'Bwlio' a 'diwylliant o ofn' o fewn y byd ffilm a theledu

  • Cyhoeddwyd
llun stocFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae honiadau o fwlio ac ymddygiad amhriodol ar gynyrchiadau ffilm a theledu yng Nghymru wedi cael eu clywed gan ymchwiliad gan y Senedd.

Dywedodd un person a roddodd dystiolaeth iddo golli cyfrif o sawl gwaith yr oedd wedi gweld pobl yn cael eu cam-drin yn eiriol ar set.

Dywedodd eraill wrth y pwyllgor diwylliant fod yna "ymddygiad gwenwynig" yn y gweithlu.

Yn ôl cadeirydd y pwyllgor, Delyth Jewell o Blaid Cymru, mae'n "annerbyniol y dylai gweithwyr fod yn destun ymddygiad bwlio yn y gwaith".

Roedd y pwyllgor yn ymchwilio i'r heriau sy'n wynebu gweithlu diwydiant creadigol Cymru ac fe gafodd adroddiad am y gwaith ei gyhoeddi ddydd Mercher.

'Diwylliant o ofn'

Ychwanegodd y person, sy'n ddienw yn yr adroddiad: "Mae egos cyfarwyddwyr yn beth go iawn ac mae'n rhaid i mi fod yn onest nid yw'n creu amgylchedd gwaith dymunol - gan bobl eraill rwy'n eu hadnabod, byddwn yn dweud ei fod yn ôl pob tebyg yn ddigwyddiad cyffredin yn y diwydiant."

Dywedodd unigolion eraill, sydd hefyd yn ddienw, wrth yr ymchwiliad fod diffyg dealltwriaeth o sut i adrodd am ymddygiad gwael a diffyg strwythur adnoddau dynol.

Fe wnaethon nhw hefyd awgrymu bod cyfarwyddwyr artistig "yn dal gormod o bŵer".

Disgrifiad o’r llun,

Delyth Jewell: 'Annerbyniol fod gweithwyr yn destun ymddygiad bwlio yn y gwaith'

Yn adroddiad yr ymchwiliad, disgrifiodd yr undeb llafur BECTU yr hyn y mae'n ei alw'n "ddiwylliant o ofn" a oedd yn atal dioddefwyr bwlio ac aflonyddu rhag dod ymlaen "rhag ofn cael eu galw'n rhai sy'n creu helynt".

Dywedodd yr undeb fod cynyrchiadau yn dioddef o ddarpariaethau adnoddau dynol "gydag adnoddau gwael" ar gyfer cynyrchiadau sy'n tueddu i bara dim ond am tua 10 mis yn unig, ac felly "eu bod yn gobeithio na fydd sgwrs bellach am hynny" pan fydd materion yn codi.

Dywedodd Ms Jewell ei bod yn "annerbyniol y dylai gweithwyr fod yn destun ymddygiad bwlio yn y gwaith, lle ddylai fod yn fan diogel iddyn nhw".

"Rydym yn benderfynol o sicrhau bod pawb sy'n cymryd rhan ac yn gweithio o fewn y diwydiannau creadigol yng Nghymru yn gallu gwneud hynny heb ofni rhagfarn, bwlio na gwahaniaethu," meddai.

Dywedodd y pwyllgor diwylliant fod darlledwyr wedi dweud bod ganddyn nhw brosesau a chanllawiau i fynd i'r afael ag ymddygiad gwael.

Pynciau cysylltiedig