Cynghorau'n wynebu bwlch ariannu o bron i £750m

  • Cyhoeddwyd
ArianFfynhonnell y llun, Vitalii Petrushenko
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r adroddiad yn rhybuddio ei bod yn ymddangos bod cyllid llywodraeth leol ar "lwybr anghynaliadwy"

Fe allai gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan gynghorau lleol Cymru gael eu heffeithio'n ddifrifol gan brinder cyllid yn y blynyddoedd i ddod, meddai arbenigwyr cyllid.

Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yn amcangyfrif y gallai'r bwlch ariannu gyrraedd bron i £750m erbyn 2027.

Dywedodd yr arbenigwr ar gyllid cyhoeddus, Guto Ifan fod galwadau o ran gwariant yn debygol o fod yn fwy na'r cynnydd disgwyliedig mewn cyllid.

"Fe allai hyn gael effaith ddifrifol ar ddarpariaeth gwasanaethau lleol," rhybuddiodd.

Mae pwysau gwariant diweddar wedi cynnwys codiadau cyflog i staff ac athrawon llywodraeth leol, er gwaethaf y ffaith bod llawer o weithwyr wedi profi toriadau cyflog mewn termau real yn ystod cyfnod o chwyddiant uchel.

'Penderfyniadau anodd'

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn cydnabod bod awdurdodau lleol yn "wynebu penderfyniadau anodd ac rydym yn parhau i weithio'n agos gyda chynghorau i gwrdd â'r heriau cyffredin rydyn ni'n eu hwynebu".

Disgrifiad o’r llun,

"Gallai hyn gael effaith ddifrifol ar ddarpariaeth gwasanaethau lleol" meddai Guto Ifan

Mae cynghorau yn gyfrifol am wasanaethau gan gynnwys ysgolion, gofal cymdeithasol, tai, trafnidiaeth a phriffyrdd, hamdden, llyfrgelloedd, ailgylchu a chasglu sbwriel.

Mae'r adroddiad hwn yn seiliedig ar gynlluniau gwariant dangosol Llywodraeth y DU, sy'n cynnig toriadau sylweddol ac felly gwasgfa fawr ar gyllid i Lywodraeth Cymru.

Mae'r adolygiad yn awgrymu y gallai cynghorau liniaru diffygion yn y flwyddyn ariannol 2024-25 drwy dynnu ar gronfeydd wrth gefn, codi'r dreth gyngor o fwy na 5% a derbyn rhagor o arian gan Lywodraeth Cymru.

'Anghynaliadwy'

Wedi hynny, mae'r ddogfen yn rhybuddio y bydd y bwlch ariannu yn tyfu bob blwyddyn ac yn cyrraedd £744m erbyn 2027, yr hyn y mae'r adroddiad yn ei alw'n "lwybr anghynaliadwy".

Mae'r adolygiad hefyd yn rhybuddio os yw gweinidogion yn bwriadu cynyddu gwariant ar iechyd, ysgolion a gofal plant bydd angen iddyn nhw ddod o hyd i doriadau o £318m mewn termau real erbyn 2027-28 ym mhob maes arall.

Dywedodd Mr Ifan, o dîm dadansoddi cyllid Cymru: "Er bod gwasanaethau llywodraeth leol wedi'u harbed rhag y toriadau a gyhoeddwyd ar gyfer eleni, mae'r rhagamcanion a amlinellwyd yn y papur briffio yn awgrymu rhagolygon tymor canolig anodd ar gyfer cyllidebau awdurdodau lleol Cymru.

"Mae chwyddiant a chodiadau cyflog yn debygol o ostwng dros y blynyddoedd nesaf, ond mae pwysau gwariant yn dal yn debygol o fod yn fwy na'r cynnydd a ragwelir mewn cyllid."

Roedd Mr Ifan yn cwestiynu pa mor realistig yw cyflawni'r toriadau pellach hyn yng "nghyd-destun y toriadau dwfn mewn gwariant ers 2010".

"Mae unrhyw gynnydd yng nghyllidebau awdurdodau lleol yn debygol o ddod o lefelau uwch o dreth cyngor, sy'n cymryd mwy o arian yn gymesur oddi wrth aelwydydd tlotach yng Nghymru," meddai.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddiwygio'r dreth gyngor fel rhan o gytundeb cydweithio gweinidogion Llafur gyda Phlaid Cymru.

Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod wedi cynyddu cyllid awdurdodau lleol ar gyfer eleni "gyda chynnydd o 7.9% ar draws Cymru ar sail tebyg am debyg".

"Mae hyn yn dilyn cynnydd o 9.4% yn 2022-23. Ond rydyn ni'n cydnabod bod awdurdodau lleol yn wynebu penderfyniadau anodd ac rydyn ni'n parhau i weithio'n agos gyda chynghorau i gwrdd â'r heriau cyffredin rydyn ni'n eu hwynebu."

Ymateb

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar lywodraeth leol, Sam Rowlands: "Gyda thrigolion sy'n gweithio'n galed yn parhau i wynebu cynnydd yn y dreth gyngor, rydyn ni'n galw am adolygiad llawn o'r fformiwla ariannu llywodraeth leol, ac i sicrhau bod cynghorau'n defnyddio eu cronfeydd wrth gefn cyn taro trigolion gyda threth cyngor uwch."

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar gyllid a llywodraeth leol, Peredur Owen Griffiths, fod angen "eglurder brys" ar gynghorau gan fod "cymaint o wasanaethau dydd i ddydd o bosib mewn perygl".

"Mae Plaid Cymru yn galw ar weinidogion Llafur i gyhoeddi manylion fesul llinell y penderfyniadau maen nhw wedi'u gwneud ac egluro beth fydd y canlyniadau i gynghorau Cymru," meddai.