Trafnidiaeth Cymru: 'Colli swyddi heb arian ychwanegol'
- Cyhoeddwyd
Byddai Trafnidiaeth Cymru wedi gorfod torri ar wasanaethau a nifer eu staff pe bai nhw heb dderbyn rhagor o arian gan Lywodraeth Cymru wythnos diwethaf, yn ôl Prif Weithredwr y cwmni.
Ddydd Mawrth, fe gyhoeddodd Gweinidog Cyllid Cymru nifer o doriadau mewn sawl adran, ond mae Trafnidiaeth Cymru wedi derbyn £125m ychwanegol.
Cafodd y penderfyniad ei feirniadu gan rai o aelodau'r gwrthbleidiau yn y Senedd.
Ond yn ôl James Price, byddai Trafnidiaeth Cymru mewn sefyllfa "anodd ofnadwy" heb yr arian ychwanegol.
Pam fod Trafnidiaeth Cymru wedi derbyn mwy o arian?
Roedd y cyhoeddiad gan Rebecca Evans ddydd Mawrth yn rhan o ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael a phwysau ariannol sylweddol.
Mae'r llywodraeth wedi torri'n ôl ym mron pob rhan o'i chyllideb, gan gynnwys yr adran Addysg a'r Gymraeg, yr adran Materion Gwledig a'r adran Cyfiawnder Cymdeithasol.
Ond, mae gwariant ar y gwasanaeth iechyd a threnau wedi cynyddu - gyda chyllideb Trafnidiaeth Cymru yn cynyddu 50% yn 2023-24.
Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd Ms Evans y byddai'r arian yn helpu diogelu gwasanaethau i deithwyr, ac yn cefnogi'r newidiadau sydd eisoes ar waith".
Llywodraeth Cymru sy'n berchen ar gwmni Trafnidiaeth Cymru, sydd wedi bod yn gyfrifol am wasanaethau trên ar hyd rhan fwya'r wlad ers 2018.
Dywedodd Mr Price wrth raglen Politics Wales y BBC, fod yr arian ychwanegol yn help wrth lenwi'r twll yng nghyllideb Trafnidiaeth Cymru wrth i werthiant tocynnau ostwng.
Mae gwerthiant tocynnau wedi dychwelyd i lefelau a welwyd cyn y pandemig, ond mae hyn yn lawer is na'r hyn yr oedd y cwmni wedi ei ragweld pum mlynedd yn ôl.
"Dim gostyngiad yn nifer y teithwyr yw hyn, ond y ffaith bo' ni heb weld y twf disgwyliedig yn ystod cyfnod y pandemig," meddai Mr Price.
"Mae hynny'n golygu bod ein hincwm ni tua £100 yn llai ar hyn yr oedden ni wedi ei obeithio, ac mae hynny'n cynnig her enfawr i ni.
"Dydyn ni ddim eisiau bod yn y sefyllfa yma, ac yn sicr dydyn ni ddim eisiau bod yn cymryd arian gan adrannau eraill o'r sector gyhoeddus, felly rydyn ni'n gweithio er mwyn ceisio gwella'r sefyllfa cyn gynted â phosib.
Wrth ymateb i gwestiwn ynglŷn â'r hyn fyddai wedi digwydd i'r cwmni heb yr arian ychwanegol, dywedodd Mr Price: "Byddwn ni wedi bod mewn sefyllfa lle byddai'n rhaid i ni dorri ar wasanaethau, a thorri yn sylweddol ar nifer y staff. Dyna'r unig ffordd y byddwn ni wedi gallu parhau i weithredu.
A fydd Trafnidiaeth Cymru yn yr un sefyllfa'r flwyddyn nesaf?
Awgrymodd Mr Price y byddai'r cwmni angen cefnogaeth ychwanegol eto'r flwyddyn nesaf.
"Wrth edrych ar y rhagolygon o 2018, dwi wir yn credu ei bod hi am fod yn anodd iawn i ddal i fyny efo lle dyle ni fod.
"Yr her sydd wedi ei osod gan y bwrdd a Llywodraeth Cymru yw i gau'r bwlch yna cyn gynted a fedrwn ni.
"Dwi'n meddwl ei bod hi'n bosibl y bydd angen mwy o gefnogaeth ariannol nag yr oedden ni wedi ei ddisgwyl."
Beth am wasanaethau bysiau?
Yn y cyfamser, mae sefydliadau sy'n cynrychioli'r diwydiant bysiau wedi mynegi eu siom nad oes unrhyw gyllid ychwanegol ar eu cyfer.
Mae yna rybudd y gallai hyd at 25% yn rhagor o wasanaethau bws yng Nghymru ddiflannu pan ddaw grantiau cyfnod y pandemig i ben ym mis Mawrth.
Dywedodd Aaron Hill, Cyfarwyddwr Cydffederasiwn Trafnidiaeth Teithwyr Cymru: "Unwaith eto, yr hyn welwn ni - gyda 100m o deithwyr bws yng Nghymru bob blwyddyn a 25m o deithwyr yn defnyddio'r trenau - bod yna anghyfartaledd gwirioneddol o ran yr arian sy'n cael ei fuddsoddi yn y rheilffyrdd o'i gymharu â gwasanaethau bws.
"Dydyn ni ddim yn awgrymu nad yw'r rheilffyrdd angen yr arian yna, ond rydyn ni mewn sefyllfa lle gallai 20-25% o wasanaethau bws ddiflannu yn y flwyddyn nesa, a does dal dim sicrwydd be fydd yn digwydd o ran cyllid wedi hynny".
Dywedodd Andrew Potter, Darlithydd trafnidiaeth a logisteg ym Mhrifysgol Caerdydd, bod angen penderfynu yn y tymor hir, faint o arian dylid ei fuddsoddi yn y rheilffyrdd o'i gymharu â gwasanaethau bws.
"Ar y funud, mae cwmnïau bysiau yn sicr dan anfantais o ran y fath o gefnogaeth ariannol sy'n cael ei gynnig gan y llywodraeth," meddai.
Wrth ymateb i gwestiwn ar y mater yn sesiwn gwestiynau'r Prif Weinidog ddydd Mercher, dywedodd Mark Drakefod fod yr arian sy'n cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau trên a bysiau yn uwch nag erioed.
Ychwanegodd nad oedd buddsoddiad y llywodraeth mewn gwasanaethau bysiau wedi cael ei effeithio gan y broses "boenus" o gyflwyno toriadau.
Bydd rhaglen Sunday Politics Wales yn cael ei darlledu ar BBC One Cymru am 10:00 ddydd Sul.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2023