Oriel Ffin y Parc yn symud o Lanrwst i Landudno

  • Cyhoeddwyd
Oriel Ffin y ParcFfynhonnell y llun, Oriel Ffin y Parc

Mae Oriel Ffin y Parc ar gyrion Llanrwst yn gyrchfan boblogaidd ac yn ôl y Cyngor Celfyddydau dyma un o orielau "mwyaf llwyddiannus Cymru", wrth iddi arddangos a gwerthu'r nifer fwyaf o weithiau gan arlunwyr sydd â chysylltiad Cymreig.

Fe brynodd y perchnogion presennol, Ralph Sanders a Roland Powell, blasty Bryn Derwen ar gyrion Llanrwst yn 2007 gan addasu'r adeilad "a oedd mewn tipyn o stad" yn sylweddol i greu oriel.

Yn y flwyddyn newydd fe fydd yr oriel, sy'n gwerthu dros £1m y flwyddyn o waith celf, yn symud i Landudno ac mae'r plasty wedi'i werthu.

Y pris gofyn oedd £1.95m.

'Denu ymwelwyr i'r ardal'

"Mae'r oriel yn sicr wedi dod â nifer o ymwelwyr i'r ardal," meddai Charles Owen, un o'r cynghorwyr lleol.

"Dwi ond yn gobeithio fydd y prynwyr newydd hefyd yn cynnig rhywbeth fydd yn denu pobl yma. Mae denu ymwelwyr i'r ardal yn hollbwysig."

Ategu hynny wnaeth y cynghorydd sir lleol, Aaron Wynne.

"Mae'n golled i Lanrwst ond fe fydd Llandudno ar ei hennill.

"Mae cyfraniad yr oriel i'r ardal wedi bod yn fawr a dwi am ddiolch iddyn nhw am hynny a dymuno yn dda iddyn nhw yn eu cartre' newydd.

"Mae wedi bod yn lle pwysig iawn i'r dref - gan chwarae rhan allweddol yn ystod ymweliad y Brifwyl â'r dre' yn 2019."

Bryn DerwenFfynhonnell y llun, Iwan M Williams a Richard Baddeley & Co

Cafodd plasty Bryn Derwen ei godi yn yr 1880au ac ar droad y mileniwm roedd yn gartref gofal cyn iddo gau yn 2005 yn sgil ad-drefnu gwasanaethau i'r henoed yn Sir Conwy.

Yn y blynyddoedd wedi hynny fe wnaeth cyflwr y plasty a'r gerddi o'i gwmpas ddirywio'n fawr.

"Dwi'n cofio dod i weld y lle yn 2007 ac ro'dd e'n adeilad unig iawn yn llawn ystlumod," meddai Ralph Sanders, sy'n cyd-berchen y lle ar hyn o bryd gyda'i bartner Roland Powell.

"Gwerthu dodrefn mewn siop o'r enw Treehouse yng Nghaerdydd ro'n i wedi bod yn 'neud, a dyma benderfynu un diwrnod fy mod am arddangos a gwerthu celf wedi i fi brynu y llun 'Running away with the hairdresser' gan Kevin Sinnot.

"Doeddwn i ddim yn gyfarwydd â gogledd Cymru ond roedd fy mhartner wedi byw ym Mangor pan yn chwarae rhan David Ailsworth yn Porc Peis Bach.

"Roedd Bryn Derwen yn cynnig ei hun - a dyma felly ddechrau ar y gwaith o ailwampio'r lle, oedd mewn dipyn o stad.

"Doedd dim a oedd yn wreiddiol i'r tŷ ar ôl - rhaid oedd prynu llefydd tân tebyg i'r hyn a fyddai wedi bod yn y plasty ac ailgreu'r mouldings gwreiddiol a phob dim."

Oriel Ffin y ParcFfynhonnell y llun, Oriel Ffin y Parc

Ers ei hagor mae'r oriel wedi arddangos gwaith nifer iawn o artistiaid sydd â chysylltiad Cymreig.

"Ry'n ni'n arddangos gwaith artistiaid sydd wedi ennill eu plwy' ond hefyd mae'n braf rhoi gofod i artistiaid newydd," ychwanegodd Ralph Sanders.

Bryn DerwenFfynhonnell y llun, Iwan M Williams a Richard Baddeley & Co

"Ry'n hefyd wedi bod yn cynnal rhyw 12 arddangosfa y flwyddyn - gyda phrisiau'r gwaith yn amrywio o £150 i £75,000.

"Yr hyn sydd wedi bod yn hynod o bwysig hefyd i ni yw creu'r awyrgylch iawn i bobl fwynhau y byd celf yng Nghymru.

"Mae'r galeri yn ymestyn dros ddau lawr ac ry'n ni wedi sicrhau bod yna ddigon o le i ymwelwyr werthfawrogi'r lluniau yn llawn."

'Deall ni artistiaid'

Un sydd yn arddangos ei gwaith yn gyson yn yr oriel yw'r artist Luned Rhys Parri o'r Groeslon ger Caernarfon.

Luned Rhys ParriFfynhonnell y llun, Oriel Ffin y Parc
Disgrifiad o’r llun,

Dyw pob oriel ddim mor groesawgar â Ffin y Parc, medd Luned Rhys Parri

Wrth siarad â Cymru Fyw, dywedodd bod yr oriel yn hynod werthfawr iddi, a'r hyn sy'n arbennig hefyd yw ei bod hi mor groesawgar.

