Tacsis trydan: Llywodraeth Cymru'n gollwng targed 2028

  • Cyhoeddwyd
Tacsi trydan
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan lai nag 1% o dacsis a cherbydau hurio preifat yng Nghymru injans heb allyriadau

Mae targed i wneud pob tacsi yn drydanol erbyn 2028 wedi cael ei ollwng gan Lywodraeth Cymru.

Yn hytrach, mae'r llywodraeth yn disgwyl i dacsis petrol a disel gael eu disodli yn unol â gweddill y farchnad geir.

Roedd targed 2028 ym maniffesto etholiad Llafur Cymru, ond dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Lee Waters na all Cymru symud yn gynt na gweddill y DU.

Cyhoeddodd y Prif Weinidog Rishi Sunak fis diwethaf fod y gwaharddiad ar werthu ceir petrol a disel newydd yn cael ei ohirio o 2030 tan 2035.

Beirniadodd Llywodraeth Cymru gyhoeddiad Rishi Sunak yn hallt.

82 allan o 9,318

Dangosodd yr ystadegau diweddaraf fod gan lai nag 1% o dacsis a cherbydau hurio preifat yng Nghymru injans heb allyriadau.

Canfu ystadegau gan Trafnidiaeth Cymru mai dim ond 82 allan o 9,318 o dacsis oedd yn drydan ym mis Ebrill 2022.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Mae angen i ni wneud yn siŵr bod gennym ni ddigon o seilwaith gwefru," meddai Lee Waters

Dywedodd Mr Waters fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i darged sero net 2050 a bod datgarboneiddio ceir yn rhan bwysig o hynny.

Ond dywedodd ei fod cydnabod fod heriau, gan gynnwys cost prynu cerbyd trydan ac argaeledd seilwaith gwefru.

"Ni all Cymru symud yn gyflymach na gweddill y DU ar y materion hyn, ond rydym yn disgwyl i'r fasnach tacsis a cherbydau hurio preifat drosglwyddo i gerbydau trydan yn unol â gweddill y farchnad geir," meddai.

Bydd newidiadau yn y gyfraith yn rhoi pwerau i weinidogion osod dyddiad terfyn ar gyfer tacsis trydan, ond dywedodd Mr Waters: "Nid yw hynny'n rhywbeth yr ydym yn bwriadu ei sbarduno, yn sicr o fewn tymor y Senedd hon nac yn y dyfodol rhagweladwy.

"Mae angen i ni wneud yn siŵr bod gennym ni ddigon o seilwaith gwefru a bod y ceir yn fforddiadwy, ac mae hynny'n ddarlun sy'n datblygu."