Pryderon fod Cymru'n cael llai o arian yn sgil HS2
- Cyhoeddwyd
Dyw hi ddim yn deg os yw Cymru yn colli arian yn sgil y ffaith fod cynllun rheilffordd HS2 wedi ei nodi yn un Cymreig, medd pennaeth Trafnidiaeth Cymru.
Dywedodd y prif weithredwr James Price fod angen buddsoddiad sylweddol ar reilffyrdd Cymru, ond bod hyn yn "anodd iawn i'w wneud" heb arian ychwanegol.
Mae dadansoddiad Llywodraeth y DU eu hunain yn dod i'r casgliad y bydd HS2 yn cael effaith negyddol, ar y cyfan, ar Gymru.
Dywed yr Adran Drafnidiaeth y "bydd HS2 yn darparu gwasanaethau cyflymach ac amlach i Gymru" a'u bod eisoes wedi "ymrwymo cyllid o dros £2bn i reilffyrdd Cymru".
Rheilffordd gyflym yw HS2 fydd yn cysylltu Llundain â Birmingham. Ni fydd yr un filltir ohoni yng Nghymru.
Ar hyn o bryd mae'r prosiect wedi ei ddynodi fel un i Loegr a Chymru, sy'n golygu na fydd Llywodraeth Cymru yn derbyn cyllid cyfatebol gan fformiwla Barnett.
"Dwi ddim yn credu bod hynna yn iawn," medd Mr Price.
"Os ydych yn edrych ar y ffigyrau, mae ffigyrau Llywodraeth y DU eu hunain yn awgrymu nad yw'r cynllun, o reidrwydd, o fudd i Gymru.
"Ac er mwyn i'r cynllun fod yn dda i Gymru - mae angen i Gymru fuddsoddi yn sylweddol yn ei rheilffyrdd."
Mae Llywodraeth Cymru a grŵp trawsbleidiol o Aelodau Seneddol wedi galw am ddynodi HS2 fel cynllun i Loegr yn unig.
Fe ddywedodd adroddiad gan y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn "oddeutu £755m o gyllid canlyniadol fformiwla Barnett" rhwng 2015 a 2019 o ganlyniad i wariant Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU ar HS2, ond na fyddai Cymru yn "manteisio yn yr un modd â'r Alban a Gogledd Iwerddon".
Er hyn, dywedodd y gallai HS2 "fod o fudd uniongyrchol i deithwyr rheilffordd Cymru pe bai gwelliannau'n cael eu gwneud i brif reilffordd gogledd Cymru".
Beth yw cyllid canlyniadol?
Pan mae Llywodraeth y DU yn penderfynu rhoi mwy neu lai o gyllid i wasanaethau cyhoeddus yn Lloegr - mae fformiwla Barnett yn cael ei defnyddio er mwyn penderfynu faint o arian y dylid ei roi i'r cenhedloedd eraill.
Os oes £100 y pen, er enghraifft, yn cael ei roi yn Lloegr, dylai llywodraethau datganoledig dderbyn yr un faint o arian.
Mae'n adlewyrchu y gwahaniaeth ym maint y boblogaeth a pha wasanaethau cyhoeddus sydd wedi'u datganoli.
Does dim rhaid i lywodraethau wario'r arian ar yr un gwasanaethau â Llywodraeth y DU.
Yn 2017, fe wnaeth Llywodraeth y DU gael gwared ar gynlluniau i drydaneiddio'r rheilffordd rhwng Caerdydd ac Abertawe.
Mewn adolygiad diweddar o drafnidiaeth y DU, doedd dim sôn am drydaneiddio'r rhwydwaith yng ngogledd a de Cymru.
O safbwynt newid hinsawdd, dywedodd James Price: "Fy marn bersonol i yw y bydd yn rhaid i ni weld Network Rail a Llywodraeth y DU yn trydaneiddio gweddill y rhwydwaith yng Nghymru.
"Ar hyn o bryd, mae'n edrych fel nad oes fawr o dechnoleg arall ar gael i wneud hyn."
Ychwanegodd fod trydaneiddio rheilffyrdd y tu hwnt i'r cynlluniau presennol ar gyfer llinell Llundain i Gaerdydd a'r cymoedd "yn rhywbeth sydd wir ei angen arnom ni".
Gormod o bobl
Dywedodd Mr Price ei fod yn "anhapus" gyda phrofiadau rhai teithwyr o brysurdeb ar rai trenau Cymreig.
Wrth siarad â Politics Wales dywedodd fod y gwasanaeth presennol "siŵr o fod yn system reilffordd o radd ganolig na sy'n cymharu â gweddill y byd".
"Ry'n ni eisiau gwneud llawer yn well a dyna pam ry'n am geisio trawsnewid rheilffyrdd ar draws Cymru," meddai.
Mae'r pandemig wedi arwain at gwymp yn nifer y teithwyr trên er bod rhai rhannau o'r rhwydwaith yn brysurach o lawer, ychwanegodd.
Ym mis Mehefin, cafodd cyllid ychwanegol o £70m ar gyfer Trafnidiaeth Cymru ei gyhoeddi er mwyn ymateb i'r cwymp mewn teithwyr, ar ben cyllid ychwanegol o ryw £167m gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Mr Price: "Tan i ni gyrraedd 100% eto, bydd angen i'r cymhorthdal ychwanegol oedd yn dod mewn barhau i ddod mewn, neu bydd angen i ni redeg llai o wasanaethau."
'Gwasanaethau cyflymach ac amlach'
Dywed llefarydd ar ran yr Adran Drafnidiaeth: "Bydd HS2 yn darparu gwasanaethau cyflymach ac amlach i Gymru. Bydd Cyfnewidfa HS2 yn Crewe yn golygu y bydd llawer rhan o Gymru o fewn dwy awr a chwarter i Lundain - cyflymach na'r gwasanaethau presennol i Gaergybi.
"Ry'n eisoes wedi ymrwymo cyllid o dros £2bn i reilffyrdd Cymru yn ystod blynyddoedd diweddar ac ry'n ar hyn o bryd yn ystyried argymhellion adolygiad Syr Peter Hendy.
"Ry'n wedi gwahodd Llywodraeth Cymru i gydweithio'n agos â ni er mwyn canfod atebion fydd yn gweithio orau i bobl Cymru a'r DU."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2021