Faletau, Biggar a thimau hemisffer y gogledd

  • Cyhoeddwyd
cennydd
Disgrifiad o’r llun,

Y blwch sylwebu ar gyfer gêm ola'r grŵp yn erbyn Georgia

Mae'r gemau grŵp ar ben, ac rydyn ni'n dod i gemau mawr pencampwriaeth Cwpan y Byd.

Pedair buddugoliaeth allan o bedair oedd hi i fechgyn Gatland, gan sicrhau 19 pwynt o'r 20 oedd yn bosib.

Yr Ariannin yn Marseille sy'n sefyll rhwng Cymru a gêm rownd gynderfynol yn erbyn Seland Newydd neu Iwerddon.

Mae Warren Gatland wedi enwi ei dîm ar gyfer rownd y chwarteri yn ne Ffrainc ar brynhawn Sadwrn, 14 Hydref.

Cennydd Davies sy'n trafod sefyllfa'r Cymry, a beth sydd i'w ddisgwyl gan yr Archentwyr.

Anafiadau'r gemau grŵp

Lai na wythnos yn ôl roedd Warren Gatland yn sôn am ba mor ffodus roedd Cymru wedi bod o safbwynt anafiadau, ac roedd hi'n anorfod felly y byddai rhyw anffawd yn tarfu rhywbryd.

Heb os mae colli'r wythwr ysbrydoledig, Taulupe Faletau, wedi bod yn ergyd drom. Yn un o'r chwaraewyr gorau yn y byd yn ei safle, fe yn anad neb arall na fyddech chi am weld yn ffarwelio â'r gystadleuaeth.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gyda 102 o gapiau, mae colli Taulupe Faletau yn dipyn o ergyd i obeithion Cymru am weddill y gystadleuaeth

Mae'n annhebygol iawn y bydd y chwaraewr yn Awstralia ymhen pedair blynedd - roedd chwaraewr o'r fath statws yn haeddu diweddglo mwy teilwng.

Biggar nôl yn y tîm

Yr hwb enfawr i Gymru yw gweld enwau Dan Biggar a Liam Williams wedi eu cynnwys. Heb os mae presenoldeb Biggar yn fwy allweddol fyth o ystyried yr amheuaeth ynglŷn â ffitrwydd Gareth Anscombe.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y cefnwr, Liam Williams, a'r maswr, Dan Biggar; dau chwaraewr pwysig yn ymgyrch Cymru yng Nghwpan y Byd

Roedd Leigh Halfpenny'n barod i gamu i'r adwy yn safle'r cefnwr, ond er yn ddirprwy mwy nac abl mi fydd Williams yn gaffaeliad yn y tri cefn.

Mae absenoldeb Taulupe Faletau yn golygu rhywfaint o ad-drefnu yn y rheng-ôl a dim syndod gweld Aaron Wainwright yn symud i safle'r wythwr, sy'n golygu dau blaenasgellwr agored yn Jac Morgan a Tommy Reffell bob ochr i greu'r triawd.

Ac eithrio hynny mae'r tîm yn ymdebygu i'r hyn ddechreuodd yn Lyon a does dim syndod gweld Adam Beard a Ryan Elias yn dychwelyd yn y pac, a Josh Adams wedi'i gynnwys ar yr asgell.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Louis Rees-Zammit wedi sgorio pum cais yn y gystadleuaeth hyd yma

Tîm Cymru

Liam Williams, Louis Rees-Zammit, George North, Nick Tompkins, Josh Adams, Dan Biggar, Gareth Davies; Gareth Thomas, Ryan Elias, Tomas Francis, Will Rowlands, Adam Beard, Tommy Reffell, Jac Morgan (c), Aaron Wainwright.

Eilyddion: Dewi Lake, Corey Domachowski, Dillon Lewis, Dafydd Jenkins, Christ Tshiunza, Tomos Williams, Sam Costelow, Rio Dyer.

Cymru... y ffefrynnau

Dros y blynyddoedd dyw'r label 'ffefrynnau' ddim bob tro wedi cytuno â Warren Gatland, ond dyna'n union oedd barn Prif Hyfforddwr Ariannin Michael Cheika yn dilyn y gêm yn erbyn Japan. Ydy, mae'r frwydr seicolegol eisoes yn ei hanterth!

