Galw am drafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl dan 25 oed
- Cyhoeddwyd
Dylai trafnidiaeth gyhoeddus fod am ddim i bobl dan 25 oed, yn ôl Senedd Ieuenctid Cymru, corff etholedig o 60 o bobl ifanc o bob rhan o Gymru.
Mae'n dadlau y byddai'r polisi "bron yn talu amdano'i hun" gan fod pobl ifanc yn gallu defnyddio'r gwasanaeth i fynd i'r gwaith, siopa neu fynd allan.
Mae'r adroddiad, o'r enw Ffyrdd Gwyrdd, yn dweud mai'r prif rwystr i fwy o bobl ifanc ddefnyddio bysiau a threnau yw cost.
Dywedodd gweinidogion eu bod yn cynnig ystod o gynlluniau trafnidiaeth gyhoeddus i bobl ifanc sy'n cael eu hadolygu'n barhaus.
'Arferion iach'
Fe wnaeth yr adroddiad, gan bwyllgor hinsawdd ac amgylchedd Senedd Ieuenctid Cymru, arolwg o 1,300 o bobl ifanc am eu harferion teithio fel rhan o'i ymchwiliad.
Dywedodd Aelod o'r Pwyllgor Elena Ruddy: "Dwi'n meddwl ei bod yn bwysig sefydlu arferion iach ar gyfer y dyfodol - os yw pobl ifanc yn dod i arfer â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus maen nhw'n fwy tebygol o barhau pan fyddan nhw'n hŷn.
"Ac yna mae bron yn talu amdano'i hun os oes mwy o bobl yn defnyddio'r gwasanaeth, felly rwy'n credu ei bod yn gwbl amlwg mewn gwirionedd."
Ymhlith y bobl ifanc a gafodd eu holi, dywedodd saith o bob 10 o ymatebwyr i'r arolwg eu bod wedi ystyried eu heffaith amgylcheddol wrth benderfynu sut i gyrraedd rhywle.
Dywedodd bron i hanner yr ymatebwyr y byddan nhw'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus llawer mwy pe bai am ddim i bobl dan 25 oed a dywedodd 27% arall y byddan nhw'n ei ddefnyddio ychydig yn fwy.
'Annog'
Dywedodd aelod arall o'r pwyllgor, Hermione Vaikunthanathan-Jones: "Drwy wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn rhad ac am ddim, byddai'n annog pobl ifanc i'w ddefnyddio'n amlach.
"Hefyd, mae'n golygu ei fod yn fwy hygyrch i ystod o bobl."
Erbyn 2040, mae Llywodraeth Cymru eisiau i 45% o deithiau gael eu gwneud ar drafnidiaeth gyhoeddus, cerdded neu feicio.
Ar wahân i gost, tynnodd yr ymatebwyr sylw at argaeledd trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig fel problem.
Mae'r adroddiad, dolen allanol yn gwneud cyfanswm o 13 o argymhellion, gan gynnwys mwy o fuddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus yn gyffredinol a llwybrau teithio llesol mwy diogel.
Bydd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru a bydd gweinidogion yn cael cyfle i ymateb mewn cyfarfod fis nesaf.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae yna amrywiaeth o gynlluniau sy'n cynnig teithio am ddim i blant a phobl ifanc ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru".
"Mae'r rhain yn cael eu hadolygu'n barhaus."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2023