Menyw 77 oed wedi marw yn dilyn tân mewn car - cwest
- Cyhoeddwyd

Bu farw Helen Clarke yn yr ysbyty ar 24 Medi
Mae cwest wedi cael ei agor i farwolaeth menyw 77 oed yn dilyn tân mewn car ger Ysbyty Singleton yn Abertawe.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ar Lôn Sgeti fore Gwener, 22 Medi, wedi i dystion weld "mwg yn dod o gerbyd".
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Paul Raikes o Heddlu'r De wrth y cwest fod y "cerbyd wedi'i barcio hanner yn y ffordd a hanner ar y pafin".
Cafodd Helen Clarke ei chanfod mewn cyflwr difrifol, a bu farw yn Ysbyty Treforys yn Abertawe ddeuddydd yn ddiweddarach.
Fe gafodd ei gŵr, David Clarke, ei arestio ger y digwyddiad.
Mae wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth ei wraig, ac wedi'i gadw yn y ddalfa tan ei ymddangosiad nesaf yn y llys fis Tachwedd.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Raikes fod ymchwiliad yr heddlu yn parhau, ac fe gafodd y cwest ei ohirio nes y bydd yr achos troseddol wedi'i gwblhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Medi 2023
- Cyhoeddwyd22 Medi 2023