Y Bencampwriaeth: Plymouth 1-3 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Ollie CooperFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ollie Cooper yn dathlu ei gôl eiliadau wedi iddo ddod oddi ar y fainc

Mae Abertawe wedi sicrhau eu pedwaredd fuddugoliaeth olynol yn y Bencampwriaeth ar ôl curo Plymouth 1-3.

Luke Cundle, a fu'n chwarae i Abertawe tymor diwethaf, wnaeth rhoi Plymouth ar y blaen yn yr hanner cyntaf.

Roedd y golwr Carl Rushworth yn ganolog i fuddugoliaeth Abertawe gan wneud sawl arbed hollbwysig, a gwnaeth tair gôl yn yr ail hanner sicrhau buddugoliaeth gyfforddus i'r ymwelwyr.

Jerry Yates ddaeth a'r sgôr yn hafal i Abertawe yn yr ail hanner, cyn i Ollie Cooper sgorio'r ail gôl o 25 llath, eiliadau wedi iddo ddod oddi ar y fainc.

Cafodd y fuddugoliaeth ei sicrhau gan Josh Key a sgoriodd ei gôl gyntaf i'r clwb oddi ar bas gwych gan Jamie Paterson.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Abertawe yn symud i 12fed, tra bod Plymouth yn cwympo i 18fed.