyhoeddi manylion ei fuddsoddiad mwyaf erioed - £3.5bn rhwng 2025 a 2030 - gyda phwyslais mawr ar warchod yr amgylchedd.

Mae'n rhan o gynllun busnes sydd wedi ei gyflwyno i'r rheoleiddiwr Ofwat yn amlinellu camau i wella perfformiad y cwmni.

O ganlyniad fe all biliau dŵr yng Nghymru godi £120 y flwyddyn erbyn 2030 wrth i'r cwmni addo lleihau llygredd afonydd.

Dywed Dŵr Cymru fod ei gynllun busnes newydd yn golygu y byddai cwsmeriaid yn talu £5 yn fwy y mis yn 2025 a £10 yn fwy y mis erbyn 2030.

Wythnos diwethaf roedd y cwmni ymhlith saith yng Nghymru a Lloegr a oedd yn y categori gwaethaf ym marn Ofwat o ran cyrraedd gwahanol dargedau.

Fe fydd gofyn i Ofwat gymeradwyo'r cynlluniau, ac unrhyw gostau a fydd yn cael eu pasio ymlaen i gwsmeriaid.

Yn ôl Dŵr Cymru mae'r swm y maen nhw'n bwriadu ei wario 68% yn uwch nag yn y pum mlynedd hyd at 2025.

Mae'n fwriad i fuddsoddi £1.9bn - cynnydd o 84% - ar gamau i leihau niwed i'r amgylchedd a gwella ansawdd dŵr afonydd.

Bydd rhain yn cynnwys lleihau gollyngiadau ffosfforaidd o safleoedd trin dŵr gwastraff i afonydd mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, a rhaglen i atal cannoedd o orlifoedd storm rhag achosi niwed ecolegol.

Llygredd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cwmni'n bwriadu cymryd camau i leihau achosion o lygredd fel rhan o'r cynllun i Ofwat

Mae ymrwymiadau eraill yn cynnwys:

  • 25% yn llai o ollyngiadau dŵr o bibellau a helpu cwsmeriaid fynd i'r afael â gollyngiadau mewn tai a busnesau;

  • 24% yn llai o achosion o lygredd;

  • Anelu at 'Gymru di-blwm' trwy osod pibellau newydd ar gyfer 7,500 o gwsmeriaid;

  • Arbed £42m trwy ddulliau gweithredu mwy effeithiol ac arloesol;

  • Rhoi £13m y flwyddyn at gynnal cefnogaeth i aelwydydd incwm isel.

Dywed y cwmni y byddai'r cynllun yn hwb i'r economi, gan gynnal dros 9,000 o swyddi llawn amser, ac mae'n fwriad i fod yn gwmni carbon niwtral erbyn 2040. 

Bil Dwr Cymru
line break

'Dŵr Cymru ar ei hôl hi'

Ddiwedd Medi fe ddyfarnodd y Ofwat bod dim un o gwmnïau dŵr Cymru a Lloegr yn cyrraedd eu targedau perfformiad o ran atal gollyngiadau, cyflenwadau a lleihau llygredd.

O ganlyniad bydd yn rhaid i'r ddau gwmni Cymreig - Dŵr Cymru a Dŵr Hafren Dyfrdwy - roi gostyngiad awtomatig i'w cwsmeriaid, er mae'n bosib na fydd yn ymddangos ar linell ar wahân mewn biliau.

Roedd Dŵr Cymru ymhlith y cwmnïau sydd "ar ei hôl hi" ym marn Ofwat, ac mae Dŵr Hafren Dyfrdwy yn y categori "cymedrol".

line break

"Dyma ein cynllun busnes mwyaf uchelgeisiol erioed," dywedodd prif weithredwr Dŵr Cymru, Peter Perry.

"Tra bydd yn her sylweddol, rydym yn hyderus bod modd i'w gyflawni a'i ariannu a bydd yn helpu gwella ein perfformiad yn sylweddol dros y blynyddoedd nesaf.

"Rydym wedi gallu gadw biliau yr un fath neu'n is mewn termau real dros y 10 mlynedd diwethaf, mae angen i ni nawr wneud buddsoddiad go iawn yn ein systemau dŵr a dŵr gwastraff i ateb heriau newid hinsawdd, gwarchod ein hafonydd, a gwella gwytnwch ein cyflenwadau dŵr."

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar newid hinsawdd, Janet Finch-Saunders, ei bod yn "annerbyniol i Dŵr Cymru gynyddu biliau pan mae ei gwsmeriaid sydd eisoes â'r ail fil uchaf yng Nghymru a Lloegr ar gyfartaledd".

Pynciau cysylltiedig