Mark Drakeford yn condemnio'r ymosodiadau ar Israel

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford a Keir Starmer yng nghynhadledd Llafur Cymru eleni, yn LlandudnoFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark Drakeford a Syr Keir Starmer wedi beirniadu'r ymosodiadau dros y penwythnos

Mae'r straeon gan bobl yn Israel a Gaza yn wirioneddol arswydus, yn ôl Prif Weinidog Cymru.

Fe ymunodd Mark Drakeford ag arweinydd y Blaid Lafur canolog, Syr Keir Starmer, drwy gondemnio'r ymosodiadau ar Israel gan Hamas.

Dywedodd fod yn rhaid i'r gymuned ryngwladol "ailfeddwl yr hyn allwn ni ei wneud i warchod pobl Israel a Phalesteina, a chynnig gobaith fod heddwch a llwyddiant yn bosib yn y tymor hir".

Roedd Mr Drakeford yn siarad â BBC Cymru o gynhadledd y blaid Lafur yn Lerpwl.

Mae Israel bellach wedi cychwyn "gwarchae llwyr" o amgylch llain Gaza, ar ôl i dros 700 o bobl gael eu lladd mewn ymosodiadau gan y grŵp Islamaidd Hamas dros y penwythnos.

Ers hynny mae dros 500 o bobl wedi marw yn Gaza wrth i Lywodraeth Israel daro nôl gyda rocedi ac ymosodiadau awyr.

Dywedodd Mr Drakeford fod yr ymosodiadau yn "ofnadwy" ac yn "weithredoedd terfysgol, nad oes modd eu cyfiawnhau".

"Ar lefel ddynol, mae'r straeon sy'n dod allan o Israel a llain Gaza heddiw yn wirioneddol arswydus," meddai.

"I feddwl bod sifiliaid sydd wedi cael eu dal yn yr ymladd, heb fod unrhyw fai arnyn nhw. Allwch chi ond teimlo cydymdeimlad tuag at y bobl hynny.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Drakeford fod Cymru wedi cael ei thwyllo yn ariannol drwy gynllun HS2

Yn ogystal ag ymateb i'r digwyddiadau yn y dwyrain canol, fe gadarnhaodd Mr Drakeford ei fod yn dal yn bwriadu ymddiswyddo fel Prif Weinidog yn 2024.

Dywedodd nad oedd wedi penderfynu pryd yn union eto, ond y bydd "rhyw bryd yn y flwyddyn galendr nesaf".

Dydd Sul, doedd Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol Cymru, Jo Stevens, ddim yn fodlon cadarnhau a fyddai Cymru yn derbyn rhagor o arian yn sgil y penderfyniad i ganslo ail ran cynllun HS2 rhwng Birmingham a Manceinion, petai Llafur yn ennill yr etholiad cyffredinol nesaf.

Dyw Cymru heb dderbyn unrhyw gyllid ychwanegol hyd yma gan fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dynodi'r cynllun fel un Lloegr a Chymru.

Yn ôl Mr Drakeford, mae Cymru wedi cael eu "twyllo" yn ariannol gan gynllun HS2, ond nododd ei fod yn deall pam nad oes modd i Lafur ymrwymo i "arwyddo pob math o sieciau yn y cyfnod sy'n arwain at etholiad".

"Rydyn ni wir yn credu y dylai Cymru fod wedi derbyn ei siâr o'r arian yna drwy fformiwla Barnett," meddai.

Ychwanegodd y byddai'n parhau i godi'r mater gyda'i gydweithwyr o fewn y blaid, gan gydnabod y bydd rhaid i Lafur, yn y dyddiau cynnar, wir ystyried beth yn union sy'n bosib.