Llywodraeth wedi gwneud 'smonach llwyr' o gynllun amaeth

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd Aled Jones o NFU Cymru fod Llywodraeth Cymru "ddim wedi gweithio hefo ni... ddim wedi ymgynghori"

Mae llywydd undeb amaethyddol wedi disgrifio'r broses o lansio cynllun cymhorthdal newydd i ddisodli Glastir fel "smonach llwyr".

Yn ôl NFU Cymru mae llawer o ffermwyr wedi mynegi pryder i'r undeb ynghylch y "golled enfawr" mewn incwm y byddan nhw'n ei hwynebu wrth i'w cytundeb Glastir presennol ddod i ben ar 31 Rhagfyr.

Er y bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd yn disodli contractau Glastir blaenorol, does ddim disgwyl iddo gael ei gyflwyno tan 2025.

Er mwyn pontio'r bwlch, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai'n lansio Cynllun Cynefin Cymru ym mis Ionawr 2024, ac agorwyd ceisiadau i ffermwyr cymwys yr wythnos ddiwethaf.

Ond mae pryderon wedi eu codi am wallau yn y broses a "diffyg ymgynghori ac asesiad effaith cynhwysfawr" i ddeall yr effaith ar fusnesau ffermio cyn gwneud y penderfyniad i ddod â holl gontractau Glastir i ben a chyflwyno Cynllun Cynefin Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei fod yn wynebu "sefyllfa ariannol eithriadol o anodd" ond hefyd "eisiau i bob ffermwr yng Nghymru gael y cyfle i wneud cais am gymorth".

'Mae o bron yn gomic'

Bydd Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn cynnig cymorth amgen i bob ffermwr cymwys o 2025 - ystod ehangach na'r rheiny sy'n rhan o'r cynllun Glastir presennol.

Sail y model newydd yw arian cyhoeddus ar gyfer nwyddau cyhoeddus, gan wobrwyo ffermydd am waith sy'n amsugno allyriadau carbon, darparu cynefinoedd natur, a gwella ansawdd dŵr ymysg pethau eraill.

Ond yn ôl llywydd NFU Cymru, Aled Jones, "maen nhw wedi gwneud smonach go iawn ohoni ar gyfer 2024".

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru fe ddywedodd: "Yn anffodus dydyn nhw ddim wedi gweithio hefo ni, dydyn nhw ddim wedi ymgynghori, does 'na ddim cyllideb a mae 'na gamgymeriadau mawr ar y mapiau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r holl gyllideb materion gwledig, gan gynnwys amaethyddiaeth, yn cyfrif am gyn lleied â 2% o wariant Llywodraeth Cymru, medd NFU Cymru

"Mae o bron yn gomic, ond does dim yn ddigri' i'r ffermwyr sy'n cael eu heffeithio.

"Tydyn nhw ddim yn gamgymeriadau bychain. Yn anffodus mae pobl sydd gyda chytundebau Glastir a lle maen nhw hefo tir Cynefin eisoes, dydi'r tiroedd yna ddim ar y mapiau, a mae 'na diroedd sydd ddim mewn Cynefin i lawr ganddyn nhw fel rhai Cynefin.

"Mae o'n fwy 'na jyst mân wallau. Mae rhai o'r aelodau sydd yn y cynllun Glastir, mae bron i hanner o'u taliadau sy'n dod i fewn ar sail cynllun Glastir.

"Mae goblygiadau colli hynny yn y flwyddyn nesaf yn wirioneddol bryderus.

"Chwarae teg, mae 'na lot o waith da wedi ei wneud o fewn y cynllun a mae isio canmol hynny, ond maen nhw wedi gwneud smonach go iawn ohoni ar gyfer 2024."

'Parhau i gefnogi cynefinoedd allweddol'

Mewn ymateb fe ddywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn ymwybodol o "rai problemau technegol bychain" ers i'r cynllun agor, ac yn gweithio i'w datrys cyn gynted â phosibl.

"Rydym eisiau i bob ffermwr yng Nghymru gael y cyfle i wneud cais am gymorth i warchod tir cynefin a chyfrannu at gyflawni ein hymrwymiadau newid hinsawdd a bioamrywiaeth," meddai llefarydd.

"Dyma pam rydym wedi agor y cynllun amaeth-amgylcheddol hwn ar gyfer 2024.

Disgrifiad o’r llun,

Mae targedau plannu coed llym yn ran o'r cynllun newydd

"Drwy'r cynllun hwn byddwn yn parhau i gefnogi cynefinoedd allweddol sydd eisoes yn cael eu rheoli yn ogystal â dod ag ardaloedd newydd o gynefin lled-naturiol dan reolaeth weithredol drwy agor y cynllun i bob ffermwr, nid dim ond y rhai sydd â chontractau Glastir presennol.

"Rydym wedi gwneud yn glir y sefyllfa ariannol eithriadol anodd rydym yn ei hwynebu. Mae ein sefyllfa ariannol hyd at £900m yn is mewn termau real.

"Rydym wedi bod yn gweithio drwy gydol yr haf i wneud popeth o fewn ein gallu i liniaru'r pwysau cyllidebol yma.

"Unwaith y bydd y gwaith hwn wedi'i gwblhau, byddwn mewn sefyllfa i gadarnhau'r gyllideb ar gyfer cynllun Cynefin Cymru."

Pynciau cysylltiedig