"Mae orielau yn cael hanner y pres y mae'r artist yn ei gael am lun - ond yn aml pan mae rhywun yn mynd â lluniau i orielau dyw'r croeso ddim wastad yn fawr.

"Weithiau 'dyw rywun ddim yn cael paned na lle i barcio - ond mae Oriel Ffin y Parc yn gwbl wahanol.

"Mae 'na wastad groeso hynod o dwymgalon ac ry'n yn arddangos ein gwaith yng nghartref Ralph a Roland i bob pwrpas.

Rhai o weithiau Luned Rhys Parri sydd wedi cael eu harddangos yn Oriel Ffin y ParcFfynhonnell y llun, Oriel Ffin y Parc
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o weithiau Luned Rhys Parri sydd wedi cael eu harddangos yn Oriel Ffin y Parc

"Yr hyn sy'n arbennig am y lle hefyd yw bod yna ddigon o ofod i arddangos y lluniau ac mae cwsmeriaid yn medru eistedd lawr a meddwl a ydyn nhw am brynu'r llun hwn ac arall.

"Ac mae 'na gyfle i fynd am baned i feddwl ymhellach. Mae gwerth yr oriel i artistiaid Cymru yn anfesuradwy.

"Dwi'n gwerthu llawer iawn o'm gwaith drwy'r oriel. Mae'r perchnogion rywsut yn deall ni artistiaid ac mor gefnogol."

Oriel Ffin y ParcFfynhonnell y llun, Oriel Ffin y Parc
Disgrifiad o’r llun,

Yr hyn sy'n dda am yr oriel yw bod digon o ofod i'r gwaith celf, medd Luned Rhys Parri

Mae'r plasty wedi'i leoli o fewn 14 erw o dir ac ers ei hagor mae'r oriel wedi bod yn fan poblogaidd i gyfarfod am baned a lluniaeth ysgafn.

Mae yna hefyd dri bwthyn hunan-ddarpar yn rhan o'r stad.

'Cyfnod Covid yn dda i ni'

"Ry'n wedi mwynhau ein hamser yma yn fawr ond ry'n yn teimlo ein bod bellach am ganolbwyntio ar gelf yn unig - a bod yr amser wedi dod i Roland roi'r gorau i wneud cacennau bob nos!" meddai Ralph Sanders.

"Yr hyn sy'n bwysig yw nad yw'r oriel yn dod i ben - fe fydd gwaith yr un artistiaid a mwy i'w weld yn Llandudno.

"Ry'n yn edrych ymlaen yn fawr. Ry'n wedi cael cyfnod llewyrchus iawn yma yn Llanrwst - a do, bu cyfnod Covid yn un llwyddiannus i ni.

"Fe lwyddon ni i ffilmio arddangosfeydd a gwerthu llawer iawn ar-lein - ac fe ddangosodd y cyfnod i ni bod mwy o bobl bellach yn fodlon prynu ar-lein.

"Mae rhedeg oriel yn gostus - ry'n ni'n gwario dros £30,000 ar farchnata bob blwyddyn, gan gynnwys postio gwybodaeth i gwsmeriaid.

"Ry'n wedi bod yn hynod o falch i arddangos gweithiau dros 40 o artistiaid Cymreig ac yn ddiweddar ry'n wedi bod yn gwerthu lluniau o stad rhai artistiaid - yn eu plith y diweddar Peter Prendergast a Mihangel Jones."

Oriel Ffin y ParcFfynhonnell y llun, Oriel Ffin y Parc
Oriel Ffin y ParcFfynhonnell y llun, Oriel Ffin y Parc

Does dim gwybodaeth hyd yma pwy yw perchnogion newydd Bryn Derwen na beth yw eu bwriad, ond mae'r arwerthwyr Iwan M Williams a Richard Baddeley & Co yn dweud bod y gwerthiant yn mynd rhagddo.

Bydd yr oriel newydd yn Llandudno yn agor yn y flwyddyn newydd yn ei chartref newydd ar Sgwâr y Drindod.

Yma fydd cartref newydd yr oriel yn Sgwâr y Drindod, LlandudnoFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Yma fydd cartref newydd yr oriel yn Sgwâr y Drindod, Llandudno

Fe fydd yr oriel newydd yn Llandudno yn agor ar ddydd Gŵyl Dewi 2024 gydag arddangosfa o waith yr artist Sarah Carvell o Lannefydd.

"Ry'n yn edrych ymlaen yn fawr," medd Ralph Sanders.

"Mae yna dipyn o waith i wneud i'r adeilad newydd pedwar llawr - sydd â lifft!

"Unwaith eto fe fyddwn ni'n chwilio am hen lefydd tân ac yn creu gofod sy'n addas i arddangos lluniau gwych artistiaid sydd â chysylltiad â Chymru.

"Bydd rhaid i ni wario ryw £100,000 ar yr adeilad mae'n siŵr. Fe fydd hi'n braf canolbwyntio ar waith celf yn unig.

"Na, fydd dim mwy o goginio i Roland ond mae e'n edrych ymlaen i ganolbwyntio ar ei ganu jazz a'i obaith rhywbryd yw agor clwb jazz yn Llandudno - ond yn gyntaf ni'n dau am ganolbwyntio ar yr oriel newydd."

Pynciau cysylltiedig