Er tegwch mae yna gyfiawnhad i'r sylwadau yma. Mae Cymru'n ddi-guro, wedi cipio 19 o 20 pwynt bosib, gan oroesi grŵp oedd yn ymddangos yn drafferthus a dweud y lleia' ar drothwy'r gystadleuaeth.

Mae'r Piwmas ar y llaw arall wedi hercian at y chwarteri. Roedd colli yn erbyn 14 dyn Lloegr yn y gêm agoriadol yn hynod siomedig a dyw'r perfformiadau bratiog, anghyson ers hynny heb wneud dim i dawelu'r dyfroedd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Michael Cheika oedd wrth y llyw pan ddaeth yr Archentwyr i Gaerdydd fis Tachwedd y llynedd. Enillodd Cymru 20-13 y dydd hwnnw

Er hyn, mae Cymru'n gwybod yr her gorfforol sydd i ddod; o dan Chekai mae gan yr Archentwyr hyfforddwr craff sy'n barod wedi curo Cymru yn ystod ei gyfnod ag Awstralia. Mae 'ffefrynnau' yn gallu bod yn air peryglus, ac er yr hyder sy' mor amlwg ymysg y cefnogwyr, anodd yw proffwydo'r canlyniad yn y pen draw.

Los Pumas siomedig

Na dyw pethau ddim wedi bod yn fêl i gyd i'r tîm o Dde America, ac yn debyg i Gymru maen nhw wedi gorfod diodde' colli eu blaenasgellwr campus, Pablo Matera.

Er fod y gêm a'r arddull wedi esblygu yn y wlad dros y blynyddoedd, yn enwedig ers eu cyfnod yn chwarae ym mhencampwriaeth hemisffer y De, mesur y tîm o hyd yw eu grym corfforol ymhlith y blaenwyr a pha mor effeithiol yw'r safleoedd gosod.

Dyw hyn ddim 'di newid ac er y rhedwyr cyffrous yn eu plith yn cynnwys Chocobares, Boffeli a Carrera y tu ô, ymysg yr wyth blaen fydd y maen prawf i Gymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mateo Carreras yn croesi am bumed cais Yr Ariannin yn erbyn Japan. Enillodd Yr Ariannin y gêm 39-27

Mi fydd y patrwm yn glir eto yn y Stade Velodrome, ac yn debyg i'r gêm yn erbyn Awstralia mi fydd Cymru a Dan Biggar (sy'n holliach), yn ceisio ennill y frwydr o ran tir a gwahodd yr Archentwyr i wneud camgymeriadau ac ildio ciciau cosb. Gyda lle yn y pedwar ola' yn y fantol fydd y tri 'c' yn allweddol; cicio, cywirdeb, clinigol.

Hemisffer y Gogledd yn rheoli?

Yn ei golofn wythnosol dyma gyn-fewnwr Lloegr, Matt Dawson, yn darogan mai gwledydd hemisffer y gogledd fydd yn camu ymlaen at y rowndiau cyn-derfynol ym Mharis;. Dweud mawr neu ffolineb llwyr?

Mae 'na gyfle gwirioneddol i hyn gael ei gwireddu, ond dwi'n siŵr fydd De Affrica a Seland Newydd yn benderfynol o osgoi. Bydd y Springboks yn gorfod delio â'r holl emosiwn ac achlysur o wynebu'r tîm cartref tra bydd Seland Newydd yn dod ben-ben ag Iwerddon sydd ar hyn o bryd yn dangos pam mai nhw sydd ar frig rhestr detholion y byd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ai un o'r capteiniaid yma fydd yn codi'r gwpan ar 28 Hydref?

Bydd Lloegr yn gobeithio bod Fiji wedi rhedeg allan o stêm ar ôl colli yn erbyn Portiwgal yn ddiweddar er fod yr Ynyswyr yn dal i gofio'r fuddugoliaeth hynod honno dros y Saeson yn Twickenham, tra bod Cymru v Ariannin yn argoeli i fod yn hynod glos a dim fawr ynddi.

Yn yr un modd gallai gwledydd hemisffer y De yn rhwydd gamu ymlaen i Baris ac yn hynny o beth, mae'n mynd i fod yn benwythnos anferthol o rygbi!