Gwahardd cynghorydd ar ôl sylwadau am argyfwng Israel-Gaza
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorydd Llafur yng Nghasnewydd wedi'i wahardd ar ôl sylwadau a wnaeth am argyfwng Israel-Gaza.
Mae GB News wedi adrodd bod Miqdad Al-Nuaimi wedi postio ar X - Twitter gynt - am bolisi diogelwch Israel yn Gaza.
Mae'r Blaid Lafur yn ymchwilio, ac nid yw cyfrif X Mr Al-Nuaimi ar gael bellach.
Mae'r BBC wedi cysylltu â Mr Al-Nuaimi, sydd wedi bod yn gynghorydd ers 2000, ond dywedodd nad yw'n gallu gwneud sylw.
Mae Mr Al-Nuaimi bellach wedi'i wahardd rhag bod yn aelod o'r Blaid Lafur tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal.
Dywed y Blaid Lafur na all wneud sylw ar achosion unigol oherwydd bod ei gweithdrefn ddisgyblu yn gyfrinachol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2023