Yr Eidalwr a gyfansoddodd ddarn coffa i Aberfan ar ôl gwylio The Crown

  • Cyhoeddwyd
Stefano
Disgrifiad o’r llun,

Y cerddor Stefano Nerozzi, o Rufain

Fe gafodd Eidalwr a wnaeth gyfansoddi cerddoriaeth goffa i Aberfan ar ôl dysgu am y trychineb wrth wylio cyfres The Crown, sioc pan drefnwyd i'r darn gael ei berfformio am y tro cyntaf mewn cyngerdd lle'r roedd o'n perfformio.

Roedd y noson yn benllanw emosiynol i dair blynedd o fagu perthynas gyda Chymru - gwlad mae'n dweud ei fod wedi dod i'w charu.

The Crown

Dechreuodd y cyfan yn ystod y cyfnod clo pan roedd y cerddor Stefano Nerozzi, sy'n byw yn Rhufain, yn gwylio Netflix.

Doedd y pianydd, cyfansoddwr ac athro cerdd, erioed wedi clywed am Aberfan tan iddo weld y trychineb yn cael ei ail-greu yng nghyfres The Crown.

Meddai wrth Cymru Fyw: "Yn y rhaglen roedd y plant ysgol, cyn i'r trasiedi ddigwydd, yn canu ac roedd fy nghalon i'n drist.

"Roeddwn i'n emosiynol iawn yn gwylio, ac wedyn nes i ddechrau cyfansoddi'r gerddoriaeth i'r plant."

Disgrifiad o’r llun,

Ar 21 Hydref, 1966, lladdwyd 116 o blant rhwng saith a 10 mlwydd oed, a 28 o oedolion, pan lithrodd tomen lo i lawr o ben y mynydd a chladdu Ysgol Gynradd Pantglas a nifer o dai ym mhentref glofaol Aberfan

O fewn tridiau roedd o wedi cyfansoddi darn i gerddorfa gyfan a chôr llawn.

"Fyddai'n amhosib fel arfer i mi i sgwennu darn i gôr a cherddorfa lawn mewn tri diwrnod," meddai. "Roedd o fel bod y plant yn fy nhywys i wrth i mi gyfansoddi."

Roedd o'n awyddus i gael cyswllt yng Nghymru i weld a fyddai modd ei pherfformio - ond doedd o'n 'nabod neb oedd yn byw yn Galles. Ond drwy lwc, roedd partner merch un o'i ffrindiau wedi symud i Rufain o Ddeiniolen ers blynyddoedd, ac roedd o yn dal mewn cyswllt efo'i ffrind yn ei bentref genedigol.

Yn ffodus i Stefano, y pianydd Annette Bryn Parri oedd hi ag fe roddwyd y ddau mewn cyswllt efo'i gilydd.

Ffynhonnell y llun, Ffion Orwig
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Stefano Nerozzi osod dwy dorch ar ei ymweliad gydag Aberfan ar 29 Medi, un yn yr Ardd Goffa ac un yn y fynwent

Meddai Annette: "Roedd Stefano wedi sgwennu'r corws yn Saesneg ac felly nes i sgwennu'r geiriau yn Gymraeg a'u cael i ffitio.

"Roedd o wedi gobeithio cael cerddorfa lawn i'w berfformio, ond nes i ddweud 'listen, Stefano, I don't know how things are in Italy but here in Wales we're struggling with funding for our own musical services, there won't be any money for an orchestra.' Roedd o'n deall.

"Wnaethon ni gadw mewn cysylltiad a dod yn ffrindiau ac o ddod i'w nabod o mae rŵan mewn cariad yn llwyr efo Cymru a dwi wedi ei gyflwyno i gerddoriaeth Cymru, ond ro'n i'n barod yn caru cerddoriaeth yr Eidal."

Perfformiad emosiynol

Fe wnaeth Annette gyfarfod Stefano a'i bartner Renata Valassina am y tro cyntaf fis Ionawr eleni, cyn cael gwahoddiad i berfformio deuawd ar y piano gydag o yn Rhufain ddiwedd fis Hydref mewn cyngerdd i gasglu arian i hosbis plant.

Felly pan gyhoeddodd Stefano ei fod am ymweld ag Aberfan ddiwedd Medi eleni fe benderfynodd Annette, a gollodd ei gŵr Gwyn i ganser ddwy flynedd yn ôl, drefnu cyngerdd i gasglu arian i Ward Alaw Ysbyty Gwynedd. Trefnodd lu o artistiaid lleol i berfformio a gofynnodd i Stefano berfformio deuawd gyda hi ar y piano.

Ond fe wnaeth rhywbeth arall hefyd yn dawel bach.

Gweithiodd ar drefniant arbennig o'i gyfansoddiad ar gyfer piano a llais a chael dau gôr at ei gilydd i ymarfer.

Disgrifiad,

Perfformiad o Aberfan gan Gôr Meibion Dyffryn Peris a Chôr Law yn Llaw

Ac yn Eglwys Llanberis ar 30 Medi, ddiwrnod ar ôl iddyn nhw ymweld ag Aberfan, perfformiwyd y darn gan Gôr Meibion Dyffryn Peris a Chôr Law yn Llaw, sydd wedi ei sefydlu i bobl sydd wedi cael eu heffeithio gan ganser.

Dan deimlad yn ystod y perfformiad, dywedodd Stefano bod y cyngerdd a'i ddyddiau yng Nghymru wedi bod yn rhai emosiynol iawn.

Meddai: "Doeddwn i ddim yn disgwyl y syrpreis yma. Ro'n i wedi fy nghyffwrdd yn fawr, gan feddwl am yr holl blant.

"Roedd fy nghalon gyda nhw wrth wrando a phan wnes i ymweld ag Aberfan y diwrnod cynt, daeth Robin Goch aton ni ac roedd hynny'n dweud eu bod nhw wrth fy ymyl. Maen nhw'n emosiynau cryf iawn."

Disgrifiad o’r llun,

Renata Valassina, Stefano Nerozzi ac Annette Bryn Parri ar ôl y cyngerdd

Gyda'r noson wedi casglu tua £3000 i Ward Alaw ym Mangor, dywedodd Annette ei bod hi'n noson fythgofiadwy:

"Mae gen i gymaint o edmygedd bod rhywun o wlad arall wedi eistedd lawr i feddwl amdanon ni yma yng Nghymru a be' ddigwyddodd yn Aberfan, a chydymdeimlo efo ni fel gwlad - a chyfansoddi rhywbeth fel hyn. Mae hynny wedi fy nghyffwrdd i, ac roedd hyn yn ffordd o ddangos ein gwerthfawrogiad.

"Mae'n brofiad wnawn ni byth ei anghofio, a daeth lot o bobl aton ni ar y diwedd i ddweud wrth Stefano eu bod wedi eu cyffwrdd yn ofnadwy ac yn gobeithio gallu clywed y darn eto."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig