Cwpan Rygbi'r Byd: Cymru'n troi at y genhedlaeth nesaf

  • Cyhoeddwyd
Carfan CymruFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Warren Gatland wedi dewis 19 o flaenwyr a 14 o olwyr yn ei garfan o 33 o chwaraewyr.

Ar drothwy Cwpan Rygbi'r Byd allan yn Ffrainc bron yn amhosib yw'r dasg o broffwydo sut ymgyrch fydd hi yn y pendraw i dîm Cymru.

Wedi un o'r tymhorau mwyaf cythryblus yn hanes y gamp ar ac oddi ar y cae, mae 'na ddirgelwch yn dal i amgylchynu'r garfan a nifer o farciau cwestiwn yn parhau.

Yr hyn sy'n gyffredin rhwng y gystadleuaeth bresennol a'r tair blaenorol yw enw Warren Gatland.

Mae e 'nôl yn brif hyfforddwr wedi'r llanast Hydref diwethaf o dan Wayne Pivac ond, os oedd y cefnogwr mwyaf pybyr yn disgwyl gwyrthiau dros nos yna mae'r realiti wedi bod dra gwahanol.

Wedi Pencampwriaeth y Chwe Gwlad hynod siomedig roedd rhaid newid trywydd yn gyflym.

Ffynhonnell y llun, Chris Fairweather/Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Warren Gatland (dde) yn ôl wrth y llyw yn dilyn cyfnod Wayne Pivac

Heb os roedd na ddyhead i gyflwyno chwaraewyr newydd ifanc di-brofiad yn y Chwe Gwlad ond fe ddaeth hyn yn amlycach wedi ymddeoliad Justin Tipuric a'r ysbrydoledig Alun Wyn Jones, ynghyd â Ken Owens sydd wedi ei anafu.

Nid ar chwarae bach fyddai dod o hyd i chwaraewyr i gamu i'r adwy a gymaint o fwrn yw'r gapteniaeth er enghraifft, ma 'na ddau o'r to ifanc wedi eu dewis i rannu'r cyfrifoldeb.

Mae 'na deimlad ein bod ni o bosib wedi bod yn yr union fan o'r blaen.

'Nôl yn 2011, Sam Warbuton, ag yntau'n 23 oed, oedd dewis Gatland i arwain y garfan yn Seland Newydd ac mae yna gymariaethau cyson wedi bod.

Disgrifiad,

Jac Morgan (chwith) a Dewi Lake fydd cyd-gapteiniaid Cymru

Mae Jac Morgan, fel Warburton cynt, yn flaenasgellwr o fri ac yn barod wedi bwrw ei brentisiaeth wrth arwain y tîm dan 20.

Yn un sydd wedi disgleirio ar lefel ranbarthol i'r Gweilch a'r Scarlets cynt mi oedd yn ddewis naturiol. Yn ddyn ei filltir sgwâr o Fynamman Uchaf mae'r gŵr hoffus, diymhongar yn dalent aruthrol ac yn barod i serennu ar y lefel uchaf.

Gŵr o'r un brethyn yw Dewi Lake, yn hannu o Gwm Ogwr, mae'r bachwr yn un sydd wedi'i baratoi ar gyfer y rôl ers blynyddoedd.

Fel Jac roedd Dewi yn gapten ar y tîm dan 20 ac fe arweiniodd y tîm buddugol yn erbyn ieuenctid y Crysau Duon yng Nghwpan y Byd bedair blynedd yn ôl.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

"Mae Dewi Lake yn un sydd wedi'i baratoi ar gyfer y rôl ers blynyddoedd"

Heb os mae ei faint corfforol a'i natur ddigyfaddawd ar y cae eisoes wedi creu argraff, ac yn union y math o chwaraewr fyddai wedi tynnu sylw'r prif hyfforddwr.

Mae ei botensial yn anferth ond y gofid, fel ry'n ni eisoes wedi ei weld yn ystod y gemau paratoadol yw ei record ag anafiadau sydd wedi ei lethu dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mi fydd cefnogwyr Cymru yn croesi popeth felly ei fod yn gwbl iach wrth gyrraedd y cyfandir.

Un enw sydd o bosib ddim ar wefusau pawb yw'r maswr Sam Costelow.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sam Costelow wedi'i ffafrio yn hytrach nag Owen Williams fel un o'r maswyr

Efallai'n wir fod y gystadleuaeth am y crys rhif 10 rhwng Dan Biggar a Gareth Anscombe ond fe fydd sawl un yn cofio Rhys Priestland, gŵr na fuodd yn ddewis cyntaf ar drothwy'r gystadleuaeth yn 2011 yn blodeuo fel maswr yn y gystadleuaeth honno.

Felly peidiwch diystyrru'r gŵr o Bencoed rhag creu ei farc y tro hwn.

Os yw'r enw blaenorol yn gyndyn i fod yn y penawdau, dyw'r un ddim yn wir am Louis Rees-Zammit.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Louis Rees-Zammit yn teimlo mai dyma'r llwyfan i serennu

Mae'r gwibiwr trydanol wedi bod yn un o'r sêr amlycaf ers ei gap cyntaf rai blynyddoedd yn ôl ac fe ddangosodd ei dalent aruthrol â chais anhygoel yn Yr Alban.

Ar ôl methu ag argyhoeddi'n llwyr ar daith y Llewod ddwy flynedd yn ôl a hoelio lle yn y tîm prawf, mi fydd e'n teimlo mai dyma'r llwyfan i serennu yn debyg i'r ifanc George North yn Seland Newydd 12 mlynedd yn ôl.

Mae'r ddawn a'r gallu gan y gŵr o'r brifddinas i ffrwydro yn Ffrainc ac os yw Rees-Zammit yn tanio yna fe fydd Cymru yn llwyddo.

Carfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd

Blaenwyr: Taine Basham, Adam Beard, Elliot Dee, Corey Domachowski, Ryan Elias, Taulupe Faletau, Tomas Francis, Dafydd Jenkins, Dewi Lake, Dillon Lewis, Dan Lydiate, Jac Morgan, Tommy Reffell, Will Rowlands, Nicky Smith, Gareth Thomas, Henry Thomas, Christ Tshiunza, Aaron Wainwright.

Olwyr: Josh Adams, Gareth Anscombe, Dan Biggar, Sam Costelow, Gareth Davies, Rio Dyer, Mason Grady, Leigh Halfpenny, George North, Louis Rees-Zammit, Nick Tompkins, Johnny Williams, Liam Williams, Tomos Williams.

Gwyliwch: Cwestiynau cyflym i Jac Morgan

Disgrifiad,

Bu'r capten Jac Morgan yn ateb cwestiynau cyflym Chwaraeon BBC Cymru cyn gêm baratoadol olaf Cymru cyn Cwpan Rygbi'r Byd