Heddwas wedi'i ddal â lluniau anweddus o 200 o blant

  • Cyhoeddwyd
Lewis EdwardsFfynhonnell y llun, Cyfryngau cymdeithasol
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Lewis Edwards yn ffugio bod yn fachgen 14 oed, ac yn gorchymyn y merched i yrru lluniau anweddus o'u hunain ato

Rhybudd: Fe allai cynnwys yr erthygl yma beri gofid i rai

Fe wnaeth cyn-heddwas gyda Heddlu De Cymru feithrin perthynas â dros 200 o ferched ifanc, a defnyddio blacmel i'w gorfodi i yrru lluniau anweddus o'u hunain ato.

Roedd Lewis Edwards, 24 o Ben-y-bont ar Ogwr, yn creu cyfrifon ffug er mwyn targedu merched mor ifanc â 10 oed.

Mae'n cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd, ond wedi gwrthod ymddangos yn y llys ar gyfer y gwrandawiad.

Roedd eisoes wedi pledio'n euog i 160 o droseddau, gan gynnwys annog plentyn i gymryd rhan mewn gweithred rywiol, annog plentyn i wylio gweithred rywiol, blacmel a chreu delweddau anweddus o blant.

Clywodd y llys yn flaenorol ei fod wedi cael ei ddal gyda dros 4,500 o luniau anweddus o blant - 700 o'r rheiny yn y categori mwyaf difrifol.

Dywedodd bargyfreithiwr yr erlyniad, Roger Griffiths, y bu Edwards mewn cyswllt â chyfanswm o 210 o ferched rhwng 10 ac 16 oed.

Ffynhonnell y llun, Cyfryngau cymdeithasol
Disgrifiad o’r llun,

Roedd mwyafrif llethol y troseddau wedi digwydd ar ôl i Edwards ymuno â Heddlu De Cymru yn Ionawr 2021

Fe ddigwyddodd y troseddau rhwng Tachwedd 2020 a Chwefror 2023, pan gafodd ei arestio yn ei gartref.

Clywodd y llys bod y mwyafrif llethol o'r troseddau wedi digwydd ar ôl i Edwards ymuno â Heddlu De Cymru yn Ionawr 2021.

Roedd Edwards yn ffugio bod yn fachgen 14 oed, ac yn gorchymyn y merched i yrru lluniau anweddus o'u hunain ato ar ap cymdeithasol Snapchat.

Wrth i'r heddlu chwilio tŷ Edwards, ble roedd yn byw gyda'i rieni, fe wnaeth Heddlu'r De ganfod "nifer o ddyfeisiau electronig", ond roedd yn gwrthod rhoi'r cyfrinair ar gyfer rhai o'r rhain.

Ond dywedodd Mr Griffiths fod yr heddlu wedi canfod "swm enfawr o ddeunydd" ar y dyfeisiau.

Clywodd y llys bod un ferch wedi dweud wrth Edwards ei bod eisiau lladd ei hun am ei fod yn ei bygwth gyda blacmel.

Byddai Edwards yn bygwth rhannu'r lluniau os nad oedd y merched yn gyrru mwy ato.

'Wedi colli fy hunan barch'

Darllenwyd datganiad gan un o'i ddioddefwyr, merch 13 oed, a ddywedodd ei bod wedi "colli fy niniweidrwydd" a'i bod yn cael hunllefau cyson.

"Dim ond merch ifanc oeddwn i. Fe ges i fy mygwth a fy rheoli am flwyddyn, a ro'n i'n wedi drysu, yn teimlo embaras ac wedi colli fy hunan barch," meddai.

"Rwy'n teimlo'n euog, ac yn dal yn ei chael hi'n anodd ymddiried mewn pobl."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lewis Edwards wedi gwrthod mynychu ei wrandawiad dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd

Fe wnaeth un ferch 13 oed yrru dros 100 o ddelweddau at Edwards - y mwyafrif ohonynt ohoni'n noeth.

Roedd Edwards wedi dweud wrthi y byddai'n cyhoeddi'r deunydd ar-lein pe bai hi'n stopio gyrru'r lluniau.

Mewn datganiad i'r llys dywedodd y ferch: "Ro'n i'n teimlo, os nad o'n i'n gwneud beth oedd e'n ei ofyn, y byddai'n fy ngorfodi i wneud rhywbeth gwaeth y tro nesaf.

"Rydych chi i fod i allu ymddiried yn yr heddlu, ond yr heddlu wnaeth hyn i fi."

Bygwth lladd

Fe wnaeth merch arall 12 oed geisio anwybyddu negeseuon Edwards, cyn iddo fygwth y gallai "ddod i'w thŷ a saethu ei rhieni".

Yn y pendraw fe wnaeth hi yrru lluniau anweddus ato wedi iddo ef yrru llun ati hi o gartref ei mam, yn dweud ei fod yn gwybod ble roedd hi'n byw.

Clywodd y llys ei fod wedi dweud wrth ferch arall 12 oed y byddai'n ei lladd os na fyddai hi'n gyrru lluniau ato.

Dywedodd mam y ferch mai'r tro cyntaf y daeth hi i wybod am y mater oedd pan ddaeth yr heddlu i'w thŷ.

"Rwy'n teimlo fy mod wedi'i methu hi," meddai.

'Dyw hi ddim yr un plentyn'

Dywedodd Mr Griffiths fod Edwards wedi dweud wrth un ferch 12 oed y byddai'n hunan-niweidio os na fyddai hi'n gyrru lluniau anweddus ato.

Dywedodd mam y ferch fod ei merch wedi dioddef gyda gorbryder ac wedi hunan-anafu ar ôl y digwyddiad.

"Rydyn ni'n teimlo'n ddigymorth fel rhieni. Doedden ni ddim yn gallu ei chadw hi'n ddiogel yn ein cartref ein hun," meddai.

"Dyw hi ddim yr un plentyn mwyach."

Mae disgwyl i'r gwrandawiad dedfrydu bara tridiau.

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.

Pynciau cysylltiedig