Tystysgrif ar ôl colli babi: 'Rhywbeth bach ond gwahaniaeth mawr'
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Mae'r erthygl yma yn cynnwys profiadau all beri gofid.
Mae 'na alwadau i sicrhau bod tystysgrifau'n cael eu rhoi i deuluoedd yng Nghymru sy'n colli babi cyn 24 wythnos.
Mae Lloegr wedi eu cyflwyno ers dros flwyddyn, ond yng Nghymru, dim ond teuluoedd sy'n colli babi ar ôl 24 wythnos sy'n gallu cael tystysgrif.
Dywedodd un fenyw sydd wedi colli tri babi cyn 10 wythnos y byddai tystysgrif yn "rywbeth bach sy'n mynd i allu gwneud gwahaniaeth mawr".
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio gyda swyddogion yn Lloegr i edrych ar gyflwyno'r broses ardystio ar draws Cymru y flwyddyn nesaf.
'Lot o gysur i lot o rieni'
Yn siarad gyda Newyddion S4C, mae Carys McKenzie, sy'n wreiddiol o Flaenau Ffestiniog, wedi rhannu ei phrofiad o golli tri babi cyn 10 wythnos tra'n feichiog.
Dywedodd: "Dwi just yn meddwl ma' tystysgrif yn rywbeth bach sy'n mynd i allu gwneud gwahaniaeth mawr.
"Dydi o ddim am greu problem fawr i Lywodraeth Cymru, mae'r model yn bodoli'n barod yn Lloegr, neu fe fydd o.
"Felly pam ddim, dydi o ddim yn neud dim harm, mae'n mynd i ddod a lot o gysur i lot o rieni."
Collodd Rhiannon Williams o Lanfrothen ei babi pan oedd hi 17 wythnos yn feichiog, ac mae'n cytuno bod angen cyflwyno'r tystysgrifau yng Nghymru.
Dywedodd: "Dwi wedi rhoi genedigaeth a does 'na ddim cofnod yn nunlla o'r babi bach 'ma, a mae hynny'n wahanol i'r profiad ar ôl 24 wythnos.
"Dwi'n meddwl bod tystysgrif, er nad ydy hi'n gofnod o gofrestru swyddogol, mae dal yn gydnabyddiaeth."
Un sydd wedi derbyn tystysgrif am ei babi yw Elen Hughes o Aberdaron. Collodd Elen ei babi, Danial, pan oedd 37 wythnos yn feichiog.
Roedd cael tystysgrif yn "bwysig ofnadwy", meddai.
"Y gydnabyddiaeth 'na 'di o ynde, da ni wedi ei gario fo, mae o'n bodoli a bod hynny yn cael ei gofnodi yn rwla.
"Dwi'n cytuno'n ofandwy bod angen, llwyr angen yng Nghymru fel sydd yn Lloegr."
Rhiannon Williams yw golygydd cyfrol newydd Darn Bach o'r Haul, sy'n cofnodi gwahanol brofiadau mamau o golli babanod ac yn adnodd i addysgu eraill am y broses.
Bwriad ei chyhoeddi oedd bod yn gymorth i famau eraill.
Dywedodd Rhiannon: "Ro'n i'n sylweddoli nad oedd llawer o bethau ar gael heblaw blog yn y Gymraeg, doedd dim cyfrol.
"Be' oedd yn bwysig oedd pwysleisio bod y profiad yn un cyffredin i bawb, ond fod gan bawb amgylchiadau eu hunain hefyd, ac o'n i eisiau i'r penodau adlewyrchu hynny."
Llywodraeth yn 'gweithio ar y broses'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae camesgoriad ar unrhyw adeg yn ystod beichiogrwydd yn dorcalonnus ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob teulu sy'n profi camesgoriad yn cael cefnogaeth briodol a thosturiol.
"Bydd pob teulu y daw eu beichiogrwydd i ben mewn unedau mamolaeth yng Nghymru yn cael eu cefnogi gan fydwragedd profedigaeth, ar y cyd â Sands, a byddant yn cael cynnig blychau atgofion sy'n cynnwys tystysgrif geni.
"Rydym hefyd yn gweithio gyda swyddogion yn Lloegr i edrych ar gyflwyno'r broses ardystio ar draws Cymru i roi cydnabyddiaeth ffurfiol pan fydd teuluoedd wedi colli babanod.
"Rydym wedi gwneud gwelliannau sylweddol i wasanaethau profedigaeth ac rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid i weithredu'r Llwybr Cenedlaethol ar gyfer Gofal mewn Profedigaeth ar gyfer camesgoriad, marw-enedigaeth a cholli babanod er mwyn darparu dull cyson o ymdrin â gofal a chymorth wedi profedigaeth ar draws Cymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Awst 2023
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2020